Mae yna ddiffyg ymwybyddiaeth ynghylch effaith prinder darpariaeth Gymraeg ar gyfer pobol â dementia, yn ôl darlithydd mewn dementia ym Mhrifysgol Bangor.

Er bod yna bolisïau i sicrhau gwasanaethau Cymraeg, mae Dr Catrin Hedd Jones yn synhwyro bod dipyn o rwystredigaeth nad yw hynny’n treiddio lawr i brofiadau pobol ar lawr gwlad.

Mae hi wrthi’n gwneud ymchwil a fydd, gobeithio, yn gallu sicrhau bod pobol yn gallu gwneud asesiadau dementia drwy’r Gymraeg.

Mae profion Saesneg wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg yn barod, ond nod yr ymchwil gan IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith yw eu treialu â siaradwyr Cymraeg a’u dilysu.

Cafodd cynhadledd ar-lein ei chynnal ddechrau’r wythnos, yn trafod y berthynas rhwng gofal dementia a’r Gymraeg, a chyflwyno’r ymchwil diweddar i wasanaethau dementia drwy gyfrwng y Gymraeg.

‘Sicrhau hyder’

Dywedodd Dr Catrin Hedd Jones wrth golwg360 fod ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi codi pryderon bod siaradwyr dwyieithog yn mynd at wasanaethau dementia yn hwyrach.

“Roedd y siaradwyr Cymraeg yn hŷn ac yn waeth, roedden nhw wedi peidio mynd am help fyswn i’n gesio, heb wneud ymchwil pellach,” meddai.

Yn 2018, mewn adroddiad gan Alzheimers Cymru a Chomisiynydd yr Iaith, Meri Huws ar y pryd, nodwyd deg o argymhellion ar gyfer gofal dementia a’r Gymraeg, ac un ohonyn nhw oedd pwysigrwydd cynnig profion dementia i bobol yn yr iaith sydd fwyaf naturiol iddyn nhw.

Fis Mai y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei bod hi’n iawn i bobol wneud cais i ddilysu’r profiad.

“Mae yna gyfieithiad o’r profion wedi bod o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac mae’r cyfieithiadau wedi cael eu gwneud drwy broses drylwyr iawn,” meddai Dr Catrin Hedd Jones.

Syniad y dilysu yw “sicrhau hyder pobol glinigol bod y profion sydd yn Gymraeg rŵan yn perfformio’r un fath efo poblogaeth o Gymry Cymraeg â fysa’r profion Saesneg yn perfformio efo poblogaeth o Saeson”.

“Mae yna dipyn o waith caib a rhaw er mwyn sicrhau nad oes yna neb mewn gwirionedd yn gallu troi rownd a dweud ‘Does gennym ni ddim yn hyder yn y profion Cymraeg’,” meddai.

Asesiadau Cymraeg

Mae Hanna Thomas, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yn gwneud rhywfaint o’r gwaith caib a’r rhaw hwnnw.

Fel rhan o’i hymchwil, mae hi wedi bod yn cynnal asesiadau er mwyn dilysu’r profion Cymraeg.

“Er mwyn dilysu’r asesiadau mae’n rhaid cynnal asesiadau eang a systematig ar drawstoriad helaeth o oedolion hŷn, dwyieithog (Cymraeg-Saesneg), heb ddementia ac ar grŵp o oedolion sydd yn byw gyda’r clefyd ar ddau bwynt amser gwahanol,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r broses yma yn ein galluogi i ddeall sut byddai’r boblogaeth gyffredinol yn sgorio yn yr asesiadau, ac yna cymharu’r sgoriau hynny gyda sgoriau’r rhai sy’n byw gyda dementia.

“Yna, gallwn weithio allan beth fyddai sgôr arferol a beth fyddai’r torbwynt ar gyfer sgôr yn is na’r disgwyl a all fod yn arwydd o ryw nam gwybyddol.”

Mae’r oedi yn sgil Covid wedi golygu mai dim ond y data ar gyfer pobol heb Ddementia mae Hanna Thomas yn ei gasglu ar gyfer ei hymchwil.

Mae Hanna Thomas yn dweud bod rhai pobol yn mynnu asesiadau Cymraeg ar y funud, er nad ydyn nhw wedi’u dilysu eto.

“Mae’n bwysig bod yn glir nad yw hyn yn golygu bod pobol wedi cael diagnosis anghywir oherwydd asesiad Cymraeg,” meddai.

“Rhan fach o’r broses o gael diagnosis yw’r asesiadau, mae’n rhaid hefyd cael sganiau o’r ymennydd, profion gwaed a thracio newidiadau dros amser ac ati.

“Bydd dilysu’r asesiadau yn sicrhau bod y broses yma mor gywir ac mor gyfforddus â phosibl i bobol.”

Dydy hi ddim yn hollol glir a yw pobol ddwyieithog yn debygol o wneud yn well mewn asesiadau Cymraeg eto, meddai, ond mae’r llenyddiaeth yn awgrymu bod cynnal asesiad mewn ail iaith yn gallu rhoi person dan anfantais.

Felly, gallai cynnal asesiad yn Saesneg gyda siaradwyr Cymraeg brodorol (neu’r rhai sy’n fwy hyderus yn Gymraeg) eu rhoi o dan anfantais,” meddai Hanna Thomas.

“Byddwn yn deall mwy am hyn unwaith i ni ddadansoddi data ein hymchwil.”

Camau nesaf

Os yw’r profion Cymraeg yn cael yr un statws gwyddonol â’r rhai Saesneg, mae’n rhaid gofyn wedyn beth yw’r anhawster wrth eu darparu nhw, meddai Dr Catrin Hedd Jones.

Byddai’n rhaid gofyn a yw hi’n angenrheidiol bod gan bawb sy’n darparu’r gwasanaethau hyn fynediad at siaradwyr Cymraeg, meddai.

“Yn 2014, fe wnaeth ymchwil ddangos os oeddet ti’n mynd i glinig cof i gael prawf wedi’i gyfieithu, fysa nhw’n cael rhywun o adran arall i wneud y prawf.

“Dydy hynny ddim yr un gofal a pharch.”

Ychwanega Dr Catrin Hedd Jones bod yna lot o dystiolaeth bod hyn yn broblem, ond mae hi’n gofyn “lle mae’r gweithredu i’w wneud yn well?”

“O le ydyn ni am gael yr hyder? Mae’n grêt bod gennym ni’r statws i’r ddwy iaith, ond pam bod o ddim yn gweithio?” meddai.

Mae Byrddau Iechyd i fod i gydymffurfio â safonau iaith y Comisiynydd, ond “be’ sy’n beryg yw bod lot o wasanaethau’r bwrdd iechyd yn cael eu comisiynu allan i elusennau a chwmnïau preifat”, meddai.

“Dyna le, ella, mae gennym ni loophole, lle mae’r cydymffurfio wedyn?

“Dydy Cymry Cymraeg wedyn ddim yn mynd i’r gwasanaethau oherwydd dydy’r gwasanaeth ddim yn cyfateb efo’r hyn maen nhw angen.

“Mae’r bobol Saesneg wedyn yn dweud ‘Lle mae’r bobol Cymraeg, mae’n rhaid nad ydyn nhw angen ni’… ac mae’n cario ymlaen.”

Sefydlu grŵp arbenigol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi sefydlu grŵp arbenigol a fydd yn cefnogi eu gweledigaeth hirdymor ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal.

“Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd sicrhau bod gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae adnoddau asesu dementia Cymraeg ar gael y gall pob Bwrdd Iechyd eu defnyddio,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi comisiynu ymchwil ar gadernid asesiadau dementia i nodi a defnyddio’r dulliau asesu dementia fwyaf cadarn, sydd wedi’u dilysu’n glinigol, i’w defnyddio yn yr iaith Gymraeg.”