Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ymgyrch Coleg Brenhinol y Ffisegwyr sy’n galw am fuddsoddi mewn gofal meddygol arbenigol yn y gymuned.
Byddai hyn, meddai’r ymgyrchwyr, yn golygu y gallai cleifion aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.
Bwriad yr ymgyrch yw lleddfu’r pwysau ar ffisegwyr, gyda dau draean ohonyn nhw’n nodi eu bod nhw’n teimlo dan straen o ganlyniad i brinder staff.
Fis Awst y llynedd, daeth adroddiad a gafodd ei ddatgelu gan y Ceidwadwyr Cymreig i’r casgliad fod bron i 3,000 o swyddi gofal iechyd heb eu llenwi – 2,201 ar gyfer nyrsys a bydwragedd a 771 o weithwyr meddygol a deintyddol – wrth i restrau aros ddyblu cyn Covid-19, a chynyddu naw gwaith yn fwy yn ystod y pandemig.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr roedd y nifer fwyaf o swyddi nyrsio gwag (698 neu 32% o’r holl swyddi gwag yng Nghymru), gyda 276 o swyddi meddygol a deintyddol gwag yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae prinder o 162 o weithwyr gofal iechyd cysylltiol, neu rhai sy’n darparu gofal iechyd ond nad ydyn nhw’n feddygon nac yn nyrsys ac sy’n cynnwys ffisiotherapyddion a dietegwyr.
Datgelodd yr adroddiad hefyd fod £144m wedi’i wario ers 2016-17 ar oriau dros ben ymhlith staff yn y meysydd hynny, er nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn fodlon datgelu eu ffigurau.
Mae’n bosib fod y pandemig wedi cyfrannu at y cynnydd o 26.4% yn y gwariant ar oriau dros ben rhwng 2019-20 a 2020-21, gyda hanner y gwariant hwnnw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd (£72m) yn dangos y pwysau yn yr ardal honno er i’r bwrdd iechyd ddod allan o fesurau arbennig ers tro.
O ystyried staff nad ydyn nhw’n cyfrannu’n uniongyrchol at ofal iechyd, roedd £46.8m ychwanegol wedi’i wario ar oriau dros ben yn ystod y pum mlynedd diwethaf, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig, sy’n dweud bod y gwariant ar oriau dros ben 30% yn uwch yn 2020-21 na’r flwyddyn gynt a bod 407 o swyddi gwag o’r fath yng Nghymru.
Ond mae’r ffigurau’n debygol o fod yn uwch eto gan nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn fodlon datgelu eu ffigurau nhw. Doedd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro heb gynnwys swyddi gwag ar gyfer staff iechyd cysylltiol, a doedd Bwrdd Iechyd Powys ddim yn fodlon datgelu nifer ue swyddi gwag ar gyfer gweithwyr iechyd cysylltiol, meddygol na deintyddol.
Gwireddu uchelgeisiau
Byddai’r dull mae’r ymgyrchwyr am ei weld yn cael ei gyflwyno’n golygu bod modd trin cleifion yn gynt yn eu cartrefi eu hunain, ac y byddai safon y gofal yn gwella er mwyn cadw nifer y derbyniadau i’r ysbyty’n isel.
Maen nhw’n dweud y gallai cyfnodau hir yn yr ysbyty gynyddu’r risg o ddal Covid-19, ac mae Coleg Brenhinol y Ffisegwyr yn galw am wireddu’r uchelgeisiau sydd wedi’u nodi yn strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru drwy:
- wella’r cydweithio agos a’r rhwydweithio clinigol ar draws y byrddau iechyd
- buddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer mwy o glinigwyr fel bod modd iddyn nhw weithio yn y gymuned
- mynediad chwim i’r diagnosteg a’r ymyrraeth cywir; a
- pherthnasau gwaith agosach gyda therapyddion, gweithwyr gofal cymdeithasol a thimau gofal diwedd oes.
Daw’r adroddiad wrth i’r arolwg diweddaraf ymhlith aelodau Coleg Brenhinol y Ffisegwyr ddangos bod 63% o’r rheiny yng Nghymru wnaeth ateb yn teimlo dan bwysau llethol yn y gwaith o leiaf unwaith yn ystod y tair wythnos diwethaf.
Dywedodd 17% eu bod nhw’n teimlo dan bwysau llethol bron bob dydd, ac mae lle i gredu bod lefel absenoldebau staff wedi cyfrannu at hyn, gan arwain at flinder dwys a diffyg morale ymhlith staff eraill yn y gweithle.
Roedd dros hanner y rhai wnaeth ateb wedi cael cais i lenwi bylchau yn y rota ar fyr rybudd yn ystod y tair wythnos diwethaf, ac roedd 30% wedi cael o leiaf dri chais.
Yn ôl Coleg Brenhinol y Ffisegwyr, dim ond ychwanegu at y pwysau llethol wnaeth y pandemig, nid ei achosi’n llwyr.
Croesawu’r adroddiad
“Rydym yn gwybod ers tro mai’r camau gorau ar gyfer cleifion yw eu cadw nhw allan o’r ysbyty ac mor agos at eu cartrefi â phosib, felly rwy’n croesawu’r adroddiad hwn ac yn hapus i roi cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i’r dull Ysbyty yn y Cartref,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae trin cleifion yn eu cartrefi’n well ar gyfer eu lles emosiynol, mae’n sicrhau bod rhwydwaith o gefnogaeth yn fwy hygyrch, mae’n golygu eu bod nhw’n llai agored i heintiau, ac yn galluogi staff ysbytai eu hunain i ymdrin â’r achosion mwyaf brys a difrifol.
“Yn drist iawn, fe fu cynlluniau a strategaethau di-ri allan yno, ond heb y capasiti na’r adnoddau i wireddu’r uchelgeisiau hyn, byddan nhw bob tro’n dod i ddim byd.
“A dyna sydd wedi digwydd o dan chwarter canrif o arweinyddiaeth Llafur yng Nghymru: camreolaeth wanhaol ar y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi arwain at brinder o fwy na 3,000 o staff ledled y genedl.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.