Mae rhai o Aelodau Seneddol Cymru’n galw am roi cydnabyddiaeth gyfreithlon i briodasau dyneiddiol.
Ar hyn o bryd, dydy priodasau dyneiddiol, priodasau anghrefyddol, ddim yn cael eu cydnabod yn llygad y gyfraith yng Nghymru na Lloegr.
Yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur Nia Griffith, mae cyfreithiau’n ymwneud â chrefydd “wedi dyddio’n ofnadwy” a “dydyn nhw ddim yn adlewyrchu credoau’r boblogaeth ar hyn o bryd”.
Ar hyn o bryd, mae modd cynnal angladdau dyneiddiol, sy’n cael eu cydnabod yn gyfreithiol.
Dydy’r mater heb gael ei ddatganoli i Gymru, a dywedodd Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, ei bod hi’n “rhwystredig” nad oes cynnydd wedi bod ar y mater yn gyflymach.
Y ddadl
Mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin ynghylch priodasau dyneiddiol, a gafodd ei chyflwyno gan Crispin Blunt, yr Aelod Torïaidd dros etholaeth Reigate yn Surrey, dywedodd Nia Griffith fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r newid.
Wrth gefnogi’r ddadl, cyfeiriodd Ben Lake at Aneurin Bevan, a oedd yn ddyneiddiwr, a Phrif Weinidog cyntaf Cymru, Rhodri Morgan, a dderbyniodd yr angladd ddyneiddiol wladol gyntaf gan y Senedd.
“Mae’r gefnogaeth yno gan Lywodraeth Cymru ac mae’r traddodiad dyneiddiol yno yng Nghymru,” meddai Nia Griffith.
“Felly, mae’r newid hwn yn rhywbeth y byddem ni’n ei groesawu’n fawr ac yn hoffi ei weld.
“Wrth gwrs, efallai y byddai pobol yn dweud, “Wel, mae cwpwl yn gallu cael priodas sifil ac yna’r dathliad o’u dewis wedyn”.
“Ond byddwn yn dadlau nad yw hynny wirioneddol yn rhoi’r un statws i’r farn ddyneiddiol na’r seremonïau ag i’r farn grefyddol a’u seremonïau.
“Pam ddylai dyneiddwyr orfod teimlo eu bod nhw’n ddinasyddion eilradd ac nad yw eu dathliad yn cyfri?”
‘Gwaith dal i fyny’
Mae gan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig sy’n ymwneud â chrefydd “lot o waith dal i fyny er mwyn adlewyrchu’r gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi nawr”, meddai Nia Griffith wedyn.
Dangosodd Arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain mai tua 12% o boblogaeth y Deyrnas Unedig oedd yn disgrifio eu hunain fel Anglicaniaid yn 2018, a dywedodd tua 52% eu bod nhw’n anghrefyddol.
“Mae gennym ni nawr fwyafrif y boblogaeth – tua 52% – yn gorfod setlo am yr opsiwn gorau ond un ar gyfer un o adegau pwysicaf eu bywydau,” meddai Nia Griffith.
“Mae nifer o bobol sydd heb gredoau crefyddol yn [priodi] mewn lleoliadau crefyddol oherwydd yr hwylustod, ac ni ddylai hynny ddigwydd.
“Gadewch i ni weithredu a chael cydnabyddiaeth gyfreithlon ar gyfer priodasau dyneiddiol.
“Rydyn ni’n cydnabod ein bod ni mewn sefyllfa anodd ar y funud, ar ôl Covid, gyda nifer o bobol wedi gorfod gohirio’r cyfle i gael priodasau – weithiau unwaith, ddwywaith, neu hyd yn oed deirgwaith.
“Byddai cael gweinyddion sy’n gallu cynnal priodasau cyfreithlon yn golygu llai o bwysau ar gofrestryddion, a byddai’n helpu i glirio’r ôl-groniad.”