Mae hi’n “sarhaus” ac “annheg” nad oes gan Iaith Arwyddo Prydain (BSL) statws cyfreithiol yng Nghymru eto, yn ôl Dr Sara Louise Wheeler, sy’n colli ei chlyw.
Yn ôl Dr Sara Louise Wheeler, sydd â modryb sy’n gwbl fyddar hefyd, mae hi’n “anodd iawn” i bobol fyddar gael mynediad at wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill mewn iaith sy’n hygyrch a naturiol iddyn nhw.
Er bod y Senedd wedi cydnabod BSL fel iaith ei hun yn 2004, does gan yr iaith ddim statws cyfreithiol yng Nghymru ar hyn o bryd.
Cafodd Deddf Iaith BSL ei phasio yn yr Alban yn 2015, ac mae deddf fydd yn rhoi statws cyfreithiol i’r iaith yn y Deyrnas Unedig ac yn sicrhau ei bod hi’n cael ei defnyddio’n fwy cyson mewn gwasanaethau cyhoeddus wedi derbyn cefnogaeth Aelodau Seneddol yn San Steffan yn ddiweddar.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw am ystyried pa gamau neu ddeddfwriaeth ychwanegol sydd eu hangen er mwyn sicrhau hawliau ieithyddol pawb, a bod y Bil sydd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn gydnaws â’r gwaith hwnnw.
‘Sefyllfa annheg’
Mae Dr Sara Louise Wheeler, sy’n byw â Syndrom Waardenburg Math 1 – sy’n golygu ei bod hi’n colli’i chlyw – yn dweud ei bod hi’n “anodd iawn” i bobol fyddar gael mynediad at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill mewn iaith sy’n naturiol iddyn nhw ar hyn o bryd.
“Mae [y gymuned fyddar] yn dioddef o ddiffyg gwybodaeth a phryder o amgylch hyn,” meddai wrth golwg360, gan esbonio bod gan arwyddieithoedd hanes hir o gael eu trin yn israddol dros y byd.
“Mae’r sefyllfa mor annheg.
“Yn amlwg mae yna resymau fod y ddwy lywodraeth yn gochel ac yn oedi – pres am un peth.
“Ond mae rhaid gwneud hyn.”
Flwyddyn yn ôl, fe wnaeth Mark Isherwood, Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn y gogledd, gyflwyno cynnig i’r Senedd i drafod cyflwyno Bil a fyddai’n creu darpariaeth i annog y defnydd o BSL yng Nghymru a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau BSL.
Cafodd y cynnig ei basio yn y Senedd fis Chwefror y llynedd, ond fydd y cynnig ddim yn mynd ymhellach oni bai bod Aelod o’r Senedd neu Lywodraeth Cymru yn penderfynu cyflwyno Bil ar y mater.
‘Mwy na wyddor’
“Mae BSL yn iaith – mae’r cliw yn yr enw,” meddai Dr Sara Louise Wheeler.
“Mae ganddi ramadeg unigryw.
“Mae hi’n iaith gyfoethog llawn jôcs, a storïau a rhegi. Mae yna lot fawr o gamsyniadau amdani.
“Nid y wyddor yn unig yw arwyddieithoedd – mae ganddyn nhw wyddor eu hunain, fel unrhyw iaith, a geirfa eang, acenion a thafodieithoedd lleol hefyd.
“I mi yn bersonol, fedra i ddim deall sut fedrith unrhyw un, yn enwedig unrhyw un sydd yn siarad Cymraeg, beidio cefnogi’r syniad o ddeddf iaith BSL.
“Mae’r paralel yna – hawliau ieithyddol i grŵp lleiafrifol.”
‘Chwalu’r anwybodaeth’
Mae bil BSL y Deyrnas Unedig, sydd newydd basio ei ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin, wedi derbyn cefnogaeth gan Rose Ayling-Ellis, cystadleuydd ac enillydd byddar cyntaf Strictly Come Dancing.
Yn ôl Dr Sara Louise Wheeler, mae Rose Ayling-Ellis wedi “chwalu cymaint o ragdybiaethau nawddoglyd ynghylch y gymuned fyddar, byddardod, ac arwyddieithoedd”.
Mae Dr Sara Louise Wheeler wrthi’n ysgrifennu opera-bale gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer pobol fyddar, a chafodd ei synnu â chwestiwn gan rywun yn gofyn “beth yw pwynt sioe gerdd i bobol fyddar?”
“Mi wnes ateb bod fy modryb yn gwbl fyddar, ond tydi hynny ddim yn golygu bod ganddi ddim diddordeb o gwbl mewn cerddoriaeth.”
Mae Rose Ayling-Ellis wedi dangos ei bod hi’n bosib i rywun byddar, gymryd rhan mewn cystadleuaeth ddawnsio heb glywed y gerddoriaeth, ac ennill, meddai Dr Sara Louise Wheeler.
“Mi fydd yna lawer o blant bach byddar yn ei gwylio ac yn gwneud nodyn o hyn – ac, rwy’n credu, yn ymarfer o flaen y drych a ballu!
“A dw i’n mawr obeithio bydd hyn yn chwalu’r stigma, dirmyg ac anwybodaeth oedd tu ôl i’r cwestiwn a roddwyd i mi – mae yna lawer iawn o werth mewn sioeau cerdd i bobol fyddar, yn enwedig os yw e’n cael ei lunio fel sioe gerdd ‘Byddarclywed’, gydag ymgais i wneud pethau yn hygyrch i bawb, a hefyd yn hwyl.”
Mae BSL yn fwy na “dim ond ffordd o gyfathrebu efo bobol fyddar am bethau angenrheidiol”, meddai, gan ychwanegu bod Rose Ayling-Ellis wedi dangos hynny.
“Mae’n rhan o fywyd pob dydd. Dawnsio, fflyrtio (roedd ychydig o hynna’n mynd ymlaen, o beth welais i) a jyst hwyl!”
Bydd opera-bale Dr Sara Louise Wheeler, Y Dywysoges Arian, yn cyfuno elfennau o dechnegau theatr glywedol a Byddar.
“Mae’n bosib creu platfformau lle mae pobol fyddar a phobol glywedol yn dod at ei gilydd ac yn mwynhau arbrofi, a chreu celf a cherddoriaeth a dawnsio efo’i gilydd – cymysgu diwylliannau.”
Ystyried camau ychwanegol
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y pandemig wedi tynnu sylw at rôl bwysig cyfathrebu.
“Fel rhan o’n hymrwymiad i hyrwyddo ac ymgorffori Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, fe wnaethon ni ei chydnabod yn ffurfiol fel iaith yn ei rhinwedd ei hun ym mis Ionawr 2004,” meddai llefarydd.
“Byddwn yn ystyried yn fuan pa gamau neu ddeddfwriaeth ychwanegol sy’n ofynnol er mwyn helpu i sicrhau hawliau ieithyddol pawb at ddibenion cynhwysiant llawn.
“Mae’r Bil sydd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn gydnaws â’r gwaith hwn.
“Mae pandemig Covid wedi tynnu sylw at rôl bwysig cyfathrebu a gwybodaeth gywir, hawdd cael gafael arni wrth ddarparu gwasanaethau.
“Dyna pam ein bod wedi sicrhau bod dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain yng nghynadleddau Llywodraeth Cymru i’r wasg.”
Ychwanega Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl Covid-19, a gafodd ei gomisiynu gan Fforwm Cydraddoldeb Anabledd Llywodraeth Cymru, wedi canolbwyntio ar y rhwystrau sy’n wynebu pobol fyddar a defnydd o BSL.
Y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu Cymdeithas Pobol Fyddar Prydain i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu siarter cenedlaethol i ddarparu gwasanaethau ac adnoddau i blant a phobol ifanc fyddar a’u teuluoedd, a chwblhau archwiliad o bolisïau a darpariaeth BSL Llywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad hwnnw wrthi’n cael ei gwblhau, meddai Llywodraeth Cymru.