Mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn gyfle i groesawu cyfleoedd a datblygiadau newydd, ac eleni bydd dathliadau’r ŵŷl yn nodi lansiad ailddatblygiad heol yn Abertawe.

Ddydd Mawrth, 1 Chwefror, bydd Dawns Llew y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn gorymdeithio ar hyd Heol San Helen, gan ddod i ben am hanner dydd yng Nghartref Pobol Hŷn Tsieineaidd Swan Gardens.

Mae Dawns y Llew, arfer gwerin traddodiadol Tsieineaidd sydd dros 1,000 o flynyddoedd oed, ac yn cynnig symbol bywiog o adnewyddu gwyrdd y stryd.

Bydd y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, neu Ŵyl y Gwanwyn, yn para pythefnos, ac yn gyfle i weddïo am fendithion.

Mae Yuqi Tang, un o athrawon Athrofa Confucius Prifysgol y Drindod Dewi Sant – sydd wedi noddi’r ddawns ar Heol San Helen – yn gobeithio y bydd y dathliad yn dod â lwc i’r gymuned.

Gweddïo am fendithion

Mae Yuqi Tang yn dod o Shanghai yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac wedi dysgu Cymraeg.

“Mae Dydd Gŵyl Gwanwyn yn ŵyl Tsieineaidd draddodiadol sy’n bwysig iawn i bobol Tsieineaidd oherwydd bod yr Ŵyl Wanwyn yn symbol o gael gwared ar hen bethau, a chroesawu pethau newydd,” meddai wrth golwg360.

“Rydyn ni hefyd yn gweddïo am fendithion mawr yn y flwyddyn nesaf.”

Mae Dawns y Llew, yn ogystal â Dawns y Ddraig, yn arferion gwerin traddodiadol sy’n dyddio’n ôl dros fil o flynyddoedd, meddai Yuqi Tang.

“Yn y gorffennol, roedd Tsieiniaid yn ystyried y llew yn symbol o ddewrder a chryfder. Mae pobol yn credu y gallai yrru’r ysbrydion drwg i ffwrdd, a’u hamddiffyn nhw a’u hanifeiliaid.”

I gyd-fynd â’r dathliadau, mae busnesau newydd yn tueddu i agor yn ystod y cyfnod, a gweddïo am lwc dda dros y flwyddyn.

“Eleni, mae cynllun datblygu Heol San Helen yn cyd-fynd â Gŵyl y Gwanwyn felly mae hwnna’n lwcus iawn,” meddai Yuqi Tang.

“Gobeithio bydd Dawns y Llew yn dod â hapusrwydd i’r gymuned a lwc dda i’r datblygiad newydd.”

‘Pelydryn o hapusrwydd y gwanwyn’

Dywed Fun Wong, rheolwr Swan Gardens, eu bod nhw “mor falch o allu cynnal Dawns y Llew i nodi Gŵyl Wanwyn Tsieina”.

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i’r trigolion, ac maen nhw wedi gweld eisiau dathliadau arferol y flwyddyn newydd,” meddai.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Athrofa Confucius am noddi’r grŵp dawns er mwyn iddyn nhw allu dod â phelydryn o hapusrwydd y gwanwyn i bawb ar Heol San Helen.”

Gŵyl y Gwanwyn

Yuqi Tang yng Nghastell Aberteifi

Fel arfer, mae pobol yn dechrau paratoi at y Flwyddyn Newydd tua wythnos o flaen llaw, a hynny drwy dacluso’r tir a phrynu dillad newydd, rhai coch fel arfer.

“Yn Tsieneaidd, Gŵyl y Gwanwyn yw chūn jié. Mae hyn oherwydd mytholeg Tsieineeg,” eglura Yuqi Tang.

“Yn y gorffennol, roedd bwystfil yn dod ac roedd yn lladd y bobol yn y pentref a’u hanifeiliaid, ond mae ofn ar y bwystfil achos dydyn nhw ddim yn hoffi sŵn mawr, goleuadau, na’r lliw coch.

“Felly mae pobol yn paratoi crackers, tân gwyllt i yrru’r bwystfil i ffwrdd. Oherwydd y mytholeg, mae pobol yn prynu dillad coch ac ysgrifennu cwpledi dros y drws mewn caligraffeg.

“Rydyn ni hefyd yn ysgrifennu’r gair bendithion yn Tsieinëeg, a’i hongian a’i ben i lawr.”

Mae’r dathliadau’n cynnwys gwledda hefyd, a hynny am y bythefnos, ac mae’n gyfle am aduniad teuluol.

“Yn Tsiena mae’r wledd yn digwydd y diwrnod cyn y Flwyddyn Newydd, a’r diwrnod nesaf rydyn ni’n ymweld â theulu ac mae mwy o wledd,” meddai.

“Efallai bod pobol yn gweithio yn bell oddi wrth eu cartref ond yn ystod Gŵyl y Gwanwyn bydd pobol yn dychwelyd adref ac yn treulio Gŵyl y Gwanwyn gyda’u rhieni ac yn cyflawni eu Duwioldeb.

“Mae hyn yn gwobrwyo’u rhieni am eu gofal, a’u magwraeth.”