Mae angen canoli gwasanaethau yn agosach at gymunedau gwledig os am sicrhau cymunedau mwy cynaliadwy, yn ôl cynghorydd sir ym Mhowys.

Daw hyn ar ôl i’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol gyhoeddi adroddiad sy’n cwmpasu’r heriau i ardaloedd gwledig yng Nghymru wrth geisio cyflawni cymunedau cynaliadwy ac ecogyfeillgar.

Mae’r adroddiad yn crybwyll y cysyniad o ‘gymdogaethau 15 munud,’ lle mae modd i drigolion gael mynediad at wasanaethau ac anghenion dyddiol, sydd o fewn chwarter awr ar droed neu ar feic.

Bwriad y cysyniad yw ysgogi cymunedau i ddibynnu llai ar gerbydau modur a ffafrio dulliau carbon niwtral o deithio.

Wrth ystyried bod llawer o lefydd yng nghefn gwlad Cymru yn bellach na chwarter awr o rai gwasanaethau hyd yn oed mewn car, mae’r adroddiad yn argymell nifer o newidiadau sydd angen eu cyflawni.

Ymchwil

Fel yr eglura Rhian Brimble, Swyddog Polisi’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, bwriad y papur sydd wedi’i gyhoeddi yw archwilio’r cysyniad o fyw’n lleol yng nghefn gwlad Cymru.

“Mae cynllunwyr a rhanddeiliaid yn edrych ar ddulliau amgen o fynd i’r afael â phwysau a chyfleoedd mewn ardaloedd gwledig, sydd wedi’u dwysáu gan y pandemig, yn ogystal â mynd i’r afael â materion allweddol fel yr hinsawdd, yr amgylchedd, yr economi, cymdeithas ac iechyd,” meddai.

“Nod y model ‘cymdogaeth 15 munud’ yw annog a chefnogi cymunedau i gael mynediad at eu nwyddau a’u gwasanaethau dyddiol yn lleol, trwy ddulliau cynaliadwy.

“Mae hyn wrth gwrs yn mynd yn fwy cymhleth mewn cyd-destun gwledig. Mae’r papur felly’n ystyried y cysyniad, heb fesuriad penodol o amserlen neu bellter, gan ddefnyddio’r term ‘lleol’ yn fwy hyblyg.

“Nod y papur hwn yw cychwyn trafodaeth yng Nghymru ar y cyfleoedd, ac effeithiau gwahanol o fyw’n fwy lleol yng nghefn gwlad Cymru a sut y gall cynllunio fynd i’r afael â hyn.”

‘Yr unig ateb’

Mae’r Cynghorydd Elwyn Vaughan, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Powys, yn byw yn Llanbrynmair ac wedi nodi’r heriau sy’n codi i gymunedau gwledig fel hyn.

“Dw i ar ddeall bod Llanbrynmair yn cael ei nodi fel un o’r wardiau sydd y pellaf o wasanaethau allan o unrhyw le yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.

“Ar ddiwedd y dydd, yr unig ateb i lefydd gwledig ydi sicrhau bod gwasanaethau yn agosach at gymunedau, yn lle’r tuedd sydd wedi bod dros y chwarter canrif ddiwethaf o ganoli gwasanaethau ymhellach ac ymhellach.”

Dywed fod rhaid i bobol yn ei ardal o deithio cyn belled â Machynlleth i ymweld â meddygfa, ac mewn rhai achosion, yn gorfod mynd ar draws y gogledd, i’r de neu groesi’r ffin i Amwythig neu Telford i gael gofal mewn ysbyty.

“Er enghraifft, un o’r anfanteision mawr o gau ysbytai gwledig ac ysbytai trefol, lle oedd pobol yn gallu cael gwasanaethau ar stepen drws yn aml iawn, yw bod rhaid i bobol fynd i [Ysbyty] Bronglais, neu Gaerfyrddin, Hwlffordd ac Abertawe hyd yn oed.

“Os ydyn ni wirioneddol eisiau mynd ar hyd y trywydd yma, mae’n mynd i olygu buddsoddi mewn seilwaith yn agosach at y cymunedau hynny.”

Ysgolion gwledig

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu strategaeth i drawsnewid addysg yn y sir rhwng 2020 a 2030, sydd eisoes wedi gweld y Cabinet yn cau nifer o ysgolion gwledig.

Dywed Elwyn Vaughan fod hynny hefyd yn cael effaith ar weithgaredd pobol wledig o ddydd i ddydd.

“Mae’r un peth wedyn yn wir efo materion addysgol,” meddai.

“Hynny yw, os ydyn ni wirioneddol yn dweud ein bod ni eisiau gwasanaethau yn agos i lefydd gwledig ym Mhowys, yna mae’n rhaid sicrhau bod yna fuddsoddiad teilwng ar gyfer ysgolion i allu aros ar agor.

“Hefyd, rhaid defnyddio technoleg i rwydweithio rhwng ysgolion llawer iawn mwy, a datblygu sgiliau ac yn y blaen.”

‘Does yna ddim dewis’

Yn ôl Elwyn Vaughan, y sector gyhoeddus yn aml iawn yw’r prif gyflogwr mewn siroedd gwledig fel Ceredigion a Phowys.

Dywed y byddai’n synhwyrol i weithwyr y sector weithio mewn trefi sy’n agosach i’w cartrefi, yn hytrach na bod pawb yn cael eu canoli mewn un dref yn y sir.

Wrth ystyried ceir, mae’n nodi eu bod nhw’n bwysig i fywydau pobol Powys, ac na fyddai modd eu cyfnewid gyda dulliau teithio di-garbon fel cerdded neu seiclo.

“Does yna ddim dewis,” meddai.

“Tynnwch chi geir allan ac mae hi’n amhosib gweithredu ac i fyw yn hylaw yn y cymunedau hyn.”