Owen Paterson - dan y lach
Mae’r Ysgrifennydd Amgylchedd, Owen Paterson, wedi dod dan y lach am gefnogi’r egwyddor o adeiladu mewn parciau cenedlaethol gyhyd â bod cynefinoedd yn cael eu hysgogi i ddatblygu mewn mannau eraill.

Dywedodd Owen Paterson ei fod yn cefnogi’r syniad fod datblygwyr yn gwarchod a datblygu cynefinoedd pwysig er mwyn lliniaru’r effaith negyddol y byddai adeiladu yn ei gael mewn ardaloedd eraill o fewn parciau cenedlaethol.

Ond mae ymgyrchwyr cefn gwlad yn dadlau y byddai’r fath syniad yn un ‘niweidiol’ gan bod rhan fwyaf o gynefinoedd yn unigryw ac nad oes dim all gymryd eu lle.

Wrth annerch cynhadledd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn Efrog, dywedodd Owen Paterson, “Er peth amser rydym wedi cymryd yn ganiataol bod yr amgylchedd a thŵf economaidd yn amcanion anghydnaws o fewn y system gynllunio. Rwy’n credu, gyda ychydig o ddychymyg, ei bod yn bosib sicrhau’r ddau.”

Ond dywedodd llefarydd ar ran Ymgyrch i Warchod Cefn Gwlad Lloegr, ei bod yn amhosib ailosod pethau fel gwrychoedd hynafol trwy ddulliau lliniaru.

Meddai: “Mae rhai cynefinoedd, yn enwedig rhai bregus, yn unigryw ac yn rhan bwysig o gymeriad y tirlun oherwydd eu bod wedi cymryd canrifoedd i esblygu – does dim modd archebu un newydd fel petai rhywun yn archebu rhywbeth o Amazon.”