Mae ymchwil wedi canfod fod Busnes Cymru wedi rhoi hwb o tua £790m y flwyddyn i economi Cymru erbyn canol 2021.

Cafodd y gwasanaeth i fusnesau ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2015 ac ers hynny, mae dros 25,000 o swyddi wedi cael eu creu ledled Cymru ac mae wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad o £469m.

Gyda thîm o gynghorwyr profiadol, mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth arbenigol mewn sawl ffordd wahanol i fusnesau ledled Cymru, yn enwedig wrth drafod heriau sy’n deillio o Brexit a’r pandemig.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd ffigurau ar ddechrau’r flwyddyn yn nodi bod mwy na 750 o entrepreneuriaid wedi dechrau busnes neu wedi dod yn hunangyflogedig gyda chymorth Busnes Cymru yn ystod y pandemig.

‘Gwasanaeth o’r radd flaenaf’

Dywed Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, fod y llwyddiant hyd yn hyn yn dyst i waith caled y tîm “gwirioneddol anhygoel” sy’n rhedeg y gwasanaeth.

“Mae Busnes Cymru yn wasanaeth o’r radd flaenaf sy’n darparu cyngor ac arweiniad amhrisiadwy fel rhan o amgylchedd busnes cefnogol,” meddai.

“Mae’r gwerth y mae’n ei ychwanegu at economi Cymru yn ystod y cyfnod masnachu hynod anodd yn dyst i’r tîm gwirioneddol anhygoel o gynghorwyr sy’n rhoi cymorth uniongyrchol i’n busnesau i’w helpu i dyfu a ffynnu, gan helpu i greu swyddi da mewn cymunedau ledled Cymru.

“Hoffwn estyn fy niolch i bob un ohonynt.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau beiddgar i adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru, ac mae Busnes Cymru yn rhan allweddol o’n dull rhagweithiol.”