Mae grwpiau gwrthryfelgar yn Syria, sy’n cynnwys adain sy’n gysylltiedig âg al-Qaida, wedi gwrthod cydnabod awdurdod yr wrthblaid glymbleidiol, wrth i arolygwyr o’r Cenhedloedd Unedig ddychwelyd i’r wlad i barhau â’u hymchwiliad i’r defnydd o arfau cemegol.
Mewn datganiad ar y cyd, mae 13 grŵp, sy’n cael eu harwain gan y Nursa Front dan arweiniad honedig al-Qaida, wedi datgan nad ydyn nhw’n credu bod Gwrthblaid Cenedlaethol Syria bellach yn ymddwyn ar eu rhan.
Mae’r datganiad yn arwydd o’r anghydfod gwleidyddol sy’n bodoli ymysg gwrthwynebwyr yr Arlywydd Bashar al-Assad gan fod rhan fwyaf o’r grwpiau gwrthryfelgar yn alltud.
Mae’r grwpiau yn galw hefyd ar wrthwynebwyr Bashar al-Assad i uno o dan ‘fframwaith Islamaidd glir’ gan godi pryder fod y grwpiau yn ceisio codi ymgyrch i sefydlu gwladwriaeth Islamaidd yn Syria, rhywbeth sy’n nodweddiadol o al-Qaida.
Mewn datblygiad arall, mae tîm o arolygwyr o’r Cenhedloedd Unedig wedi cyrraedd Damascus er mwyn parhau â’r ymchwiliad i’r defnydd o arfau cemegol yn y rhyfel cartref.
Mae ymweliad y tîm o chwech arolygwr yn dilyn adroddiad flaenorol gan y Cenhedloedd Unedig yn cadarnhau bod y gwenwyn, Sarin, wedi cael ei ddefnyddio yn yr ymosodiad cemegol.