Bydd cynhadledd ar-lein yn cael ei chynnal heddiw (dydd Llun, Ionawr 25) yn trafod y berthynas rhwng gofal dementia a’r iaith Gymraeg.
Yn ystod y gynhadledd, a fydd yn cael ei darparu gan sawl siaradwr arbenigol, bydd ymchwil diweddar i wasanaethau dementia drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gyhoeddi.
Gobaith yr ymchwil yw ehangu’r gofal sydd ar gael yn ddwyieithog i bobol sy’n byw â’r cyflwr, gan gynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn cryfhau eu Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia presennol.
Ymhlith y siaradwyr mae Dr Catrin Hedd Jones, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac wedi arwain ar yr ymchwil arloesol, a Beti George, sydd wedi ymgyrchu am well gwasanaethau gofal dementia ar ôl i’w chymar fyw â’r cyflwr.
Dementia a’r Iaith Gymraeg
Gweminar ar dydd Mawrth, 25ain o Ionawr 2022.
12:00 – 2:00yh
Rhagor o fanylion a chofrestru yma: https://t.co/1zNctslovF
Bydd cyfieithu ar y pryd drwy gydol y gweminar.#dementia pic.twitter.com/3M5hShVJjM
— IAITH cyf. (@IAITH) January 5, 2022
Beti George
Bu farw cymar Beti George, y newyddiadurwr David Parry-Jones, ar ôl cyfnod yn byw â’r cyflwr.
Roedd hi wedi galw am chwyldro yn y maes yn 2017, pan gafodd rhaglen ei darlledu ar S4C yn dilyn ei hanes hi yn gofalu am ei chymar.
Yn ei llyfr Datod, a gafodd ei gyhoeddi gan Y Lolfa, mae Beti George yn edrych ar brofiadau gwahanol bobol yng Nghymru o’r cyflwr.
Dywed na fu “dim newid ers 2017”, pan oedd hi’n galw gyntaf am fwy o gymorth i ofalwyr.
“Os oes gyda chi’r arian, mi allwch gael gofal ddydd a nos yn y cartref, gan gwmnïau preifat,” meddai Beti George ddiwedd y llynedd wrth drafod un o’r anawsterau wrth i bobol geisio gofal am ddementia.
“Ond dim ond pobol gyfoethog iawn, iawn sy’n gallu fforddio hynny. Felly i’r mwyafrif, yr unig opsiwn pan fydd y cyflwr yn gwaethygu yw cartref gofal.
“Ond mi ydych chi eto yn sôn am arian mawr . . . £2,000 yr wythnos.
“Mae’r bobol sydd heb ddim arian tu cefn iddyn nhw yn gallu cael help gan y gwasanaethau cymdeithasol . . . sydd, wrth reswm, i’w ganmol.
“Ond y rheiny yn y canol sy’n dioddef eto. Y rhai sydd heb ddigon o arian i dalu cwmnïau preifat am gefnogaeth gartref neu dalu costau’r cartrefi gofal, ond gyda gormod i allu cael cefnogaeth gan y wlad – dyna’r rhai sydd bob amser yn cael eu heffeithio.
“Mae’r holl beth wedi ei sgubo dan y mat ar hyn o bryd, a neb yn fodlon trafod.”
Difrifol
Roedd y pandemig yn gyfnod heriol i amryw o bobol, ond yn arbennig i ofalwyr a phobol sy’n byw â dementia, gyda’r gefnogaeth oedd ar gael yn y cartref yn aml yn diflannu dros nos ac ymweliadau â chartrefi gofal yn dod i stop.
“Allwch chi ddychmygu bod yn sefyllfa rhywun gyda dementia mewn cartref gofal ac yn sydyn reit, does neb yn dod i’ch gweld chi,” meddai Beti George.
“Maen nhw ar goll yn barod, a’r unig gyswllt sydd gyda nhw â realiti bywyd mewn gwirionedd ydy eu perthnasau sy’n dod i’w gweld.
“A phan fo hynny yn peidio â bod, mae’n amlwg y bydd yn effeithio arnyn nhw yn ddifrifol.”
Mae’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia wedi trefnu’r gynhadledd er mwyn rhannu rhai o’u canfyddiadau ac argymhellion, gan gynnwys sicrhau bod profion dementia safonol ar gael yn Gymraeg i siaradwyr yr iaith.
Byddan nhw hefyd yn edrych ar effaith iaith a diwylliant ar lesiant preswylwyr cartrefi gofal sy’n byw gyda dementia ac ar brofiadau unigolion o’r cyflwr.
Mae modd cofrestru ar-lein i fynychu’r gynhadledd, sy’n cael ei gynnal rhwng 12:00 a 14:00 prynhawn heddiw.