Mae un o Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd yn dweud bod Mark Drakeford yn rhoi anghenion y Deyrnas Unedig uwchlaw anghenion Cymru.
Daw sylwadau Luke Fletcher, llefarydd economi Plaid Cymru, wrth iddo ymateb i sylwadau prif weinidog Cymru ar Radio 4 fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25).
Cafodd Mark Drakeford ei holi a fyddai’n dymuno i Lywodraeth Cymru gael pwerau dros TAW ar danwydd, ac fe ddywedodd fod “rhaid pethau mae angen i chi eu gwneud ar lefel y Deyrnas Unedig, oherwydd mai dyna’r pethau’n sy’n cadw’r Deyrnas Unedig ynghyd”.
“Ac mae system sicrwydd cymdeithasol a system dreth a budd-daliadau wedi’u hailddosbarthu gref ymhlith y rhesymau dros fod eisiau perthyn a byw yn y Deyrnas Unedig,” meddai.
Yn ôl Sefydliad Bevan, does gan bron i bedair ym mhob deg aelwyd ddim digon o arian i brynu unrhyw beth mwy nag eitemau beunyddiol.
Roedd nifer yr aelwydydd sy’n cael trafferth hel digon o arian ar gyfer eitemau beunyddiol wedi codi o ryw 110,000 fis Mai y llynedd i ryw 165,000 erbyn mis Tachwedd.
Mae 12% o’r holl aelwydydd yng Nghymru o leiaf un mis ar ei hôl hi wrth dalu biliau, tra bod mwy nag un ym mhob 20 o aelwydydd yn poeni am golli eu cartrefi.
Ac fe fu’n rhaid i un ym mhob deg o deuluoedd sydd â dau o blant dorri’n ôl ar fwyd i’w plant.
‘Bydd Cymru’n ddi-rym’
“Pe bai’r Prif Weinidog yn poeni llai am warchod cysegredigrwydd yr Undeb ac yn poeni mwy am fynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd anghydraddoldeb, byddai’n gweld mai diffyg grym tros y systemau treth a lles yw’r union reswm pam na allwn ni yng Nghymru wneud fawr ddim mwy na thrin symptomau tlodi,” meddai Luke Fletcher.
“Bydd yr argyfwng costau byw yn goddiweddyd Covid fel y bygythiad mwyaf i’n pobol yn 2022.
“Tra bydd pwerau sydd eu hangen i ddiogelu pobol Cymru rhag yr argyfwng hwn sydd ar y gorwel yn aros yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd Cymru’n ddi-rym wrth helpu ein pobol fwyaf bregus oni bai ein bod ni’n gwneud yr hyn mae’r Prif Weinidog yn ymddangos mor gyndyn i’w wneud – cael grymoedd tros ein systemau treth a lles.
“Wrth roi anghenion yr Undeb yn gyntaf, mae hyn yn rhoi anghenion Cymru, a’n pobol, yn yr ail safle.”