Mae mudiad annibyniaeth Yes Cymru wedi cyhoeddi enwau’r rhai sydd wedi’u hethol i’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol newydd.
Roedd 17 lle ar gael ar y bwrdd, ac mae 15 enw wedi’u cadarnhau ar draws y rhanbarthau a thu allan i Gymru.
Mae’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CLlC) yn benllanw ar fisoedd o waith gan aelodau i greu strwythur newydd ar gyfer y sefydliad.
Mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar Ragfyr 11 y llynedd, trafododd aelodau’r syniad o drawsnewid Yes Cymru yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a mabwysiadu mesurau i roi sefydlogrwydd a strwythur i’r mudiad.
Pleidleisiodd y nifer uchaf erioed, 3,600 o aelodau, gyda mwyafrif pendant o blaid y cynigion i ymgorffori.
Wedi hynny, roedd gofyn i’r aelodau gynnig eu hunain ar gyfer y Corff Llywodraethu Cenedlaethol newydd a’r 17 o gyfarwyddwyr sydd eu hangen i ffurfio bwrdd y cwmni cyfyngedig.
‘Misoedd cyffrous’
“Ar ôl cyfnod heb bwyllgor yn ei le i roi cyfeiriad strategol mae misoedd cyffrous yn wynebu aelodau’r bwrdd newydd wrth iddynt ymsefydlu a mynd i’r afael â’r holl heriau a chyfleoedd o redeg mudiad torfol,” meddai’r mudiad mewn datganiad.
“Bydd y Cyngor Llywodraethu Cenedlaethol hwn yn cychwyn ar ei waith mewn cyfnod pan fo annibyniaeth yn gadarn ar agenda Llywodraeth Cymru, a’r galw am annibyniaeth Cymru yn cynyddu wrth weld pethau’n mynd yn draed moch yn San Steffan.”
Mae’r gweinyddwr Sarah Case wedi croesawu’r newyddion am y cynrychiolwyr newydd.
“Rydym wrth ein bodd o fod mewn sefyllfa i drosglwyddo awenau y mudiad mwyaf dros annibyniaeth i Gymru i’r corff llywodraethu sydd newydd ei ethol,” meddai.
“Yn ystod y cyfnod dan reolaeth interim mae’r sefydliad wedi ei symud i dir cadarnach ac mae sylfaen lywodraethu newydd fydd yn cynnig sefydlogrwydd wedi ei greu.
“Byddwn ni’n dechrau trosglwyddo i’r corff llywodraethu newydd nawr.”
Bydd y gweinyddwyr yn trosglwyddo’r awenau i’r Cyngor Llywodraethu Cenedlaethol fis nesaf.
Pwy yw’r cynrychiolwyr?
Dyma’r rhai sydd wedi’u hethol i Gyngor Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru:
Y Canolbarth a’r Gorllewin: Gaynor Jones, Geraint Thomas, Ifor ap Dafydd
Y Gogledd: Elfed Williams, Elgan Owen, Vaughan Williams
Canol De Cymru: George Gethin Hudson, Andrew Murphy, Richard Huw Morgan
Dwyrain De Cymru: Mihangel Ap-Williams, Phyl Griffiths
Gorllewin De Cymru: Christine Moore, Nerys Jenkins
Tu Allan i Gymru: Barry Parkin, Louise Aikman