Mae’r Uchel Lys wedi gwrthod her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad i beidio ag erlyn yr un a gafodd ei gyhuddo o ddynladdiad Christopher Kapessa.
Bu farw’r bachgen 13 oed ar ôl mynd i afon Cynon ger Brynrhedyn ym mis Gorffennaf 2019, ac roedd honiadau bod bachgen 14 oed wedi ei wthio i’r dŵr.
Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio ag erlyn y bachgen 14 oed, gan ddweud nad oedd hynny er budd y cyhoedd.
Roedd ei fam, Alina Joseph, wedi dwyn achos yn erbyn Max Hill, Cyfarwyddwr Erlyniaddau Cyhoeddus a phennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron, ond fe wnaeth dau farnwr ddiystyru’r her heddiw (dydd Llun, Ionawr 24).
Gwrandawiad
Fe wnaeth yr Arglwydd Ustus Popplewell a Mr Ustus Dove ystyried y ddadl mewn gwrandawiad yn Llundain yn gynharach y mis hwn.
Yn ystod y gwrandawiad hwnnw, fe wnaeth y bargyfreithiwr Michael Mansfield, sy’n arwain tîm cyfreithiol Alina Joseph, ddadlau bod y penderfyniad i beidio ag erlyn y bachgen, sydd nawr yn 17 oed, yn “afresymol”.
Dywedodd ei fod yn benderfyniad “anghyfreithlon”, ac y dylid ei ddirymu.
Cafodd penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag erlyn ei wneud gan erlynydd arbenigol ar ôl cynnal adolygiad, meddai’r cyfreithwyr ar ran y Gwasanaeth.
Penderfyniad
Mewn dyfarniad ysgrifenedig, nododd yr Arglwydd Ustus Popplewell fod y prif ganllawiau polisi ar gyfer penderfyniadau erlyn wedi’u cynnwys mewn Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron a gafpdd ei gyhoeddi gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.
Dywedodd hefyd fod “Canllawiau Dynladdiad” ar yr amod bod “budd y cyhoedd” yn uchel wrth erlyn achosion dynladdiad, gan y byddai’r niwed sy’n cael ei achosi “yn anochel o’r difrifoldeb mwyaf….”.
Nododd Michael Mansfield mai ei “brif argymhelliad” oedd bod “methiant wedi bod i ystyried a chymhwyso’r Canllawiau Dynladdiad”.
Anghytunodd yr Arglwydd Ustus Popplewell ac awgrymodd fod dadl Michael Mansfield yn camddehongli canllawiau polisi.
Dywedodd fod y “Canllawiau Dynladdiad” yn cyfeirio at “dynladdiadau yn gyffredinol”, ond dywedodd fod yn rhaid i Wasanaeth Erlyn y Goron hefyd ystyried “Canllawiau Troseddwyr Ifanc”.
Ychwanegodd fod “Canllawiau Troseddwyr Ifanc” yn ymwneud â “ffactorau pwysig” a oedd yn pwyso yn erbyn erlyn pobol ifanc.
Marwolaeth Christopher Kapessa
Yn ystod y gwrandawiad, cafodd y barnwyr wybod fod 16 o bobol yn bresennol pan fu farw Christopher Kapessa.
Dywedodd Michael Mansfield fod Christopher Kapessa wedi mynegi pryderon am ei ddiffyg gallu nofio a’i fod e wedi bod yn “anfodlon mynd i mewn i’r dŵr ar ei ben ei hun”.
“Fe wnaeth yr un sy’n cael ei amau ei wthio ar bwrpas i’r dŵr,” ychwanegodd.
“Fe wnaeth Christopher foddi a chafodd ei ladd o ganlyniad.”
Dywedodd bod Christopher Kapessa a’i deulu yn “weddol newydd” i’r ardal, a’u bod nhw yn deulu du sy’n byw mewn ardal lle mae trwch y boblogaeth yn wyn.
Angen ’dileu’ penderfyniad
Fe ddadleuodd Michael Mansfield yn ddiweddarach fod y penderfyniad i beidio ag erlyn y llanc, sydd nawr yn 17 oed, yn “anghyfreithlon” ac “angen cael ei ddileu”.
“Mae un ffactor – sef oedran y troseddwr – wedi cael gormod o sylw yn fan hyn,” meddai.
“Mae’r un sy’n cael ei amau yn y mater hwn bellach yn 17, ond dydy hynny ddim yn atal y budd cyhoeddus o ddal unigolyn i gyfrif am achosi marwolaeth drwy ddynladdiad.
“Fyddai hi ddim yn ‘anghymesur’ i gyhuddo bachgen neu berson ifanc am y dynladdiad mae wedi ei achosi.
“Mae oedran troseddwr yn ffactor y gallai’r llys troseddol ei hun ei ystyried wrth osod cosb.”