Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb i gyhuddiad sefydliadau cymdeithas sifil eu bod nhw’n “gwanhau” cynllun i wella atebolrwydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Ionawr 31).

Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer Llywodraeth Agored yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau sydd wedi cael eu datblygu gan y llywodraeth a chymdeithasau sifil i wella atebolrwydd a thryloywder.

Fel aelod o gorff rhyngwladol gwrth-lygredd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored, mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig gyflwyno Cynllun Gweithredu Cenedlaethol.

Mae sefydliadau cymdeithas sifil wedi ymateb yn flin i’r cynllun ar ôl i addewidion “allweddol” gael hepgor ar yr unfed awr ar ddeg.

Dydy’r cynllun ddim yn cynnwys rhai elfennau “sydd angen eu diwygio” megis safonau cyhoeddus a rhyddid gwybodaeth chwaith, meddai’r sefydliadau.

Gallai’r Bartneriaeth Llywodraeth Agored ofyn i’r Deyrnas Unedig adael y grŵp o 78 o wledydd, yn ôl y sefydliadau, gan fod y Deyrnas Unedig “dan adolygiaeth” ar hyn o bryd am nad oedd eu dau gynllun blaenorol yn cwrdd â’r safonau.

‘Sarhaus’

“Mae cyfreithiau lobïo aneffeithiol, arferion caffael anghyfreithlon, ac ymchwiliadau i achosion o dorri’r cod gweinidogol wedi erydu ymddiriedaeth ar adeg pan mae bywydau’n dibynnu arno,” meddai Kevin Keith, cadeirydd Rhwydwaith Llywodraeth Agored y Deyrnas Unedig, sy’n cydlynu mewnbwn cymdeithas sifil i’r cynllun.

“Gallai’r cynllun hwn fod wedi dangos bod y llywodraeth o ddifrif ynghylch ailadeiladu’r ymddiriedaeth.

“Ond mae ein ceisiadau am addewid ar gyfer safonau cyhoeddus, a gafodd eu hailadrodd dro ar ôl tro i’r llywodraeth, wedi cael eu hanwybyddu, mae nifer o ymrwymiadau wedi cael eu gwanhau gan gynnwys rhai ar lygredd, ac mae rhai wedi’u tynnu allan yn gyfan gwbl. Mae’n sarhaus.

“Mae perygl y bydd gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig adael partneriaeth gwrth-lygredd ryngwladol yn gyfan gwbl.

“Mae’n rhaid iddyn nhw weithio ar frys gyda chymdeithas sifil i wella’r cynllun hwn yn y misoedd nesaf.”

Dydy’r cynllun ddim yn cynnwys ymrwymiadau ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant, camwybodaeth, democratiaeth, adnoddau naturiol na newid hinsawdd o gwbl ar y funud.

‘Argyfwng gonestrwydd’

Mae gwir angen i’r Deyrnas Unedig uwchraddio’r fframwaith ar gyfer rheoleiddio safonau mewn swyddi cyhoeddus, meddai Dr Susan Hawley, Prif Weithredwr Spotlight on Corruption a chyd-Gadeirydd Cynghrair Gwrth-lygredd y Deyrnas Unedig.

“Dydy’r llywodraeth dal heb gyhoeddi ymateb i’w hadolygiad ei hun ar y mater, adolygiad Boardman, nac i argymhellion y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus,” meddai.

“Dydy’r llywodraeth heb gyhoeddi amserlen i wneud hynny.”

Daw hyn wedi i un o Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Agnew, ymddiswyddo yn sgil eu record o ran twyll Covid, rhybudd gan gadeirydd y Pwyllgor Safonau Bywyd Cyhoeddus y gallai’r Deyrnas Unedig “ddod yn wlad lwgr oni bai ein bod ni’n sicrhau ein bod ni’n cynnal safonau”, a’r ymchwiliad i bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnodau clo.

“Gallai’r llywodraeth fod yn wynebu’r argyfwng gonestrwydd gwaethaf ers degawdau ac mae hi’n gwrthod ymgysylltu a chymdeithas sifil ynghylch sut i gyflwyno’r diwygiadau sylfaenol sy’n cael eu hargymell gan gyrff annibynnol, arbenigol,” meddai Dr Susan Hawley, gan ddweud bod hynny’n syndod.

‘Gwleidyddiaeth agored’

Ychwanega Calum Green, Cyfarwyddwr Eiriolaeth a Chyfathrebu gydag Involve, fod rhaid i’r llywodraeth wneud yn well os ydyn nhw am “ddangos i weddill y byd bod y Deyrnas Unedig dal yn gwerthfawrogi gwleidyddiaeth agored, tryloyw ac atebol”.

“Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Agored yn gyfle unigryw i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithio gyda chymdeithas sifil er mwyn datblygu amserlen glir i wella atebolrwydd a thryloywder,” meddai.

“Yn hytrach, mae’r llywodraeth wedi dewis gwanhau a chael gwared ar ymrwymiadau allweddol.”