Mae gobaith y bydd Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru yn gallu mynd i’r afael â’r argyfwng yn y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Brexit a’r pandemig Covid-19 wedi effeithio ar filoedd o fusnesau dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol wedi diodde’n fwy na’r rhan fwyaf.

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n gyfle i fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio, wrth gynnig y cyfle i bobol sy’n gadael yr ysgol a’r rhai sydd am newid gyrfa ddysgu sgiliau yn y gwaith ac ennill cymwysterau cenedlaethol a chyflog ar yr un pryd.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, mae prentisiaethau’n “ddewis doeth” i gyflogwyr wrth feithrin talent y dyfodol i ddiogelu gweithluoedd, ac i bobol sydd eisiau dilyn gyrfa gan ddysgu wrth ennill cyflog.

“Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn gyfle i ni gynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â phrentisiaethau yng Nghymru, a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i bobol ar hyn o bryd,” meddai.

“Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hanfodol wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

“Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu 125,000 o leoedd Prentisiaeth ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Rydyn ni’n wlad fechan ond mae gyda ni uchelgeisiau mawr, a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle y bydd recriwtio prentis yn dod yn weithred arferol i gyflogwyr.”

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn dweud ei bod hi’n “ych gweld yr effaith mae prentisiaeth gofal cymdeithasol wedi’i chael”.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ddysgu mwy am y sector, magu hyder a thanio angerdd rhywun i helpu a chefnogi rhai o’r bobol fwyaf bregus yn ein cymunedau,” meddai.

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Astudiaeth achos

Mae Chloe Paterson, sy’n 23 oed ac yn dod o Bontypridd, wedi cwblhau ei Diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae hi bellach yn gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymorth Dydd.

“Cefais fy ysbrydoli yn y lle cyntaf i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ar ôl cael trafferth ffurfio perthynas glos a chyfathrebu gyda fy mrawd awtistig,” meddai.

“Penderfynais ddilyn cwrs llwybr yng Ngholeg y Cymoedd i ddysgu mwy am anableddau a buan y sylweddolais fy mod am ddilyn gyrfa a oedd yn helpu unigolion a theuluoedd i feithrin perthynas ag eraill.

“Nid yn unig wnaeth fy mhrentisiaeth fy helpu i benderfynu beth roeddwn am ei wneud yn fy ngyrfa, roedd o fudd enfawr i mi’n bersonol a dysgodd i mi sut i gymdeithasu a rhyngweithio o gwmpas pobol anabl – rhywbeth y mae llawer o bobol yn ei gael yn anodd ei wneud ac sydd angen ceisio ei wneud yn well.”

Ar ôl gadael yr ysgol, roedd hi’n gwybod nad addysg bellach oedd y llwybr iawn iddi a phenderfynodd hi fod prentisiaeth yn cynnig y profiad ymarferol roedd hi wedi bod yn dyheu amdano.

“Doedd yr ysgol ddim i mi, ac roeddwn i’n aml yn colli diddordeb yn fy mhynciau, ond rwyf wedi gweld fy mhrentisiaeth yn llawer mwy hylaw a diddorol gan fy mod wedi cael  hyfforddi ac ennill arian yr un pryd,” meddai.

“Roedd yn sicr yn well gen i ddysgu yn y swydd.

“Roedd mor ddefnyddiol gallu gofyn cwestiynau i aelodau staff profiadol mewn asesiadau a thraethodau, yn hytrach nag astudio ar ben fy hun drwy’r amser.

“Helpodd i mi fagu hyder gan nad oedd ofn arnaf i ofyn cwestiynau neu ofyn am gymorth a chyngor.”

Edrych tua’r dyfodol

Ar ôl creu gyrfa lwyddiannus ym maes gofal cymdeithasol ers cwblhau ei phrentisiaeth, mae hi bellach yn edrych ymlaen at ddal ati i weithio mewn diwydiant a rôl sy’n gwella bywydau’r rhai mae’n eu cynorthwyo.

“Yr elfen rwy’n ei mwynhau fwyaf am fy swydd yw’r teimlad ei bod hi’n swydd gwerth ei gwneud,” meddai.

“Mae gweld unigolion yn cyflawni pethau nad oedden nhw’n credu oedd yn bosibl a’u gweld yn gadael gyda gwên ar eu hwynebau yn gwneud yr hyn rwy’n ei wneud yn foddhaol iawn.

“Does dim dwywaith amdani, mae fy mhrentisiaeth wedi fy nghymell i wella o ddydd i ddydd ac rwy’n credu bod yr hyn dw i wedi’i gyflawni yn dangos hynny.

“Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydw i wedi mynd o fod yn fyfyriwr a chwblhau dau ddiploma, i fod yn aelod parhaol o’r tîm, ac yn y pen draw cael fy nyrchafu i fy rôl bresennol fel arweinydd tîm.

“Byddwn yn sicr yn argymell prentisiaeth fel llwybr i yrfa ym maes gofal cymdeithasol oherwydd y profiad y mae rhywun yn ei ennill wrth weithio tuag at gymhwyster.

“Mae’r diwydiant gofal cymdeithasol angen doniau newydd, a phobol sy’n barod i ofalu am eraill a’u cymell.

“Mae gweithio yn y diwydiant hwn yn teimlo fel eich bod yn gweithio gyda theulu agos, a byddwch wastad yn mynd adref yn gwybod eich bod wedi helpu i wella bywyd unigolyn.”