Mae rhieni April Jones wedi gofyn i roddion o’i hangladd yfory fynd tuag at gefnogi plentyn yn Uganda.

Bydd y rhoddion yn mynd tuag at noddi merch bump oed o Uganda, mewn cysylltiad ag elusen Gristnogol World Vision. Bydd unrhyw roddion ychwanegol yn mynd i gefnogi teulu a phentref y ferch.

Fe fydd yr angladd yn digwydd bron i flwyddyn ers i April Jones, merch bump oed, ddiflannu o stâd Bryn-y-gog ar y cyntaf o fis Hydref 2012. Cafodd dyn lleol, Mark Bridger, ei garcharu am oes am gipio a llofruddio’r ferch.

Yn ôl y Parchedig Kathleen Rogers a fydd yn arwain y gwasanaeth, fe ddaeth y syniad oherwydd bod pobol am i “rywbeth da” ddod allan o’r drasiedi.

Bydd yr angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys St. Peter ym Machynlleth yfory am hanner dydd. Mae rheini’r ferch fach wedi gofyn i bobol wisgo pinc neu ddillad lliwgar i’r gwasanaeth.