Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, wedi cyhuddo Boris Johnson o “ymddygiad sy’n anodd i’w gyfiawnhau”, “methiant difrifol i gynnal safonau uchel” a “methiannau o ran arweinyddiaeth a’r gallu i farnu”.
Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol i’r partïon yn Downing Street a Whitehall yn ystod y cyfnod clo.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod sawl digwyddiad yn y llywodraeth yn gyfystyr â “methiant difrifol” i gadw at yr hyn roedden nhw’n gofyn i’r cyhoedd ei wneud.
Mae’n dweud ymhellach fod yna “fethiant o ran arweinyddiaeth a’r gallu i farnu gan wahanol rannau o Rif 10 a’r Swyddfa Gabinet”, ac na ddylai nifer o gynulliadau “fod wedi gallu cael eu cynnal na datblygu yn y modd y gwnaethon nhw”.
Mae Chris Bryant yn cyhuddo’r llywodraeth o “ormodedd o alcohol mewn gweithle proffesiynol”.
“Cynulliadau na ddylid bod wedi gallu cael eu cynnal,” meddai.
“A’r diweddariad yn unig yw hwnnw!”
Yr adroddiad
Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, wneud datganiad gerbron aelodau seneddol heddiw (dydd Llun, Ionawr 31) yn dilyn cyhoedid’r adroddiad.
Dydy’r adroddiad ddim yn cael ei gyhoeddi’n llawn, oherwydd mae’r cyhuddiadau mwyaf difrifol yn destun ymchwiliad gan Heddlu Llundain ar hyn o bryd.
Ond mae’r gwrthbleidiau’n mynnu y dylid ei gyhoeddi’n llawn, ac yntau’n cael ei ystyried yn allweddol i ddyfodol Boris Johnson yn y swydd.
Dydy hi ddim yn glir eto a fydd Ceidwadwyr yn ceisio’i symud o’i swydd yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad.
Byddai angen i o leiaf 54 anfon llythyron at y Pwyllgor 1922 er cynnal pleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth.
‘Ewch rŵan’
“Mae ffars San Steffan wedi mynd yn anhrefn llwyr dros yr wythnosau diwethaf,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Er gwaethaf addewidion o gofnod llawn o’r digwyddiadau, mae’r ’diweddariad’ cryno hwn yn gadael nifer o gwestiynau heb eu hateb.
“Yn y cyfamser, mae Heddlu Llundain eto i roi rheswm boddhaol am sensro’r adroddiad.
“Yr hyn na ellir ei wadu o’r adroddiad hwn yw, tra bod teuluoedd yn galaru, staff ysbytai wedi blino’n lân, ffrindiau a phartneriaid ar wahân am fisoedd, roedd y rheiny ar lefel ucha’r llywodraeth yn anwybyddu’r gyfraith.
“Mae’r tawelwch byddarol gan aelodau seneddol Ceidwadol a’r arweinydd Torïaidd yn y Senedd yn profi y byddai’n well ganddyn nhw fod ar ochr y drwgweithredwyr.
“Fydd pobol Cymru ddim yn derbyn unrhyw beth llai nag i’r holl gynrychiolwyr gwleidyddol yn sefyll i fyny yn enw gonestrwydd ac atebolrwydd.
“Yn syml iawn, all Boris Johnson ddim defnyddio ymchwiliad Heddlu Llundain fel esgus i ohirio’i ymddiswyddiad ymhellach.
“Jyst ewch rŵan.”
Galw am ei ddiswyddo
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod y diweddariad cryno’n “siomedig dros ben”.
“Mae pawb yn gwybod fod Boris Johnson wedi torri’r rheolau ac yna wedi dweud celwydd wrth y wlad,” meddai.
“Mae’n bryd i Aelodau Seneddol Ceidwadol yng Nghymru lynu wrth eu dyletswydd i’w hetholwyr a sefyll i fyny tros wedduster drwy ddiswyddo Boris Johnson.
“Rhaid iddo fynd cyn ei fod yn gwneud rhagor o niwed i’n gwlad.
“Dylai Aelodau Cymreig o’r Senedd hefyd alw ar Johnson i ymddiswyddo.
“Nododd nifer o’r ASau ac AoSau Ceidwadol Cymreig y bydden nhw’n aros i weld beth oedd yn adroddiad Sue Gray, nawr mae e yma, er wedi’i olygu, mae’n bryd iddyn nhw weithredu.
“All y Prif Weinidog ddim parhau i arwain ag unrhyw hygrededd ymhlith y boblogaeth pe bai’n penderfynu brwydro ymlaen.”