Yr Athro Dai Smith
Fe dylai’r celfyddydau fod yn ganolog i system addysg Cymru ac nid yn ail i ddysgu cyfri a darllen.

Dyma sy’n cael ei bwysleisio mewn adroddiad a lansiwyd heddiw gan yr awdur, yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Y celfyddydau mewn addysg yw’r ffordd orau sydd gennym o greu dyfodol hyderus ar lwyfan y byd i’n cenedl fechan. Nid oes dim byd sy’n fwy hanfodol i hunaniaeth Cymru,” meddai.

Galw am newid y meini prawf

Mae’r adroddiad yn galw am newid y meini prawf wrth arolygu ysgolion er mwyn rhoi mwy o sylw i waith y celfyddydau a chreadigrwydd.

Mae’n awgrymu bod llawer o benaethiaid ysgolion yn rhoi gormod o bwyslais ar wella llythrennedd a rhifedd.

Roedd yr ymchwilwyr wedi holi barn 471  blant a phobol ifanc 5-19 oed rhwng Tachwedd 2012 a Mawrth 2013.

Addysg Cymru yn eilradd i’r DU

Does yna ddim partneriaeth effeithiol rhwng sectorau’r Celfyddydau ac  Addysg yn ôl yr adroddiad ac mae hynny, meddai, yn cyfrannu at wneud system addysg Cymru yn eilradd i wledydd eraill y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

“Credwn fod yn rhaid gwneud newidiadau i’r system arolygu a’r meini prawf arolygu presennol, er mwyn adlewyrchu’n fwy penodol berthnasedd a gwerth y celfyddydau a chreadigrwydd yn niwylliant ysgolion ac ymarfer addysgu” meddai Dai Smith.

Roedd yr ymchwil yn dangos bod 99% o ysgolion Cymru’n teimlo bod y celfyddydau’n holl bwysig i sgiliau rhyngbersonol a datblygu lles.

Maen nhw hefyd yn credu fod ymweld â theatrau, orielau ac arddangosfeydd o fudd mawr i fyfyrwyr.

Argymhellion eraill

Argymhellion eraill yn yr adroddiad yw y:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gydnabod yn ffurfiol y rôl ganolog y mae’n ei rhagweld ar gyfer addysg gelfyddydol yn ysgolion Cymru drwy ymrwymo i ddarparu addysg o safon uchel yn y celfyddydau a mynediad i’r celfyddydau.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau ariannu wedi eu hanelu at sicrhau bod darpariaeth deg ar gael i bobl ifanc ym mhob celfyddyd, a bod pobl ifanc eithriadol o dalentog yn gallu meithrin a datblygu eu talentau.
  • Dylai Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru weithio mewn partneriaeth i roi pwyslais cryfach ar ddarparu cyngor gyrfa mwy cytbwys i bobl ifanc er mwyn amlygu cyfleoedd a llwybrau gyrfa yn y celfyddydau a sector y diwydiannau creadigol.

Ystyried

Mae Huw Lewis, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau wedi croesawu’r adroddiad. “Byddwn yn awr  yn ystyried yr adroddiad yn bwyllog a manwl ochr yn ochr â’n hadolygiad ehangach o’r cwricwlwm cyfan gan edrych sut y gallwn wella cydweithio rhwng sectorau celfyddydau ac addysg Cymru.”