Mae prosiect newydd wedi cael ei lansio heddiw (dydd Llun, Ionawr 31) er mwyn defnyddio brand Cyw i hyrwyddo’r Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o raglenni S4C.

Nod y prosiect rhwng S4C a Chyngor Sir Gâr yw datblygu a pheilota cynllun iaith Cyw mewn ystod o ysgolion o gefndiroedd ieithyddol gwahanol, a’r bwriad yw creu cyfleoedd i blant sylfaen chwarae gemau a chanu gyda Cyw.

Yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth o arlwy plant ac oedolion S4C, mae’n fwriad i’r cynllun ysgogi rhieni sy’n llai hyderus yn siarad Cymraeg i gyd-chwarae a chyd-ddysgu Cymraeg gyda’u plant.

Cynllun digidol fydd ‘Croeso Cyw’ i ddechrau.

Dangos gwerth dwyieithrwydd

Mae dwy athrawes wedi cael eu penodi i gydlynu’r cynllun am dri mis, sef Melanie Jones, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Brynaman sy’n dysgu ers bron i ugain mlynedd, a Mirain Walters, athrawes yn Ysgol y Ddwylan yng Nghastellnewydd Emlyn.

Dywed Melanie Jones eu bod nhw’n gobeithio dangos taith dysgwyr di-Gymraeg wrth iddyn nhw ddatblygu a defnyddio mwy a mwy o Gymraeg tu mewn a thu allan i’r ysgol.

“Ein bwriad yw dangos i rieni bod dwyieithrwydd yn rhywbeth sydd yn elwa eu plant a’u haddysg,” meddai.

Bydd y cynllun yn cyfrannu tuag at Gwricwlwm Newydd Cymru, ac yn dathlu dwyieithrwydd.

Mae’n cefnogi nod Sir Gâr o sicrhau bod pob plentyn yn ddwyieithog erbyn eu bod nhw’n saith oed hefyd, gan gyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Dw i’n gobeithio gweld plant yn datblygu a mwynhau dysgu, siarad a chyd-chwarae yn Gymraeg, fydd yn y pen draw yn help i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050,” meddai Mirain Walters.

“Dw i’n edrych ymlaen i gwrdd â phobol newydd, a chyd-weithio â chwmnïau gwahanol a defnyddio technoleg i wireddu’r prosiect.”

‘Codi ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd di-Gymraeg’

Dywed Sioned Wyn Roberts, Ymgynghorydd Addysg S4C, eu bod nhw’n falch iawn o lansio Croeso Cyw ac yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gâr am eu cefnogaeth.

“Ein bwriad yw defnyddio brand poblogaidd Cyw i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth o raglenni S4C i deuluoedd di-Gymraeg,” meddai Sioned Wyn Roberts.

“Rydyn ni wrth ein boddau i gael croesawu Melanie a Mirain i dîm S4C er mwyn defnyddio eu harbenigedd addysgol o fewn y cyfnod sylfaen i gydlynu’r cynllun a dathlu dwyieithrwydd ar draws Sir Gâr.”

‘Cymunedau dwyieithog cryf a chynaliadwy’

Mae Cyngor Sir Gâr yn “hynod falch” o gael gweithio gyda S4C ar y prosiect, a fydd yn “fuddiol i blant a’u rhieni wrth iddyn nhw ddysgu Cymraeg mewn ffordd hwyliog gyda’i gilydd”, meddai’r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i greu Sir Gâr ddwyieithog ac amlieithog ac i gynyddu’r cyfleoedd i’n holl blant a phobol ifanc gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, er mwyn i ni allu creu cymunedau dwyieithog cryf a chynaliadwy,” meddai.

“Rydym wrthi’n cwblhau ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a fydd yn llywio dyfodol addysg ddwyieithog yn Sir Gâr am y 10 mlynedd nesaf, a bydd prosiectau fel hyn yn ein helpu i gyflawni’r cynllun hwn yn llwyddiannus er budd ein pobl ifanc i gyd.”

‘Cynyddu defnydd pob dydd o’r iaith’

Ychwanegodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg ac Addysg, ei fod yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r prosiect “sydd yn creu cyfleoedd newydd i blant oedran sylfaen ddysgu Cymraeg a hybu’r iaith yn Sir Gâr”.

“Un o’n blaenoriaethau ni yw cynyddu’r defnydd pob dydd o’n hiaith ymhlith pobol Cymru, yn ogystal â hyrwyddo dysgu Cymraeg,” meddai.

“Rwy’n falch felly i weld sut bydd y peilot yn ceisio ysgogi rhieni i ddefnyddio’r Gymraeg drwy gyd-ddysgu a chwarae gyda’u plant.”