Wrth i S4C deithio’n ôl mewn amser yr wythnos ddiwethaf i gyfnod yr Ail Ryfel Byd, fe glywson ni yn Efaciwîs: Pobl y Rhyfel – y rhaglen gyntaf mewn cyfres newydd – am brofiadau nifer o faciwîs a ddaeth i Gymru o ddinasoedd mawr Lloegr.

Fe glywson ni am Jean Jones o Lundain yn dod i Faesyfelin, Rhydlewis yng Ngheredigion a hithau heb fod mewn car o’r blaen, ac yn gorfod dygymod â diffyg trydan yng nghefn gwlad Cymru.

Ac fe gawson ni ochr arall y geiniog hefyd, wrth glywed Sylvia Cracroft o Ryd-y-foel ger Abergele’n cofio’r faciwîs bach yn cyrraedd â’u cesys ac yn aros i gael eu dewis gan deuluoedd lleol i fynd i fyw atyn nhw.

I fyd y plant awn ni yn Efaciwîs: Plant y Rhyfel (nos Sul, Ionawr 30), wrth i wyth o blant o Lundain, Lerpwl a Birmingham adael eu teuluoedd am wythnos i ddod i Lanuwchllyn i ail-fyw profiadau’r faciwîs oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn blant i geisio lloches rhag y bomio o 1939.

Byddai’n anodd amgyffred y fath beth 82 o flynyddoedd yn ddiweddarach, efallai, oni bai fy mod innau’n ŵyr i faciwî.

Daeth fy nhad-cu o Stockwell yn ne-orllewin Llundain, yn un o’r faciwîs, i bentref Cefn Cribwr ger Pen-y-bont ar Ogwr ac yntau bron yn bump oed ar ddechrau’r rhyfel. Roedd e wedi’i labelu yn barod i gael ei gyflwyno i deulu o estroniaid y byddai’n byw â nhw am flynyddoedd nesa’i fywyd.

Er bod Cefn Cribwr yn bentref Seisnigedig o’i gymharu ag ardaloedd Cymraeg Rhydlewis a Llanuwchllyn, roedd ambell siaradwr Cymraeg yno, ond doedd dim rhaid i fy nhad-cu wynebu dysgu iaith newydd yno.

Digon tebyg oedd profiadau’r faciwîs ym mhob ardal fel arall – plant bach dinasoedd Lloegr yn dygymod â bywyd llawer mwy sidét, naill ai yng nghefn gwlad neu mewn pentrefi bach tawel. Roedd dognu, er enghraifft, yn rhan o fywyd beunyddiol y pentref, yn ogystal â blacowts, mygydau nwy, wyau powdr a’r wardeiniaid ARP.

Ond fe ddigwyddodd dau beth hynod yn hanes y pentref a’r cyffiniau yn ystod blynyddoedd y rhyfel.

Awyren Lysander a charcharorion rhyfel

Ar Chwefror 12, 1942, ac yntau’n saith oed, aeth fy nhad-cu gyda chriw o fechgyn ar droed i Aberbaiden i’r gogledd-ddwyrain o Fynydd Cynffig, ryw ddwy filltir i ffwrdd o’r pentref.

Fe gawson nhw wybod fod awyren wedi plymio i’r ddaear, ac fe aethon nhw yno’n chwilfrydig. Cafodd fy nhad-cu a bachgen arall eu gwahanu oddi wrth weddill y criw, a bu’n rhaid anfon criw oedd yn cynnwys y special police allan i chwilio amdanyn nhw.

Daethpwyd o hyd i’r ddau yn mwynhau dishgled o siocled poeth mewn bwthyn cyfagos, heb sylweddoli’r pryder ’nôl yng Nghefn Cribwr!

Awyren Lysander, rhif cofrestredig P1719, oedd y cerbyd aethon nhw i’w weld. Cafodd ei anfon i’w leoliad ar safle’r Awyrlu yn Stormy Down yn ystod y rhyfel, ac fe ddigwyddodd y drasiedi ar ddiwrnod pan oedd y BBC yn digwydd bod yn yr ardal yn recordio’r rhaglen Aircrew of Tomorrow.

Cafodd y ddau yn yr awyren eu lladd, sef y Sarjant Alfred Victor Ruffey o Ontario yng Nghanada a’r Awyrluyddwr Cyril Thomas o Benrhiwceiber. Cafodd y naill ei gladdu ym Mhorthcawl, gyda chofeb iddo yng Nghanada, a’r llall yn Aberpennar.

Roedd y fath ddigwyddiadau’n gyffredin yng Nghymru yn ystod blynyddoedd y rhyfel.

Cefn Cribwr yn y penawdau

Cafodd digwyddiad arall dipyn mwy o sylw yn y wasg a’r cyfryngau, nid yn unig yn yr ardal leol ac yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig.

Island Farm
Island Farm, gwersyll carcharorion rhyfel ger Pen-y-bont ar Ogwr

Ar Fawrth 10, 1945, yn Island Farm yn Waterton – ryw wyth milltir o Gefn Cribwr – fe ddigwyddodd y ddihangfa fwyaf yn hanes carcharorion rhyfel gwledydd Prydain.

Roedd carcharorion rhyfel yno ers mis Tachwedd 1944. Gwrandewch yma ar bwt o ddechrau’r stori ar fwletin y BBC Home Service gan Alvar Lidell ar Fawrth 11, 1945.

Ond beth ddigwyddodd i’r carcharorion rhyfel wedyn, tybed?

Yng Nghefn Cribwr, llwyddodd Karl Hellrich, Otto Woelky, Heinz Grunewald, Karl Wittig ac Ernst Burmfister i greu cyffro a chwilfrydedd pan gawson nhw eu dal gan yr heddlu a’r fyddin mewn coedwig – a gâi ei hadnabod yn lleol fel coedwig yr ysgol – ar ôl i griw fod allan yn chwilio amdanyn nhw.

Cafwyd hyd i’r gweddill yn Llanharan, coedwig Ewenni, Llandŵ, St. Nicholas, Aberbaiden, Fferm Pencastell a sawl lleoliad arall ym Mynydd Cynffig. Ond llwyddodd rhai i fynd ymhellach, gyda nifer ohonyn nhw’n cyrraedd Pen-coed, Castell-nedd a Magwyr hyd yn oed!

Dychwelyd i Lundain cyn dod ’nôl

Roedd fy nhad-cu yn ôl yn Llundain erbyn hynny (er na fyddai’n cofio’n union pryd y gwnaeth e ddychwelyd).

Roedd e wedi’i groesawu adref yn gynnar fel cynifer o blant eraill y rhyfel, nid am nad oedd e wedi teimlo’n gartrefol yng Nghefn Cribwr – i’r gwrthwyneb, fe gafodd e groeso cynnes yno – ond roedd ei fam yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’i mab mor bell i ffwrdd wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen.

Byddai’n aml yn cofio sut y byddai e a’i ffrindiau’n mynd i safleoedd oedd wedi cael eu bomio i gasglu shrapnel, a sut y byddai e a’i rieni’n ceisio lloches yn y Lloches Anderson ar lotment ei dad pan fyddai’r seiren yn canu.

Nid dyna ddiwedd cysylltiadau fy nhad-cu â phentref Cefn Cribwr, chwaith.

Yn oedolyn, ar ôl cwblhau cyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol yn yr Almaen, dychwelodd fy nhad-cu i’r pentre’n weddol reolaidd, gan briodi fy mam-gu yn un o gapeli niferus ei phentref, Cefn Cribwr, yn 1958 ac ymgartrefu yno am weddill ei oes.