Mae unig Aelod Seneddol y Blaid Werdd yn San Steffan yn wynebu cael ei herlyn ar ôl iddi gymryd rhan mewn protest wrth-ffracio yng Ngorllewin Sussex.

Mae disgwyl i Caroline Lucas, sy’n cynrychioli Brighton Pavilion, gael ei herlynu ar gyhuddiad o ‘dorri gorchymyn yr heddlu ac achosi rhwystr bwriadol o briffordd’, yn ôl y Gwasanaeth Erlynu Cyhoeddus.

Dywedodd Nigel Pilkington, uwch gyfreithiwr gyda’r Gwasanaeth Erlynu Cyhoeddus, bod Heddlu Sussex wedi cael eu awdurdodi i gyhuddo Caroline Lucas ar ddau gyhuddiad.

Meddai: “Ar ôl cysidro’n ofalus, rydym wedi dod i ganlyniad ei fod er lles y cyhoedd ein bod yn erlyn Caroline Lucas am dorri gorchymyn yr heddlu ac achosi rhwystr i briffordd.”

Roedd Caroline Lucas yn un o 25 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod diwrnod o brotestio uniongyrchol o flaen safle cwmni Cuadrilla, lle roedd canoedd o bobol wedi ymgynull i ddangos eu gwrthwynebiad i ffracio. Cafodd ei thaflu i gefn fan yr heddlu ynghyd â nifer o brotestwyr eraill ar ôl treulio’r diwrnod yn eistedd ger mynedfa’r safle.

Cadarnhaodd Caroline Lucas ei bod wedi cael ei chyhuddo ac ei bod yn parhau i fod yn bryderus iawn ynglŷn â effaith ffracio.

Dywedodd Caroline Lucas: “Rwy’n credu’n gryf yn yr hawl i brotestio’n heddychlon ac rwy’n poeni yn arw am effaith ffracio ar newid hinsawdd a’r amgylchedd.”