Mae Mark Drakeford yn dweud ei fod e “wedi ffieidio” yn sgil yr honiadau newydd fod Boris Johnson wedi cael parti pen-blwydd yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo ym mis Mai 2020.
Dywedodd prif weinidog Cymru wrth raglen Today ar Radio 4 nad oes gan y prif weinidog “yr awdurdod moesol i arwain y Deyrnas Unedig” yn dilyn yr honiadau ei fod e wedi torri’r rheolau y gwnaeth ei lywodraeth ei hun eu gosod – rheolau oedd yn atal pobol rhag ymgasglu mewn niferoedd mawr ar gyfer angladdau, hyd yn oed.
Mae Downing Street wedi cyfiawnhau’r digwyddiad, gan ddweud mai “am gyfnod byr” yn unig y daeth pobol at ei gilydd yn Ystafell y Cabinet yn Rhif 10 “i ddymuno pen-blwydd hapus i’r prif weinidog”.
“Roedd e yno am lai na deng munud,” meddai llefarydd.
Ymateb Mark Drakeford
“Fe wnes i jyst ymateb gyda chyfuniad o anobaith a ffieidd-dod, mewn gwirionedd,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb i’r honiadau.
“Anobaith mai dyma lle mae’r wlad wedi diweddu ar ôl y profiad ofnadwy hwn, a ffieidd-dod ynghylch y pethau ddigwyddodd yn Downing Street.
“A’r ffordd mae’r Torïaid yn troi pobol allan i geisio’i gyfiawnhau e.”
Daw ei sylwadau ar ôl i’r aelod seneddol Ceidwadol Peter Bone siarad ar raglen Newsnight y BBC neithiwr (nos Lun, Ionawr 24), gan ddweud nad oedd yn “adnabod hwn fel parti”.
“Rydych chi’n gwybod sut bobol yw pobol wleidyddol,” meddai.
“Mae’n debyg eu bod nhw wedi siarad am waith pan oedden nhw’n bwyta’u cacen.”
Ond mae Mark Drakeford wedi ymateb yn chwyrn, gan dynnu sylw at y cyfyngiadau oedd yn eu lle ar adeg y parti.
“‘Dim ond parti oedd e.’ Wel, dim ond dau o bobol oedd i fod i gyfarfod dan do, wyddoch chi?” meddai.
“‘Dim ond deng munud barodd e’. Wel, doeddech chi ddim i fod i gyfarfod am ddeg eiliad.”
Angladdau
Wrth ymhelaethu ar y cyfyngiadau oedd yn eu lle, dywed Mark Drakeford ei fod e wedi derbyn llythyron gan bobol oedd wedi mynd i angladdau anwyliaid yn ystod y cyfyngiadau clo.
“Mae’r llythyron mwyaf anodd y bu’n rhaid i fi eu darllen trwy gydol y pandemig wedi dod gan bobol yn dweud eu bod nhw wedi gorfod mynd i angladd lle mai dim ond wyth o bobol oedd yn cael bod yno,” meddai.
“Lle wnaeth e ddim para deng munud. Lle doeddech chi ddim yn gallu canu.
“Wyddoch chi, yng Nghymru, mae angladd heb allu canu yn brofiad anodd iawn. Ac eto, fe wnaeth y bobol hynny gadw at y rheolau. Roedd hi’n anodd, ond fe wnaethon nhw.”
‘Dim awdurdod moesol i arwain’
Mae Mark Drakeford yn dweud y dylai Boris Johnson ymddiswyddo.
“Dw i jyst ddim yn credu bod gan y prif weinidog yr awdurdod moesol i arwain gwlad fel y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Dyna beth mae hyn yn ei amlygu i fi.
“Allwch chi ddim bod yn rhywun sy’n gofyn i bobol eraill wneud pethau – pethau anodd sy’n eu hypsetio – yr ydych chi mor anfodlon eu gwneud nhw eich hun.”
Mae disgwyl i’r uwch was sifil Sue Gray gyhoeddi ei hadroddiad yr wythnos hon ynghylch honiadau am bartïon yn Downing Street a Whitehall.