Mae Geraint Davies, cyfansoddwr y gân ‘Hei Mistar Urdd’, yn dweud na fyddai neb wedi disgwyl i’r gân bara tan ganmlwyddiant yr Urdd eleni.

Bydd yr Urdd a’r genedl gyfan ym ymgeisio i dorri record byd Guinness wrth i bobol uwchlwytho’u fideos ohonyn nhw eu hunain, eu grwpiau a’u teuluoedd yn canu fersiwn fer o’r gân i Facebook a Twitter rhwng 10:45yb ac 11:45 heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25).

Yn ôl Geraint Davies, mae llwyddiant a hirhoedledd y gân yn “destun balchder” iddo.

“Mae’n rywbeth sy’n tynnu lot o bobol at ei gilydd, er gwell neu er gwaeth ac mae yna filoedd o blant wedi gorfod dysgu’r gân, felly pam lai dod at ei gilydd a gweld beth allan nhw wneud?” meddai wrth siarad â golwg360 am yr ymgais i dorri record byd.

“Mae’n destun balchder bod y gân wedi para gymaint a bod pobol yn dal i’w hoffi ac yn dal i’w chanu – ond dwi’n cyfeirio ati’n aml fel y gân sy’n gwrthod marw!

“Mae’n tynnu sylw hefyd at gryfder Wynne Melville Jones, tad Mistar Urdd, oedd yn ymwybodol iawn fod angen tynnu sylw drwy’r amser at waith y mudiad.”

Fe fu Geraint Davies yn gweithio i’r Urdd, yn bennaf yn Adran yr Eisteddfod, ochr yn ochr â Wynne Melville Jones, oedd yn chwarae rhan flaenllaw yn ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y mudiad.

Pam, felly, nad oes sôn am yr Eisteddfod yn y gân?

“Honna fyddai’r trydydd pennill!” meddai, â’i dafod yn ei foch.

“Mewn gwirionedd, doedd neb yn meddwl fyddai’r gân yn dal o gwmpas dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.

“Cân fach oedd hi i fod i hybu dyfodiad y cymeriad bach. Doedd neb yn meddwl fyddai’r cymeriad yn para mor hir, mae’n siŵr, felly doedd dim llawer o feddwl dwfn yn y peth.”

Recordio’r gân

Ynghyd â Geraint Davies, sy’n fwyaf adnabyddus fel gitarydd y bandiau Hergest a Mynediad Am Ddim, roedd ei ffrind Alun Tomos, Emyr Wyn (Mynediad Am Ddim), y cyflwynydd radio Hywel Gwynfryn, a’r athrawon yn Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Gwyn Williams ac Eirwyn Jôs, i gyd ar y recordiad.

“Cwrddodd pawb sydd ar y record yn y stiwdio, felly roedden ni’n griw amrwd iawn, iawn!” meddai, wrth gofio’n ôl.

“Roedd Emyr Wyn wedi cael ei ddewis i ganu’r gân ac roedd e newydd ddechrau cyflwyno rhaglenni i blant, Bilidowcar os gofia i’n iawn, a’i gyd-gyflwynydd e oedd Hywel Gwynfryn.

“Roedd Hywel yn mynd trwy un o’i gyfnodau fe o ymddiddori mewn pethau newydd ac roedd e wedi cymryd at y drymiau. Fel’ny fuodd e, yr unig dro erioed, hyd y gwn i, ar record i Hywel Gwynfryn chwarae’r drymiau!

“Ac wedyn roedd gyda fi ffrind, Alun Thomas, oedd yn chwarae rhywfaint ar y bas ac fe gafodd e ei dynnu mewn.

“Eirwyn Jôs wedyn, oedd yn bianydd arbennig o dda ac yn athro yn y Cymoedd, ac roedd e’n dod â chriw o blant gyda fe i ganu’r gân.

“Cafon ni’n taflu at ein gilydd braidd, achos eto, dwi ddim yn meddwl fod neb yn meddwl y byddai hi’n para!”

Fersiwn Mei Gwynedd

A hithau wedi bod yn rhan o ddiwylliant y Cymry Cymraeg ers cyhyd, mae’n anochel bod sawl fersiwn o’r gân wedi’u recordio – ac efallai mai’r enwocaf ohonyn nhw i gyd yw fersiwn roc Mei Gwynedd, sydd wedi cael ei defnyddio ar gyfer yr ymgais at record byd heddiw.

 

“Mae’r gân wedi bod o gwmpas hanner gwaith cymaint â’r Urdd, ac mae hwnna’n arswydus!” meddai Geraint Davies.

“Fi’n credu mai fersiwn Mei Gwynedd yn ddiweddar yw’r bedwaredd wy’n gwybod amdani sydd wedi’i recordio.

“Ac wedyn mae cannoedd os nad miloedd o fersiynau wedi cael eu perfformio gan blant, athrawon ac arweinyddion ar hyd y blynyddoedd, mae’n siŵr gyda fi.”

Cysylltiadau a phrofiadau personol gyda’r Urdd

Wrth ystyried pwysigrwydd yr Urdd, mae Geraint Davies yn cydnabod y rhan allweddol gafodd y mudiad yn ei fywyd ei hun o’r dechrau’n deg.

“Fi wedi bod yn meddwl lot am hyn, ac mae’r Urdd wedi bod yn hollol hanfodol, a dweud y gwir,” meddai.

“Cwrddodd fy rhieni yng ngwersyll Llangrannog nôl yn niwedd y ’40au, felly fyddwn i ddim yma oni bai am hynny!

“Yn Aelwyd yr Urdd Treforys gwrddais i â ’ngwraig, yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn gwrddais i â Delwyn Siôn, Elgan Ffylip a Derec Brown a fynna ddechreuodd Hergest a ’ngyrfa gerddorol – os alla i ei alw fe’n yrfa – ac wedyn es i i weithio i’r Urdd.”

Ond dyw ei gysylltiad â’r Urdd ddim wedi bod yn fêl i gyd ar hyd y blynyddoedd chwaith.

“Wnes i ddim mwynhau’r flwyddyn gynta’,” mae’n cyfaddef am ei ymweliad cyntaf ag un o wersylloedd yr Urdd yn blentyn.

“Es i i Langrannog pan o’n i ambwyti deg, fydden i’n meddwl, a dim ond fi a’n ffrind ysgol oedd yn mynd i fynd gyda’n gilydd.

“Doedd dim criw mawr, ond fe dynnodd e nôl funud ola’ so o’n i ddim yn nabod neb! Roedd hwnna ychydig bach o ’sgytwad, ond des i drosto fe!

“Es i i Langrannog sawl gwaith, fues i wedyn yn mynd i Lan-llyn ac, a dweud y gwir, ro’n i wedi cael lot o sbort.

“Ro’n i’n sôn yn ddiweddar am Hergest yn cychwyn gyda’r bois o’n i wedi cwrdd, ac ro’n ni wedi bod yn siarad gyda Dei Tomos am y peth.

“Roedden ni wedi plygu’r rheolau drwyddi draw. Yr un yw’r profiad i genedlaethau, mae’n siŵr.”

Tyndra’r Arwisgiad yn ’69

Adeg Arwisgo’r Tywysog Charles yn 1969, mae’n dweud bod tyndra o fewn y mudiad ar y pryd oherwydd bod dwy ysgol feddwl – y rhai oedd yn genedlaetholwyr ac yn gwrthwynebu’r holl achlysur, a’r rheiny oedd yn fodlon cadw at ymdeimlad Prydeinig y mudiad oedd yn gwrthod corddi’r dyfroedd.

Ac yntau’n genedlaetholwr, mae’n cyfaddef fod ei “agwedd at yr Urdd wedi newid rywfaint yr adeg hynny”.

“Achos ro’n i’n eu gweld nhw’n plygu i Brydeindod ond eto, des i dros hwnna hefyd achos, o fewn chwe blynedd, es i i weithio i’r Urdd,” meddai.

“Mae pob sefydliad yn newid, mae pob mudiad yn newid gyda’r bobol sydd yno.

“Pan o’n i ar staff yr Urdd – ac mae hwn ar brint yn rhywle – mi o’n i’n ymwybodol iawn bod nifer o bobol hefyd ar staff yr Urdd oedd ddim jyst yn wladgarwyr – ac mae’n siŵr bod eisiau i chi fod yn wladgarwr i fynd i weithio i fudiad fel yr Urdd – ond roedden nhw hefyd yn genedlaetholwyr ac fe fuodd yna newid byd.

“Buodd newid mawr mewn agwedd tua’r hanner can mlynedd.

“Fe ddaeth nifer o bobol wahanol mewn, nifer o bobol oedd wedi bod ar staff yr Urdd ers degawdau’n ymddeol a chriw newydd sbon yn dod mewn, criw iau, ac roedd hynny’n bownd o arwain at newid.”

“Braint” cael cynnal Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd

Gwern ab Arwel

Er ei bod hi’n debygol o fynd yn ei blaen, bydd yr Eisteddfod eleni ychydig yn wahanol i’r arfer gyda’r pandemig yn parhau

“Mae Mistar Urdd wedi byw’n hirach na beth oedd neb wedi’i ragweld,” medd ei grëwr

Cadi Dafydd

Wynne Melville Jones yn trafod bywyd ei gymeriad Mistar Urdd, sydd wedi ymddangos ar grysau T, mygiau, teganau meddal… a hyd yn oed ar ddillad isaf
Yr Urdd yn 100 oed

Diwrnod Cariad @ Urdd: dathlu canmlwyddiant y mudiad ieuenctid

Bydd y dathliadau heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25) yn cynnwys ymgais yr Urdd a’r genedl gyfan i dorri record byd