Yn gwirioni ar ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, ac wrthi’n dysgu cynganeddu, mae Dr Sara Louise Wheeler wedi ennill bwrsari Datblygu Syniad gan y Theatr Genedlaethol yn ddiweddar.

Er hynny, Cymdeithaseg Iechyd yw ei maes ymchwil, a bu’n gweithio fel ymchwilydd a darlithydd cyn troi ei golygon at ysgrifennu creadigol.

Cafodd ei magu ger coedwig Erddig, Wrecsam, ond bellach mae hi’n byw ym mhentref Ness ar Benrhyn Cilgwri.