Ionawr 1922: Syr Ifan ab Owain Edwards, Sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru yn cyhoeddi erthygl yng nghylchgrawn Cymru’r Plant yn gwahodd plant Cymru i ymuno mewn mudiad newydd o’r enw Urdd Gobaith Cymru Fach. Y bwriad? Darparu mwy o gyfle i blant ddefnyddio’r Gymraeg. Erbyn diwedd 1922 roedd 720 aelod, roedd rhestr aros gan mai ddim ond 100 y mis oedd yn gallu ymaelodi oherwydd y gofod oedd ar gael yn y cylchgrawn!
1925: Dechrau rhannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd.
1928: Gwersylloedd cyntaf yr Urdd yn cael eu cynnal mewn cae yn Llanuwchllyn gyda’r bechgyn yn cysgu mewn pebyll ac yn ymolchi yn yr afon! Daeth Gwersylloedd yr Urdd mor boblogaidd fel bod galw am wersyll parhaol yn Llangrannog ym 1932 ac yna Gwersyll Glan Llyn yn agor ym 1950.
1929: Eisteddfod gyntaf yr Urdd yng Nghorwen.
1937 – 1965: Aelodau’r Urdd yn mynd o ddrws i ddrws yn gwerthu llyfrau Cymraeg! Cafodd dros 400,000 o lyfrau eu gwerthu. Canlyniad hyn oedd sefydlu Cyngor Llyfrau Cymru ym 1961.
1939: Syr Ifan yn agor yr Ysgol Gymraeg gyntaf un yn Aberystwyth. Ysbrydoliaeth i sefydlu ysgolion Cymraeg ymhob rhan o Gymru.
1944: Sefydlu’r bathodyn triongl coch, gwyn a gwyrdd i’r aelodau.
1967: Cynnal Gwyl Chwaraeon 1af yr Urdd yn Aberystwyth ac mae’n parhau yno bob blwyddyn.
1972: Dathlu’r 50 a sefydlu Theatr Ieuenctid yr Urdd, sy’n parhau’n boblogaidd.
1976: Mistar Urdd yn cael ei eni! Wynne Melville Jones greodd Mistar Urdd ac erbyn hyn mae’n eicon cenedlaethol ar grysau T, bagiau a throns hyd yn oed!
1988: Cychgrawn Cymru’r Plant yn newid enw i Cip! Mae’n parhau’n boblogaidd heddiw.
1992: Agor Canolfan Pentre Ifan Sir Benfro.
1998: Mistar Urdd yn mentro i’r gofod!
2004: Agor Gwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd.
2020: Covid-19 yn gorfodi datblygiad Eisteddfod T gyda miloedd o blant a theuluoedd yn cystadlu o adref.
Heddiw: 55,000 o aelodau. 10,000 o wirfoddolwyr, 100,000 yn cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon, 68,000 yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, 49,000 yn mynychu’r gwersylloedd, pob ysgol yng Nghymru mewn cyswllt â’r Urdd a’r mudiad yn gwneud cyfraniad o 31 miliwn i economi Cymru…Ymlaen i’r ganrif nesaf!