Mae tîm achub mynydd wedi rhoi cyngor i ddringwyr sy’n ymweld ag Eryri i wirio’r rhagolygon lleol, ac nid rhai cenedlaethol, wedi iddyn nhw ymdrin â damwain angheuol.

Bu farw dyn 25 oed ar ôl cwympo 60 metr i lawr ceunant wrth ddringo ar lethrau mynydd Glyder Fach fore ddoe (dydd Sul, Ionawr 31).

Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw am oddeutu 12yp, ac fe wnaeth un o’u hofrenyddion ymateb i’r digwyddiad.

Oherwydd y tywydd garw a lleoliad y gwymp, doedd yr hofrennydd ddim yn gallu cludo tîm achub mynydd yn uniongyrchol at y dyn, felly wnaethon nhw lanio yn hytrach yng Nghwm Bochlwyd.

Wrth iddyn nhw gyrraedd y digwyddiad, daeth hi’n amlwg fod y dringwr wedi marw yn y fan a’r lle, a bod dau ddringwr arall oedd yn agos i’r digwyddiad wedi ceisio ei helpu.

Cafodd y dringwyr hynny eu cludo o’r safle yn ddiweddarach, gyda thîm achub mynydd Llanberis yn darparu cymorth yn rhan o’r digwyddiad.

‘Dim pwrpas gwirio’r rhagolygon cenedlaethol’

Mae Chris Lloyd o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn dweud bod darnau o’r graig oedd yn cael ei dringo yn fregus, ac mae’n bosib mai dyna wnaeth achosi’r ddamwain ddoe.

Mae’n aneglur eto a oedd y dringwr wedi cael ei daro gan garreg, neu wedi dringo darn rhydd o’r graig.

Er nad oedd y tywydd, fwy na thebyg, yn ffactor tu ôl i’r digwyddiad anffodus hwnnw, mae rhybudd wedi ei roi i unrhyw un sy’n penderfynu dringo neu gymryd rhan mewn gweithgaredd arall yn yr awyr agored, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

“Rydyn ni wastad yn rhybuddio pobol i wirio’r rhagolygon tywydd yn lleol – does dim pwrpas gwirio’r rhagolygon cenedlaethol,” meddai Chris Lloyd wrth golwg360.

“Mae yna wefan dda iawn o’r enw AdventureSmart, menter sydd wedi ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru i roi cyngor i bobol sy’n mynd allan i’r awyr agored.

“Os ydych chi’n dod yma [i Ogledd Cymru] a’ch bod chi angen cyngor ynglŷn â thywydd, amseroedd llanw, ac yn y blaen, mae hwnnw’n adnodd da.

“Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio’r rhagolygon ar y diwrnod rydych chi’n bwriadu teithio hefyd, nid wythnos neu bythefnos ymlaen llaw.”

Ychwanegodd fod y dringwyr ddoe “i’w weld yn brofiadol” ac yn defnyddio’r offer cywir, a’i bod hi’n “drasiedi llwyr” fod dringwr wedi marw.