Mae un o gynghorwyr annibynnol Pen Llŷn wedi ymuno â grŵp Plaid Cymru Gwynedd.

Fe wnaeth cyfarfod o grŵp cynghorwyr Plaid Cymru’r sir gytuno’n unfrydol i groesawu’r Cynghorydd Dewi Roberts, sy’n cynrychioli Ward Abersoch, i ymuno fel aelod o Blaid Cymru.

Bellach, mae gan Blaid Cymru 41 o gynghorwyr ar Gyngor Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Dewi Roberts ei fod yn gadael y grŵp annibynnol “heb unrhyw ddrwgdeimlad” a’i fod yn edrych ymlaen at y dyfodol fel cynghorydd Plaid Cymru “a’r daliadau a’r egwyddorion sydd ynghlwm â’r Blaid”.

Roedd Dewi Roberts yn un o’r rhai fu’n ceisio amddiffyn Ysgol Abersoch rhag cael ei chau.

‘Cam ymlaen’

“Dwi’n symud o’r grŵp annibynnol yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a’i cydweithio dros y blynyddoedd,” meddai’r Cynghorydd Dewi Roberts.

“Dwi’n gadael fel cyfaill ac heb unrhyw ddrwgdeimlad.

“Dwi’n edrych ymlaen at y dyfodol fel cynghorydd Plaid Cymru a’r daliadau a’r egwyddorion sydd ynghlwm â’r Blaid.

“Dwi’n hyderus yn fy mhenderfyniad yn bersonol, ac yn credu hefyd y bydd hyn yn gam ymlaen ar gyfer y Ward.”

‘Caffaeliad i’r tîm’

Wrth groesawu Dewi Roberts i’r blaid, dywed Dyfrig Siencyn, arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, ei fod yn gynghorydd “cydwybodol sy’n gweithio’n galed dros drigolion Abersoch a’r cyffiniau”.

“Bydd yn gaffaeliad i’r tîm wrth i ni weithio yng nghalon ein cymunedau,” meddai.

“Mae’n gyfnod pwysig i ni yn lleol wrth i ddelwedd gwleidydda yn San Steffan ddadfeilio ar ein sgriniau.

“Tra bo Prif Weinidog Lloegr yn trafod ei bartïon ac achosi anfri, mae gennym ni, yn lleol, job o waith i’w wneud.

“Rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn gadarnhaol yma yng Ngwynedd gan weithio’n galed dros ein trigolion.

“Wrth i gyfnod etholiad llywodraeth leol nesau, rydym yn parhau i weithredu yng nghalon ein cymunedau, gan roi trigolion a chymunedau yn gyntaf.

“Ein nod yw gweithio ‘O Blaid Gwynedd’ i greu sir ffyniannus a chyffrous lle bydd cenhedlaethau’r dyfodol yn gallu parhau i fyw, gweithio a mwynhau.”