Parc Olympaidd, Llundain - y bluen yn het Cadeirydd newydd HS2
Mae Cadeirydd newydd i gynllun dadleuol yr HS2 wedi cael ei benodi ar gyflog o bron i £600,000 y flwyddyn – a hynny wedi i’r cyn-Gadeirydd gyhoeddi heddiw ei fod yn rhoi’r gorau iddi.
Mae Syr David Higgins, Prif Weithredwr Network Rail a fu hefyd yn goruchwylio adeiladu safle’r Gemau Olympaidd, yn camu i sgidiau Doug Oakervee ar ôl iddo gyhoeddi heddiw ei fod yn ymddiswyddo.
Ym mis Ionawr, bydd David Higgins yn ymuno â chriw’r HS2 am un diwrnod yr wythnos ac yn derbyn £950 am bob diwrnod.
Profiad
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cludiant, Patrick McLoughlin: “Mae profiad David Higgins yn Network Rail a hefo’r gemau Olympaidd am fod yn angenrheidiol i sicrhau y bydd yr HS2 yn cael ei gwblhau ar amser ac o fewn y cyllid.”
Fe ddaeth i’r amlwg yn gynharach yr wythnos yma fod gan y blaid Lafur amheuon ynglyn â’r rheilffordd gwerth £50 biliwn i gysylltu Llundain a Birmingham. Awgrymodd Ed Balls yng Nghynhadledd y Blaid Lafur fod “pethau gwell” i wario’r cyllid arnynt.