Wrth ymateb ar ran Plaid Cymru, mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, wedi croesawu cyhoeddiad Heddlu Llundain eu bod nhw am gynnal ymchwiliad i’r partïon yn Downing Street a Whitehall.

Mae’r Comisiynydd, y Fonesig Cressida Dick, yn dweud bod yr heddlu wedi derbyn gwybodaeth gan ymchwiliad Sue Gray, yr uwch was sifil sy’n ymchwilio i’r holl honiadau am y digwyddiadau honedig a gafodd eu cynnal yn ystod y cyfnodau clo, a’u bod nhw bellach yn ymchwilio i ganfod a gafodd cyfyngiadau Covid-19 eu torri.

Ond dydy hi ddim wedi cadarnhau pa ddigwyddiadau sydd yn destun ymchwiliad gan yr heddlu, nac yn fodlon dweud pryd y bydd yr heddlu’n dod i gasgliad.

Mae hi’n dweud na fydd dirwyon yn cael eu rhoi “o reidrwydd ym mhob achos ac i bob person”, ac na fydd yr heddlu’n rhoi diweddariadau cyson yn ystod eu hymchwiliad.

Ond dywedodd y byddai diweddariadau yn cael eu rhoi “ar adegau arwyddocaol”.

Mae disgwyl cyhoeddi canlyniadau’r ymchwiliad gan Sue Gray yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond dydy hi ddim yn glir sut mae cyhoeddiad Heddlu Llundain yn effeithio ar amserlen yr ymchwiliad hwnnw erbyn hyn.

Mae’r Swyddfa Gabinet a Heddlu Llundain yn parhau i gynnal trafodaethau, meddai llefarydd.

Ymchwiliad dan bwysau

Fe fu Heddlu Llundain dan gryn bwysau ers tro i gynnal ymchwiliad i’r honiadau bod Boris Johnson a’i wraig wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau yn eu cartref yn Downing Street.

Daeth yr honiadau i’r amlwg mewn adroddiad yn y Daily Mirror ddeufis yn ôl.

Mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, wedi bod yn cwestiynu sut mae Boris Johnson yn dal yn brif weinidog tra bod ymchwiliad yr heddlu ar y gweill.

Mae Hywel Williams bellach wedi ychwanegu ei lais e a’r blaid at y drafodaeth wrth drydar heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25).

“Mae @Plaid_Cymru yn croesawu bod Heddlu’r Met o’r diwedd wedi cadarnhau y byddant yn ymchwilio mewn i’r partïon anghyfreithlon honedig yn Stryd Downing tra bod y gweddill ohonom ni dan glo,” meddai ar Twitter.

“Ddylai neb, gan gynnwys y rhai sydd ar frig y llywodraeth, fod uwchlaw’r gyfraith.”

Parti deng munud Downing Street: “Doeddech chi ddim i fod i gyfarfod am ddeg eiliad”

Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn ymateb gan dynnu sylw at brofiadau pobol sydd wedi methu mynd i angladdau neu ganu wrth ffarwelio ag anwyliaid

“Rhaid i Boris Johnson ymddiswyddo”

Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn ymateb i honiadau am barti pen-blwydd prif weinidog y Deyrnas Unedig