Cyfrinach llwyddiant yr Urdd yw bod y mudiad wedi newid drwy’r amser, ac yn parhau i wneud hynny, yn ôl y dyn wnaeth greu’r cymeriad Mistar Urdd.
Ar ganmlwyddiant yr Urdd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25), mae Wynne Melville Jones wedi bod yn trafod dechreuad y cymeriad gyda golwg360.
Ers 1976, mae Mistar Urdd wedi ymddangos ar grysau-T, mygiau, ar lwyfannau dros Gymru, fel tegan meddal… a hyd yn oed ar ddillad isaf.
Mae Mistar Urdd wedi byw’n hirach nag yr oedd neb yn ei ragweld, meddai Wynne Melville Jones wrth rannu ei atgofion am y cyfnod.
Mae gwreiddiau Mistar Urdd yn perthyn i rwygiadau yn y mudiad yn sgil Arwisgiad y Tywysog Charles yn Eisteddfod Caernarfon yn 1969.
Ymunodd Wynne Melville Jones â staff yr Urdd yn 1969, yn syth ar ôl yr Arwisgo, fel trefnydd yr Urdd yn Sir Gaerfyrddin.
“Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd llawer iawn o’r to iau o arweinyddion oedd gyda ni wedi teimlo’n chwerw iawn iawn ynglŷn â’r ffaith bod yr Urdd wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r Arwisgo yn y castell yng Nghaernarfon,” meddai.
“Roedd e wedi achosi rhwyg yn yr Urdd, roedd hi’n rhwyg rhwng dwy genhedlaeth.”
Gwrthododd yr Urdd y gwahoddiad i fynd i’r Arwisgiad, ond cafodd Tywysog Charles ei wahodd i Lan-llyn ac i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth y flwyddyn wedyn.
Ar ôl dwy flynedd fel trefnydd sir, fe hysbysebodd yr Urdd am Swyddog Cyhoeddusrwydd a Gwerthiant.
“Fel ryw fath o ffordd o ymateb i’r sefyllfa, er mwyn ceisio moderneiddio a gwneud yr Urdd yn fwy poblogaidd, a denu to newydd o aelodau a gweithwyr,” meddai Wynne Melville Jones.
“Iechyd! Fi gafodd y job! Roedd hi’n job heriol iawn, iawn, iawn ond i fi, roedd hi’r job orau yng Nghymru achos y cyfan roeddwn i’n gallu ei wneud oedd meddwl am syniadau a chreu cyfleoedd i hyrwyddo’r Urdd.”
Ymgyrchoedd yr Urdd
Yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i Wynne Melville Jones gael y swydd, trefnodd yr Urdd ymgyrch mewn ysgolion lle nad oedd yr Urdd “wedi bod yn agos atyn nhw erioed o’r blaen”, nifer ohonyn nhw’n ysgolion mawr yn y Cymoedd.
“Fe benderfynon ni fynd â chanu pop Cymraeg i’r ysgolion yma, ac fe drefnon ni bod gyda ni gynulleidfa o fil o blant ymhob man roedden ni’n mynd.
“Fe aethon ni ar daith mewn Landrover a threlar gyda Dewi Pws a Huw Jones, ac fe wnaethon ni berfformio yn yr awyr agored o flaen yr ysgolion.
“Pan oedden ni’n cyrraedd roedden ni’n cael ein gwawdio, achos doedden nhw erioed wedi gweld cantorion pop Cymraeg o’r blaen. Pan oedden ni’n gadael, roedden ni’n gadael y lle yn fôr o wyn, coch a gwyrdd.
“Flwyddyn ar ôl hynny, des i lan gyda’r syniad yma o drefnu ras falŵns fwyaf y byd. Roedden ni am ryddhau 100,000 o falŵns o wersyll Llangrannog, gwerthu cardiau oedd yn cael eu clymu i’r balŵns a lle bynnag oedd y garden bellaf, honno oedd yn ennill.”
Aeth criw o tua 40 o wirfoddolwyr i Langrannog a threulio ryw wythnos yno’n llenwi balŵns â heliwm, a’u rhyddhau nhw.
“Mi aeth y balŵn pellaf i Rwsia,” meddai.
“Fuodd hwnna’n llwyddiant mawr, nid yn unig o ran cyhoeddusrwydd a chreu brwdfrydedd, ond o ran codi arian.”
Arwr newydd Cymraeg
Gofynnwyd iddo’r flwyddyn wedyn beth oedd ei gynllun.
“Doedd gyda fi ddim syniad, â dweud y gwir!” meddai.
“Ond ryw noson, roeddwn i’n eistedd adre ac fe edrychais ar y bathodyn… Feddyliais i ei fod e fymryn bach yn hen ffasiwn, ac alli di ddim mo’i newid o achos mae’n fathodyn mor dda, ac mae pawb yn adnabod e.
“Felly dyma roi gwên ar y bathodyn. Ac o roi gwên ar y bathodyn, roedd e’n dod yn hapus. A rhois i lygaid a thrwyn, breichiau a thraed, ac yn sydyn reit sylweddolais i ‘Mae yna gymeriad yn datblygu fan hyn’.”
Cafodd Wynne Melville Jones wared ar y corneli a’u gwneud nhw fymryn mwy crwn “er mwyn rhoi mwy o bowns ynddo fe, mwy o fywyd”.
Sylweddolodd ei bod hi’n bosib gwneud pob math o nwyddau a chodi arian gyda’r cymeriad, ac y gallai “dyfu’n arwr Cymraeg newydd”.
Doedd pawb yng nghyfarfod staff yr Urdd “ddim yn dwlu” ar y syniadau, meddai Wynne Meville Jones, ond roedd digon o gefnogaeth i symud ymlaen.
Buddsoddwyd mewn peiriannau argraffu ar bapur, plastig, a chrysau-T, cyn meddwl bod angen tegan meddal Mr Urdd.
Ar ôl i ferch oedd yn byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr greu prototeip o degan Mr Urdd, penderfynodd archebu 50 tegan.
“Roedd hi’n cyflogi gwragedd ffermydd yr ardal i ddod mewn i wyth carafán statig oedd gyda hi ar glos y ffarm, ac roedden nhw’n gweithio’n fan hynny rhwng godro a charthu a bwydo’r lloi,” meddai Wynne Melville Jones.
“Dyma fynd draw i drafod y prototeip a chytuno arno fe, a chymerais i’r risg a rhoddais archeb am hanner cant ohonyn nhw.
“Roeddwn i’n teithio’n ôl ac es i i boeni, ‘Lle dw i’n mynd i ffeindio hanner cant o bobol i brynu’r rhain?’ Feddyliais i am 35 o bobol, ffrindiau cefnogol i’r Urdd.
“Dyma’r hanner cant yn cyrraedd swyddfa’r Urdd, ac mi werthon nhw’n syth. Dyma fynd yn ôl yno, a rhoi archeb am 1,000.”
Rhoi bywyd i Mistar Urdd
Un peth sydd wedi bod yn help mawr i hyrwyddo Mr Urdd dros y blynyddoedd yw’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ gan Geraint Davies.
Wynne Meville Jones ofynnodd i Geraint Davies gyfansoddi’r gân a thros nos, daeth yr anthem i fodolaeth.
“Roedd hi’r union beth roeddwn i eisiau, cân syml, y byddai pawb yn cofio ar unwaith, a byddai unrhyw un yn gallu’i ganu fe. Fe gydiodd y gân.
“Roedden ni’n cyrraedd pwynt yn nes ymlaen bod rhaid i Mistar Urdd ddod yn fyw.”
Llogodd yr Urdd Bafiliwn Gerddi Sophia yng Nghaerdydd, neuadd fwyaf y brifddinas, a’i lenwi a 5,000 o blant yn canu a sgrechian.
“Fe ddaeth yna rywun â Land Rover a threlar mewn i’r pafiliwn, ac yn y trelar roedd yna fasged.
“Agorwyd y fasged, ac fe neidiodd Mistar Urdd allan, ac aethon ni ar daith o gwmpas Cymru.”
‘Trôns Mistar Urdd’
Doedd y cyfnod “ddim yn fêl i gyd”, meddai Wynne Melville Jones, ond roedd yn “lot o sbort”.
“Fe wnaethon ni grysau nos â Mistar Urdd arnyn nhw, a daeth y syniad yma wedyn o gynhyrchu trôns Mistar Urdd,” meddai.
“Roedden ni wedi cael trafferth o gael stondin i’r Urdd yn Eisteddfod [Ryngwladol] Llangollen am flynyddoedd, ac fe lwyddwyd yn y diwedd i gael stondin yno’r flwyddyn honno.
“Felly dyma ni’n mynd fyny i Steddfod Llangollen gyda llond fan o dronsys Mistar Urdd.
“Cyn diwedd y dydd, roedd y gwerthiant wedi bod yn anhygoel.
“Ond cyn diwedd y dydd, fe gaethon ni’n cau lawr gan awdurdodau’r steddfod. Doedden nhw ddim yn hapus o gwbl ein bod ni’n gwerthu tronsys a nicers merched ar faes y steddfod.
“Ond wrth gwrs fe wnaeth hynny gynhyrchu cyhoeddusrwydd anhygoel i ni yn y wasg.
“Roedd hwnna’n hyrwyddo Mistar Urdd, ac o hyrwyddo Mistar Urdd, holl bwynt y peth yw hyrwyddo’r Urdd a rhoi bywyd i’r mudiad – mudiad hapus, llon, bywiog.”
‘Newid drwy’r amser’
Yn ystod y cyfnod, cytunwyd mai prosiect tair blynedd fyddai Mistar Urdd, ond mae Mistar Urdd yn dathlu ei 46 oed eleni.
“Mae e wedi byw’n hirach na beth oedd neb wedi’i ragweld,” meddai Wynne Melville Jones.
“Cyfrinach llwyddiant yr Urdd yw bod y mudiad wedi newid drwy’r amser, dyw e ddim wedi bod yn statig.”
Mae rhai newidiadau wedi’u gwneud i Mistar Urdd ei hun ers 1976 hefyd ond “yr un yw’r cymeriad, yr un yw’r bwriad, yr un yw’r nod, a bydded Cymreictod ymhlith cenedlaethau o blant a phobol ifanc”.
“Y gyfrinach o safbwynt Mistar Urdd yw bod yna lifeiriant cyson o aelodau newydd yn dod mewn ymhob cenedlaethau.
“Fe all Mistar Urdd fod o gwmpas am sbel eto.”