Mae prosiect arloesol sy’n ceisio sicrhau dyfodol disglair i wlân o Gymru yn mynd o nerth i nerth.

Bwriad menter ‘Gwnaed â Gwlân’ yw gwella dealltwriaeth pobol o’r deunydd, hwyluso cynnyrch newydd, a chynnig atebion arloesol i’r heriau sy’n wynebu’r gadwyn gyflenwi.

Roedd y diwydiant gwlân yn arfer bod yn un o ddiwydiannau mwyaf blaenllaw Cymru, gyda melinau, ffatrïoedd a siopau yn ffynnu ledled cefn gwlad yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bryd hynny, roedd gwlân yn un o’r deunyddiau pwysicaf ar gyfer cynhyrchu brethynnau, gwlanenni a dillad i bobol Cymru a thu hwnt.

Erbyn heddiw, mae’r diwydiant wedi lleihau’n sylweddol, gyda dim ond llond llaw o felinau’n parhau i weithredu, ond mae’r hanes yn weledol mewn sawl tref, yn enwedig yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre.

Ar ben hynny, mae costau cneifio wedi codi’n uwch na phris gwlân, sy’n golygu nad yw’n hyfyw i werthu’r deunydd fel cynnyrch.

‘Ychwanegu gwerth’

Er mwyn adfer y diwydiant a hyrwyddo gwlân fel deunydd cynaliadwy ac amlbwrpas ar gyfer y dyfodol, mae Menter Môn wedi cydweithio â’r Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor ar y fenter.

Maen nhw eisoes wedi datblygu pum prototeip i gynyddu potensial gwlân fel cynnyrch.

“Rydyn ni yn hynod falch i fod yn gweithio gyda Menter Môn ar y prosiect hwn,” meddai Graham Ormondroyd o’r Ganolfan Biogyfansoddion.

“Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan fawr mewn arloesedd, gwyddoniaeth a thechnoleg yng ngogledd Cymru.

“Y gobaith ydi y bydd y prototeipiau hyn yn datblygu ac yn cynnig ffyrdd newydd o ddefnyddio gwlân gan ychwanegu gwerth ar yr un pryd.”

Ymateb ‘wedi bod yn wych’

Wedi’i ariannu gan gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru ac arian Ewrop, bydd y fenter yn ceisio gweithio gydag amrywiaeth o bobol a busnesau er mwyn datblygu mwy o gynnyrch sydd wedi eu gwneud o wlân Cymreig.

“Mae costau cneifio bellach yn uwch na phris gwlân a ffermwyr yn wynebu heriau sylweddol wrth waredu gwlân yn flynyddol,” meddai Sioned McGuigan, swyddog prosiect Gwnaed a Gwlân.

“Nod y prosiect yw ychwanegu gwerth ar draws y gadwyn gyflenwi o’r fferm i’r cynnyrch terfynol.

“Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn wych ac wrth i ni symud i’r camau nesaf o greu’r prototeipiau, rydym eisiau sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r prosiect.

“Os yn fusnes, ffermwr, cynhyrchwr neu’n rhywun sydd â diddordeb yng nghefn gwlad, rydym eisiau clywed gennych chi a chydweithio ar y camau nesaf o ddatblygu’r cynnyrch.

“Dyma gyfle i fynegi eich diddordeb yn y cynllun, rhannu syniadau a chwarae rhan flaenllaw ym mhennod nesaf cyffrous y prosiect.”

Mae unigolion yn cael eu hannog i gofrestru eu diddordeb yn y fenter drwy lenwi ffurflen fer ar-lein.