Dylai treth y cyngor ar gyfer perchnogion ail gartrefi yn Sir Benfro gael ei gynyddu eto, yn ôl cynghorydd sy’n cynrychioli Dinbych-y-pysgod.

Daw sylwadau Michael Williams ar ôl i gynghorwyr y sir bleidleisio o blaid cynyddu’r premiwm ar ail gartrefi o 50% i 100% erbyn 2022/23.

Mae’n cydnabod mai dyma oedd yr “uchafswm statudol” yr oedd modd i’r cyngor ei godi, ond mae’n teimlo bod angen ei godi eto.

Mewn cyfarfod heddiw (dydd Llun, Ionawr 24), fe alwodd y cynghorydd am “gynrychiolaethau brys” er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i godi’r mwyafrif hwn, gan awgrymu y dylai 50% yn fwy gael ei godi.

Wrth ymateb, fe wnaeth sawl cynghorydd gwestiynu pa mor effeithiol oedd hynny wrth leihau’r argyfwng ail gartrefi, gan y byddai perchnogion yn gallu manteisio ar fwlch yn y gyfraith a chofrestru ar gyfer ardrethi busnes yn lle.

‘Mae gennym ni broblem dai barhaus’

Cyfeiriodd y Cynghorydd Michael Williams, sy’n cynrychioli ward Gogledd Dinbych-y-pysgod, at y stryd y mae’n byw arni yn y dref.

Dywedodd fod 75% o’r tai ar y stryd hon yn ail gartrefi a bod pedwar teulu wedi cysylltu â’r cynghorydd ar ôl “cael gorchymyn i adael” oherwydd bod eu landlordiaid yn bwriadu troi eu heiddo’n AirBnB.

“Mae gennym ni broblem dai barhaus yma sy’n cael ei gwaethygu gan y nifer sylweddol o ail gartrefi,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn cyfrannu dim byd, dim byd o gwbl i’r economi leol.”

Ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd yn gallu talu £450,000 am dŷ teras y “maen nhw’n ei ddefnyddio’n achlysurol”, yna dylen nhw allu cyfrannu mwy drwy dreth y cyngor.

Dim cefnogaeth

Wrth ystyried y syniad o godi’r premiwm ymhellach, mae’r Cynghorydd Mike Stoddart yn bryderus y byddai hynny’n annog mwy o berchnogion ail gartrefi i gofrestru ar gyfer ardrethi annomestig ac na fyddai’n lleihau nifer yr ail gartrefi sydd eisoes yn y sir.

Roedd y Cynghorwyr Mike John a Mark Carter yn awyddus i weld pa effaith fydd codi’r premiwm i 100% yn ei chael yn gyntaf, gan gydnabod fod angen gweithredu i ddelio â’r sefyllfa.

Cafodd y pwyllgor craffu ar wasanaethau corfforaethol eu cynghori bod cais wedi ei wneud i’r Llywodraeth roi’r opsiwn i awdurdodau lleol gynyddu premiwm treth y cyngor ymhellach.

Cafodd ymgynghoriad ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar “drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar” ei gynnal rhwng Awst 25 a Thachwedd 17 y llynedd.

Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw bellach yn “adolygu’r ymatebion” ac y byddan nhw’n cyhoeddi canlyniad “maes o law”.