Mae ymgyrchwyr yn galw am ddedfrydau llymach i lofruddwyr sy’n aflunio neu guddio cyrff mewn ymgais i guddio tystiolaeth, ac mae’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards yn cytuno, gan ddweud wrth golwg360 fod rhaid i’r gosb “adlewyrchu’r dioddefaint”.

Daw hyn yn dilyn achos blaenllaw yn Sir Gaerfyrddin ddwy flynedd yn ôl, pan gafodd Michael O’Leary, 55, ei lofruddio gan Andrew Jones.

Yn yr achos hwnnw, cafodd ei gorff ei ddinistrio mewn ymgais i guddio’r drosedd, ond doedd dim rhaid ystyried hynny wrth ddedfrydu’r llofrudd, yn ôl y gyfraith.

Mae teulu Michael O’Leary, yn ogystal ag ymgyrchwyr eraill, yn teimlo y dylai fod yn drosedd ychwanegol, gan fod y broses o alaru’n cael ei heffeithio’n fawr iawn.

Fe wnaeth Jonathan Edwards, yr Aelod Seneddol lleol, ategu eu galwad mewn cwestiwn i’r Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf.

Galwad

Yn 2020, cafodd cyfraith, sy’n cael ei hadnabod fel Cyfraith Helen, ei gweithredu gan Weinyddiaeth Gyfiawnder y Deyrnas Unedig.

O dan y gyfraith newydd, fyddai troseddwyr mewn rhai amgylchiadau ddim yn cael parôl pe na baen nhw’n datgelu beth sydd wedi digwydd i gyrff sydd wedi eu dinistrio neu eu cuddio.

Ond mae ymgyrchwyr yn teimlo bod angen datblygu’r gyfraith honno ymhellach.

“Mae’r ymgyrchwyr yn dweud bod angen trosedd newydd, neu o leiaf wella’r canllawiau dedfrydu i adlewyrchu’r dioddefaint ychwanegol,” meddai Jonathan Edwards wrth golwg360.

“Beth mae teuluoedd ac ymgyrchwyr yn ei deimlo yw bod dioddefaint ychwanegol yn yr achosion hyn. Dydyn nhw’n methu â chael angladd, sy’n rhan hanfodol o’r broses o alaru.

“Mae felly angen i’r dioddefaint hynny gael ei adlewyrchu [yn y gosb].

“Yn achos Mr O’Leary, mae ei deulu’n dweud bod y llofrudd wedi cyfaddef i ddinistrio’r corff, ond gwadu ei fod wedi llofruddio.

“Pe byddai wedi cael ei ganfod yn ddieuog am lofruddio, byddai yna ddim cosb yn ei wynebu e am ddinistrio’r corff.”

‘Ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn y gymdeithas’

Mae Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cyfeirio at achosion amlwg eraill lle mae corff wedi cael ei guddio neu ei aflunio, gan gynnwys achos llofruddiaeth April Jones yn 2013.

“Mae angen i arbenigwyr yn y broses gyfreithiol gael tystiolaeth i ystyried a oes angen newid y ddeddfwriaeth,” meddai.

“Dydy e ddim yn ddu a gwyn wrth gwrs, ond beth sydd angen yw i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder edrych ar hyn, achos mae’n amlwg bod mwy a mwy o achosion fel hyn yn digwydd ac mae eisiau ymateb i’r hyn sy’n digwydd yn y gymdeithas.”

‘Angen i’r gosb adlewyrchu difrifoldeb y weithred’

“Mae’n rhaid ystyried yr effaith mae hyn yn ei gael ar deuluoedd,” meddai Jonathan Edwards wedyn.

“Mae e yn weithred arall ac mae angen i’r gosb adlewyrchu hynny hefyd.

“Mae yna agwedd mawr o dwyll am sut mae’r llofrudd yn gweithredu, ac rydyn ni gyd yn deall bod tystiolaeth o’r corff yn rhan hanfodol o’r erlyniad.

“Felly, mae angen i’r gosb adlewyrchu difrifoldeb y weithred ac anghymell troseddwyr.”