Cian Ciaran - canu mewn protest ar ben tyrbin yn Norfolk
Fe fydd aelod o’r band Cymreig Super Furry Animals yn perfformio o ben tyrbin gwynt fel protest yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Prydain i greu gorsafoedd ac adweithyddion ynni niwclear newydd.

Mae Cian Ciaràn yn credu na ddylai Cymru barhau i greu ynni niwclear a bydd yn mentro i ben tyrbin 67m o uchder yn Norfolk heno i ddatgan hynny.

Safle’r Wylfa yn Ynys Môn yw un o’r lleoliadau lle gall adweithydd ynni niwclear newydd gael ei osod. Yno mae’r adweithydd olaf yng Nghymru, a fydd yn cau yn y ddwy flynedd nesaf, ond mae cwmni o Siapan wedi talu £700 miliwn am yr hawli i greu adweithydd newydd yno.

“Heb ddim amheuaeth, dylai hyn fod yn ddiwedd ar orsafoedd ynni niwclear yng Nghymru. Dydyn ni ddim eu hangen nhw” meddai’r cerddor.

Ynni adnewyddadwy

Ers 2010 mae Llywodraeth San Steffan wedi caniatáu i nifer o orsafoedd niwclear a phrojectau ynni gael eu hadeiladu ledled Prydain. Mae canitad cynllunio eisoes wedi ei roi i adeiladu ar safle yn Somerset – yr orsaf niwclear gyntaf ers 1995.

Mae Cian Ciaràn yn credu y dylai Cynulliad Cymru a Llywodraeth Prydain ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy.

“Alla’i ddim llaesu dwylo a gwylio cyfleoedd yn cael eu colli a fyddai’n gwneud gwahaniaeth yn amgylcheddol a’n economaidd.”

“Mae rhai yn dweud na fyddem yn gallu ymdopi hebddyn nhw ond mae hyn yn gwbwl chwedlonol.”