Mae pennaeth y Gwasanaeth Sifil wedi’i annog i gamu i mewn ac atal Llywodraeth yr Alban rhag cynllunio ar gyfer annibyniaeth.

Cyhoeddodd Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, y llynedd y byddai gweision sifil yn ailddechrau’r gwaith o gynllunio sut olwg fyddai ar yr Alban y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Fe ddaeth i’r amlwg yr wythnos hon fod 11 o weision sifil wedi cael y dasg o greu prosbectws.

Bydd y prosbectws yn disodli’r Papur Gwyn ar annibyniaeth a gafodd ei gyhoeddi cyn refferendwm annibyniaeth 2014 oedd yn amlinellu’r polisïau nifer a fyddai’n cael eu rhoi ar waith mewn Alban annibynnol.

Mae Ian Murray, llefarydd materion yr Alban yn San Steffan, wedi ysgrifennu at Simon Case, yr Ysgrifennydd Cabinet a phennaeth y Gwasanaeth Sifil yn y Deyrnas Unedig, yn galw am ymchwiliad a fydd “yn y pen draw yn gwyrdroi” y penderfyniad.

‘Defnydd amhriodol iawn o arian cyhoeddus’

“Byddai nifer yn ystyried hyn yn ddefnydd amhriodol iawn o arian cyhoeddus ar unrhyw adeg, nid lleiaf tra bod yr Alban yn dal yng nghanol pandemig, tra bod biliau ynni yn codi a chyllidebau aelwydydd teuluoedd yn cael eu gwasgu,” meddai’r llythyr.

“Mae perffaith hawl gan yr SNP, wrth gwrs, i amlinellu eu cynlluniau ar gyfer ymwahaniad, ond ni ddylid disgwyl i drethdalwyr yr Alban dalu’r bil ar gyfer prosbectws y mae’r mwyafrif eisoes wedi’i wrthod mewn refferendwm cenedlaethol.

“Rwy’n ystyried hyn yn ddefnydd amhriodol a chwbl wastraffus o arian trethdalwyr, ac yn gobeithio y byddwch chi’n ymchwilio ac yn y pen draw yn gwyrdroi’r penderfyniad hwn.”

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban mai “rôl y Gwasanaeth Sifil yw cefnogi llywodraeth etholedig y dydd wrth ddatblygu a gweithredu ei bolisïau”, ac mae’r farn honno wedi’i hategu gan Adam Tomkins, cyn-Aelod Ceidwadol yn Senedd yr Alban ac Athro’r Gyfraith Gyfansoddiadol.

“Dw i ddim o blaid annibyniaeth i’r Alban, a byddai’n well o lawer gennyf weld Llywodraeth yr Alban â blaenoriaethau gwahanol iawn, ond dw i ddim yn deall hyn,” meddai ar Twitter.

“Mae gweision sifil yn bodoli er mwyn cefnogi eu gweinidogion a, licio neu beidio, polisi Llywodraeth yr Alban yw ceisio annibyniaeth drwy ail refferendwm annibyniaeth.

“Roedd uniondeb cyhyrog yn dwp, yn hunanwangalon ac wedi’i roi o’r neilltu’n gywir iawn pan wnaeth Whitehall fflyrtio â fe y llynedd.

“Mae hi’r un mor dwp a hunanwangalon pan gaiff ei wthio gan bobol a ddylai wybod yn well, megis Ian Murray AS.”

Ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Gabinet yn gwrthod gwneud sylw am sylwedd y llythyr.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn glir nad nawr yw’r amser am refferendwm annibyniaeth arall,” meddai.

“Rhaid mai ein blaenoriaeth gilyddol yw ymateb i’r heriau mae’r pandemig Covid wedi eu hachosi a gwella ohonyn nhw, yn hytrach na dadleuon cyfansoddiadol.”