Dydy wyth o ysgolion Caerdydd ddim yn coginio prydau twym i ddisgyblion oherwydd cyfyngiadau cadw pellter oherwydd Covid-19.

Yr ysgolion dan sylw yw Birchgrove, Bryn Deri, Lansdowne, Meadowbank, Millbank, Rhiwbina, Roath Park a St Teilo.

Mae dwy ysgol arall yn y brifddinas, Llanedeyrn a Marlborough, yn cynnig “darpariaeth gyfyngedig” o frechdanau fel bod modd i ddisgyblion fwyta yn y dosbarth.

Absenoldeb staff yw un o’r rhesymau sydd wedi’u cynnig, yn ogystal â’r ffaith fod neuaddau bwyta’n rhy fach i “gadw pellter cymdeithasol effeithiol”.

Dydy hi ddim yn glir am ba hyd dydy ysgolion ddim wedi bod yn cynnig prydau i ddisgyblion, na phryd fyddan nhw’n dechrau coginio prydau twym eto.

“Ein nod yw i bob plentyn gael mynediad i ginio twym,” meddai’r Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Addysg ar Gyngor Caerdydd.

“Ond mae ein gwasanaeth cinio ysgol yn parhau i wynebu heriau parhaus o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Mae hynny yn nhermau absenoldeb staff a’r effaith ar gyflenwyr a chontractwyr.

“Y broblem arall yw fod gan rai ysgolion neuaddau bwyta bach, nad ydyn nhw’n gallu cefnogi cadw pellter cymdeithasol effeithiol neu a fyddain gofyn am gwblhau gwaith cynnal a chadw.

“Mewn ysgolion lle nad oes darpariaeth pryd bwyd, bydd yr holl ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn parhau i dderbyn talebau archfarchnadoedd.

“Lle bo darpariaeth gyfyngedig, mae hynny ar ffurf brechdanau a bagiau-mynd-ymaith.

“Mae rhai yn mynd â’r prydau hynny i’r ystafell ddosbarth, er enghraifft.”

Cyfarfod y Cyngor

Roedd y Cynghorydd Sarah Merry yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jayne Cowan yn ystod Cyfarfod Llawn Cyngor Caerdydd ar Ionawr 27.

“Faint o amser ydych chi’n credu sy’n rhy hir i ysgolion beidio bod yn darparu pryd twym?” meddai.

“I rai disgyblion, dyma’u hunig bryd twym yn y dydd.”

Dywedodd nad yw hi’n gwybod am ba hyd doedd yr ysgolion ddim wedi bod yn darparu prydau twym, ond ychwanegodd y bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn y dyfodol.

Fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai pob disgwyl rhwng pedair ac 11 oed yn cael mynediad at brydau bwyd am ddim o fewn y tair blynedd nesaf, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a’u bod nhw’n “rhannu uchelgais na ddylai unrhyw blentyn lwgu”.

Pan oedd ysgolion ynghau yn ystod y cyfnod clo y llynedd, derbyniodd rhieni a gofalwyr plant sy’n gymwys am brydau bwyd am ddim dalebau i’w gwario ar fwyd mewn archfarchnadoedd.

Datgelwyd fod Cyngor Caerdydd wedi rhoi gwerth £15 o dalebau yr wythnos, tra bod rhieni a gofalwyr wedi derbyn gwerth £19.50 o dalebau mewn rhannau eraill o Gymru.

Fe wnaeth y Cyngor ad-dalu’r gwahaniaeth i rieni yn y pen draw.