Cafodd dros 500 o bobol yng Nghymru eu harestio am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau dros gyfnod o un mis y llynedd.

Fe gynhaliodd y pedwar gwasanaeth heddlu eu hymgyrch flynyddol yn erbyn yfed a gyrru dros gyfnod y Nadolig rhwng Rhagfyr 1 ac Ionawr 1.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 501 o yrwyr eu harestio i gyd – 299 o’r rheiny am yfed a gyrru, a 202 am gymryd cyffuriau a gyrru.

Roedd 99 o’r arestiadau hynny wedi cael eu gwneud ar ôl gwrthdrawiadau ar y ffordd, gan gynnwys 85 yn dilyn achosion o yfed a gyrru.

Heddlu’r Gogledd wnaeth y mwyaf o arestiadau dros gyfnod yr ymgyrch, gyda 187 o yrwyr yn cael eu dal yn gyrru dan ddylanwad – 115 o’r rheiny am yfed a gyrru a 72 am gymryd cyffuriau a gyrru.

‘Parhau i weithredu’n llym’

Mae un o uwch swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn dweud ei bod yn “siomedig” bod cymaint o bobol yn peryglu bywydau drwy yrru dan ddylanwad.

“Mae’r ffaith bod diod neu gyffuriau’n ffactor mewn bron 100 gwrthdrawiad yng Nghymru mewn un mis yn destun pryder mawr, ac yn gwbl annerbyniol,” meddai’r Uwch-arolygydd Clark Jones-John o Heddlu Dyfed-Powys.

“Rydym yn cynnal yr ymgyrchoedd hyn er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb gyrru dan ddylanwad, felly mae’n siomedig iawn bod cymaint o bobol, a fydd yn colli eu trwydded yrru, wedi’u dal.

“Bydd y canlyniadau’n fwy difrifol ar gyfer rhai, a fydd yn colli eu swyddi.

“Mae swyddogion heddlu’n gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a dylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol wybod y byddwn ni allan yno’n disgwyl amdanynt.

“Byddwn ni’n parhau i weithredu’n llym yn erbyn y rhai sy’n mentro’n ddiangen ac yn eu dwyn gerbron y llysoedd.”

‘Anghyfrifol ac anghyfreithlon’

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gofnodi 99 o arestiadau, gyda 66 o unigolion wedi meddwi a gyrru, a 33 wedi cymryd cyffuriau cyn mynd y tu ôl i’r olwyn.

Yng Ngwent, fe wnaeth yr heddlu arestio 51 o yrwyr am yfed a 49 o yrwyr a oedd wedi cymryd cyffuriau, sydd yn 100 o yrwyr ar ei ben i gyd.

Cofnododd y gwasanaeth heddlu mwyaf, Heddlu De’r, gyfanswm o 115 o arestiadau – 67 o’r rheiny am yfed a gyrru, a 48 am gymryd cyffuriau.

“Cafodd dros 500 o yrwyr Nadolig a Blwyddyn Newydd i gofio am y rhesymau anghywir ar ôl cael eu harestio gan swyddogion heddlu ledled Cymru am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau,” meddai Mark Travis, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu’r De.

“Mae’n siomedig bod rhai pobol dal yn barod i fentro a mynd tu ôl i’r olwyn dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

“Dydw i ddim yn credu bod pobol yn deall peryglon yfed a gyrru’n llawn. Mae’n amlwg nad yw’r rhai sy’n mentro’n meddwl am deuluoedd y rhai sydd wedi marw wrth law gyrrwr sydd wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.

“Yn aml, ein swyddogion yw’r rhai cyntaf i gyrraedd lleoliad gwrthdrawiadau o’r fath, ac mae rhai o’r pethau maen nhw wedi gweld yn erchyll.

“Ni ddylai neb weld y fath olygfa na dioddef oherwydd gweithredoedd anghyfrifol ac anghyfreithlon rhywun arall.”