April Jones
Fe fydd angladd April Jones yn cael ei gynnal ym Machynlleth heddiw – bron i flwyddyn ers iddi gael ei chipio a’i llofruddio.

Mae disgwyl i gannoedd o alarwyr ymuno a theulu’r ferch 5 oed ar gyfer yr angladd am hanner dydd.

Fe fydd arch April yn cael ei chludo o stad Bryn y Gog, lle’r oedd yn byw, i Eglwys San Pedr.

Fe fydd rhieni April, Coral a Paul Jones, a’i chwaer a’i brawd, Jazmin a Harley, yn dilyn ei harch i’r eglwys.

Mae disgwyl i nifer o alarwyr wisgo pinc, sef hoff liw April Jones.

Cafodd April Jones ei chipio ger ei chartref ar 1 Hydref y llynedd.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Mai cafwyd Mark Bridger, 47, yn euog o gipio a llofruddio April a’i garcharu am oes.

Nid yw ei chorff erioed wedi cael ei ddarganfod ond cafwyd hyd i weddillion ei chorff yng nghartref Mark Bridger yng Ngheinws.

Cafodd ei gweddillion eu rhyddhau i deulu April yn dilyn cwest i’w marwolaeth dros wythnos yn ôl, er mwyn caniatáu i’w theulu gynnal ei hangladd.

Fe fydd y Parchedig Kathleen Rogers yn cynnal y gwasanaeth heddiw a dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd yn gyfle i’r dref ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd.

Fe fydd rhoddion o’i hangladd yn cael eu defnyddio i noddi merch 5 oed mewn pentref yn Uganda.