Mae hi’n hanner can mlynedd ers Bloody Sunday yng Ngogledd Iwerddon, pan saethodd byddin Prydain 26 o sifiliaid yn Derry, gan ladd 14.

Cafodd mwy o bobol eu saethu ar Ionawr 30, 1972 yn ardal Bogside yn Derry nag ar unrhyw achlysur arall yn ystod y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon.

Fe wnaeth Bloody Sunday, a’r gwrthdaro, “drawmateiddio” pobol yng Ngogledd Iwerddon, meddai André Stitt, artist a gafodd ei fagu yn Belffast ac sydd bellach yn Athro Celf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, wrth golwg360.

Cafodd pobol o bob enwad, ar ddwy ochr y gwrthdaro, eu heffeithio ac mae eu straeon yn cyd-blethu, meddai André Stitt, a ddefnyddiodd gelf i “ymdopi â’r trawma”.

14 oed oedd André Stitt yn 1972, ac mae ei holl atgofion am y cyfnod yn rhai “corfforol” iawn, “fel rhywun yn eich dyrnu yn eich bol”, meddai.

Mae’r atgofion am y cyfnod wedi cael eu “plannu” yn ei feddwl, “fel rhywbeth sy’n ofnadwy o visceral, ac fel rhyw fath o bwysau trwm pan dw i’n meddwl amdano”, meddai.

“Mae fy nghorff yn newid pan dw i’n meddwl amdano,” meddai.

“O ran digwyddiadau penodol, mae gan bawb eu straeon eu hunain ac mae ein straeon yn cydblethu.

“I ni wnaeth fwy trwy’r gwrthdaro, dw i ddim yn meddwl bod yr atgofion yn pylu.”

‘Trawmateiddio’

Drwy ddweud straeon, a’r rheiny yn ffordd neilltuol pobol Gogledd Iwerddon – “yn llawn banter a choegni” – y daeth cenhedlaeth Andre Stitt drwyddi, meddai.

“Rydyn ni’n siarad amdano nawr ac mae yna ryw fath o goegni, a diystyriaeth hefyd, yn ei gylch, er ein bod ni, dw i’n credu, wedi’n trawmateiddio’n fawr ganddo,” esbonia.

“Yn siarad dros fy hun, dw i wedi cael fy nhrawmateiddio mewn ffordd na wnes i ddychmygu ar y pryd oherwydd roedden ni’n gorfod gwneud pethau’n normal, mewn ffordd.

“Roedd pethau’n edrych yn normal, ond doedden nhw ddim.

“Wrth ymdopi gydag e nawr, mae yna ryw fath o smalio. Mae e’n cuddio teimlad dwfn o drawma dw i’n credu.

“O fy safbwynt i fel artist, dw i wedi defnyddio celf i ddod i dermau â’r trawma yna, yn ogystal â blynyddoedd o therapi, mae’n rhaid dweud.”

Rhywbeth sydd ddim yn cael ei drafod ddigon, meddai André Stitt, yw safle meddyginiaeth ar bresgripsiwn ar gyfer cenedlaethau wnaeth fyw drwy’r gwrthdaro – sydd yn eu cymryd, mae’n tybio, i ddelio â’r effaith, boed yn orbryder, iselder, ac ati.

Effeithio ar bawb

André Stitt a Tara Babel, poster ‘Akshun for Derry’, 1980 yn ymateb i Bloody Sunday | © Akshun Archive

Ac yntau yn ei arddegau cynnar pan ddigwyddodd Bloody Sunday, mewn rhai ffyrdd roedd y peth yn “teimlo fel antur fawr”, meddai André Stitt.

“Ac eto, roedd hynny’n ffordd o ddelio ag e. Ar yr un pryd, doedden ni ddim yn tueddu i siarad amdano.

“Pan ddigwyddodd Bloody Sunday, roedd yna ymdeimlad o sioc amlwg am yr hyn oedd wedi digwydd.

“Ar yr un amser, dw i ddim yn cofio dim trafod arno yn yr ysgol. Roedd e’n rhy anodd i ddelio ag e, felly roedden ni’n cuddio tu ôl i’n hunaniaethau enwadol.

“Roeddwn i’n dod o gefndir Protestannaidd, ond be’ dw i’n ei ddweud yw ei fod wedi effeithio ar bawb.

“Mae yna gydblethu yma o rywbeth dynol iawn, iawn. Dw i’n mynd yn ôl at ei ochr gorfforol, fel cael eich taro yn eich stumog, neu gael eich taro yn eich pen.”

Celf a’r gwrthdaro

Ar ôl cyfnod yn astudio Celf yn Belffast, gadawodd André Stitt Ogledd Iwerddon, ac mae’n dweud nad “oedd yna ddim byd arall i’w wneud ond gadael”.

“Roedden ni gyd yn ffoaduriaid, roedd rhaid i ni gyd adael. Roedd y lle’n warzone, fe wnaeth e effeithio ni’n economaidd, fe wnaeth e effeithio ni o ran unrhyw yrfa yn y dyfodol,” meddai.

“Ond roedd yna fygythiadau gwaelodol o ran yr hyn roedd rhywun yn ei wneud, os nad oeddech chi’n cyd-fynd â’ch grŵp, boed yn genedlaetholwyr neu Brotestaniaid, ac eich bod hi rywsut yn “rhyfedd”, yn cael eich gweld fel yr “eraill”, y bobol doedd ddim yn ffitio mewn, doedd gennych chi ddim busnes yn byw yno achos roedd yn galed.”

Butcher Boys gan André Stitt | © Akshun Archive

Yn ddiweddar, cymerodd André Stitt ran mewn arddangos yn edrych ar y can mlynedd ers creu Gogledd Iwerddon, ac yn ystyried sut y gwnaeth artistiaid ymateb i hunaniaeth y wlad dros y degawdau.

Roedd gwaith Andre Stitt yn edrych ar groniclo gwrthdaro, ac felly yn ymwneud â’r “helyntion”, fel y cyfeirir atyn nhw, yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd celf yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ddogfennu digwyddiadau, yn ogystal â fel rhywbeth personol wrth i bobol ddelio â’u profiadau, meddai.

“Diolch byth, chefais i mo fy saethu. Cefais fy nghuro ambell waith. Ond cafodd rhai o fy ffrindiau eu saethu, fe wnaethon nhw fyw, ac maen nhw wedi gwneud gwaith am eu hanafiadau a’r creithiau sydd ganddyn nhw.

“Fe wnaethon ni gyd ddelio ag e mewn ffyrdd gwahanol, ac i fi daeth y celf perfformiadol yn elfen bwysig yn hynny achos roedd e’n cyd-fynd â’r holl syniadau hynny am ymgyrchu’n ymwneud â gwleidyddiaeth, beth oedd yn digwydd ar y stryd.

“Roedd rhaid i fi fynd allan i’r stryd a gwneud perfformiadau i dynnu sylw at yr hyn oedd yn digwydd.”