Bydd y Daily Post yn lansio gwasanaeth cylchlythyrau dyddiol Cymraeg yn fuan, “y cyntaf o’i fath ar raddfa mor fawr”, meddai’r papur.
Yn ôl Dion Jones, golygydd y Daily Post, bydd y cylchlythyr yn cynnwys eitemau newyddion yn edrych ar faterion cyfoes, diwylliant, bywyd, a threftadaeth Gymreig.
Bydd hefyd yn gweithredu fel adnodd addysgiadol i ddysgwyr Cymraeg, meddai.
Daw ei sylwadau wrth iddo ymateb i alwadau gan Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd, am dudalen ddyddiol o newyddion Cymraeg yn y papur.
Mae rhai o gyn-olygyddion yr Herald Cymraeg, sydd bellach yn atodiad yn y Daily Post, wedi cyhuddo’r papur o “ddangos dirmyg at y gymuned Gymraeg, sydd wedi cefnogi’r papur ers cenedlaethau”.
‘Gwerthfawrogi ein hiaith’
Wrth ymateb i’r galwadau a’r cyhuddiadau bod traean o staff llawn amser y papur yn “siaradwyr Cymraeg angerddol”, dywed Dion Jones fod y papur “yn gwerthfawrogi ein hiaith a’n hanes”.
“Rydyn ni’n teimlo’n angerddol ynghylch cadw’r iaith Gymraeg yn fyw, ac oherwydd hynny byddan ni’n lansio gwasanaeth cylchlythyr dyddiol Cymraeg newydd sbon yn fuan, y cyntaf o’i fath ar raddfa mor fawr yng Nghymru,” meddai.
“Bydd y cylchlythyr yn cynnwys eitemau newyddion sy’n canolbwyntio ar fywyd, diwylliant, treftadaeth a materion cyfoes Cymreig; a bydd yn gweithredu fel adnodd addysgiadol i ddysgwyr Cymraeg hefyd.”
Galwadau
Roedd galwad Myrddin ap Dafydd yn cyfeirio at y ffaith fod y papur yn arfer cynnwys ychydig o eiriau ar gyfer dysgwyr, gan “ddangos parch at y rhai sy’n ceisio dysgu a gwella eu Cymraeg”.
“Os ydym am gyrraedd nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, byddai buddsoddi yn yr Herald Gymraeg / ochr Gymraeg y Daily Post yn help garw,” meddai.
Daeth yr Herald i ben fel papur ar wahân yn 2005, ac ers hynny mae wedi’i gynnwys fel atodiad wythnosol yn y Daily Post.
Er bod yr atodiad yn “fwy swmpus” ar hyn o bryd nag y bu, mae’n “amlwg bod lle i wella”, meddai’r Archdderwydd.
Roedd Myrddin ap Dafydd wedi awgrymu y byddai’n bosib i’r Western Mail a’r Daily Post rannu’r un cynnwys a cholofnau Cymraeg, gan mai Reach PLC sy’n berchen ar y ddau bapur.