Bydd ysgolion yn cael penderfynu ar fesurau Covid ar y cyd â chynghorau lleol ar ôl hanner tymor mis Chwefror.

Fe fydd gwisgo mygydau dal yn ofynnol mewn ysgolion am y tro, ond bydd disgwyl i ysgolion ddychwelyd i’w hamserlen arferol.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno arholiadau eleni hefyd, meddai’r Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25).

Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cadarnhau ar Chwefror 10, yn ystod yr adolygiad tair wythnos nesaf, os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny.

Dylai ysgolion weithio gydag awdurdodau lleol a chynghorwyr iechyd y cyhoedd i benderfynu ar y mesurau y gall fod angen eu rhoi ar waith ar ôl yr hanner tymor.

Arholiadau

Mae ffocws Llywodraeth Cymru’n parhau i fod ar gynyddu dysgu i’r eithaf a lleihau ar unrhyw darfu, yn ôl Jeremy Miles.

“Rydw i am ailadrodd wrth ddysgwyr, ysgolion a cholegau y bydd arholiadau ac asesiadau eleni yn mynd yn eu blaen, oni bai bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ei gwneud yn amhosibl iddynt gael eu cynnal – rhywbeth nad ydym yn ei ragweld,” meddai.

“Mae addasiadau i gynnwys arholiadau wedi’u rhoi ar waith i gydnabod yr aflonyddwch a gafodd ei wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fel bod asesiadau mor deg â phosibl, ac a fydd yn galluogi athrawon i ganolbwyntio eu hamser ar y meysydd dysgu allweddol

“Rwy’n annog pob dysgwr mewn blynyddoedd arholiadau i siarad â’u hysgolion a’u colegau am ba gymorth a hyblygrwydd ychwanegol a allai fod ar gael eleni, i’w helpu i symud yn eu blaen yn hyderus.”

Pwysleisia ei fod yn credu mai cynnal arholiadau yw’r ffordd decaf o gynnal asesiadau.

“Dw i’n hyderus mai hon yw’r ffordd decaf, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau heriol mae ysgolion yn eu hwynebu,” meddai.

“Dw i’n cydnabod y bydd disgyblion dros Gymru yn bryderus am sefyll arholiadau’r haf hwn.

“Byddwn i’n dweud wrth ddisgyblion, ysgolion a rhieni, dyw’r rhain ddim am fod fel arholiadau fel ag yr oedden nhw yn haf 2019.

“Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi’n barod y bydd y ffordd o raddio’r arholiadau’n adlewyrchu’r amharu sydd wedi digwydd yn y cyfamser.”

Parti pen-blwydd y Prif Weinidog

Wrth siarad am Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r honiadau diweddaraf am barti pen-blwydd Boris Johnson yn ystod y cyfnod clo cyntaf, dywedodd Jeremy Miles ei fod yn ategu sylwadau Mark Drakeford ar y radio.

“Mae’n gwbl amlwg beth mae’r dystiolaeth yn ei ddangos, a dw i’n credu ei bod hi’n gwbl amlwg i ni gyd beth rydyn ni’n credu y dylai’r Prif Weinidog yn San Steffan ei wneud,” meddai.

Gofynnwyd iddo be fyddai’n ei ddweud wrth blant wnaeth orfod gohirio eu partïon pen-blwydd yn sgil y cyfnodau clo, ond sy’n gweld adroddiadau am barti’r Prif Weinidog.

“Beth fyddwn i’n ei ddweud wrthyn nhw yw fy mod i’n ddiolchgar, fel y mae’r holl Lywodraeth, eu bod nhw wedi cadw at y rheolau,” meddai.

“Trwy gydol cyfnod Covid, rydyn ni wedi gweld lefelau uchel iawn o gefnogaeth tuag at yr agwedd rydyn ni wedi’i chymryd yng Nghymru.

“Mae pobol wedi cadw at y rheolau oedd yn tarfu’n sylweddol iawn ar eu ffordd o fyw oherwydd eu bod nhw’n gweld mai dyna’r ffordd orau o gadw eraill yn ddiogel.

“Hyd yn oed pan mae hynny’n dod gydag anghyfleustra sylweddol iddyn nhw, maen nhw wedi cadw’r rheolau.

“Mae ganddyn nhw hawl disgwyl hynny gan eu harweinwyr gwleidyddol hefyd.

“Ond fy neges iddyn nhw yw ein bod ni’n parhau i ddiolch i chi am y cyfraniad rydych chi’n ei wneud i gadw’ch hunain a phawb yng Nghymru yn ddiogel.”

“Cwbl resymol”

Mae undeb athrawon UCAC yn croesawu’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg heddiw.

“Rydym yn croesawu penderfyniadau diweddaraf Llywodraeth Cymru i symud mewn modd gofalus a graddol tuag at addasu’r mesurau Covid sydd yn eu lle mewn ysgolion, a dychwelyd i’r fframwaith penderfyniadau lleol,” meddai Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb.

“Y flaenoriaeth ar draws y system addysg yw cadw dysgwyr a staff yn iach, ac yn yr ysgol, yn parhau gyda’r addysgu a’r dysgu. Mae parhau am y tro i wneud gorchuddion wyneb yn ofynnol yn elfen ganolog a chwbl resymol o’r strategaeth i wneud hynny.

“Mae’n debygol iawn y bydd penderfyniadau’n dychwelyd i’r lefel leol ar ôl hanner tymor, wedi’u seilio ar asesiadau risg mewn awdurdodau lleol ac ysgolion unigol.

“Nodwn yn ogystal y bwriad i barhau i gynnal cyfres arholiadau’r haf. Gobeithiwn y bydd hynny’n rhoi gymaint o sicrwydd ag sy’n bosib dan yr amgylchiadau presennol i ddisgyblion ac i staff.”

Teithio rhyngwladol

Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi annog pobol i beidio teithio dramor oni bai bod eu taith yn hanfodol, ond fyddan nhw ddim yn cynghori hynny mwyach.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gofyn i bawb sy’n ystyried gwyliau dramor feddwl am eu hamgylchiadau a’u teulu, ac am ffyrdd o ddiogelu ei gilydd os ydyn nhw am deithio dramor.

Er bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddilyn trefn fwy “rhagofalus” na Llywodraeth y Deyrnas Unedig, maen nhw’n parhau “yn anfoddog” i gadw at yr un drefn.

Yn sgil y newidiadau hynny, ni fydd angen i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn gymryd prawf ar ddiwrnod dau na chyn hynny, a fydd dim angen i deithwyr sydd heb eu brechu gymryd prawf diwrnod wyth na hunanynysu am ddeng niwrnod ar ôl cyrraedd Cymru.

O 4yb fore Gwener, Chwefror 11, fydd dim angen i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn gymryd prawf cyn-ymadael cyn teithio i’r Deyrnas Unedig. Bydd rhaid iddyn nhw lenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr yn lle hynny.

Dylai teithwyr sydd heb eu brechu neu deithwyr anghymwys lenwi Ffurflen Lleoli Teithwyr, gwneud prawf cyn-ymadael o fewn dau ddiwrnod i’r amser maen nhw i fod i ymadael, a gwneud prawf PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod dau neu cyn hynny.

Bydd unrhyw un o dan 18 mlwydd oed, waeth beth fo’i statws brechu, ddod i’r Deyrnas Unedig heb brawf cyn-ymadael.

“Rydym yn parhau i fynegi ein pryderon i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â pha mor gyflym y mae wedi dileu mesurau diogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas â theithio rhyngwladol a’r erydiad parhaus o’r mesurau hyn,” meddai Jeremy Miles.

“Yn benodol, mae dadfeiliad y system wyliadwriaeth ar gyfer teithwyr rhyngwladol sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig yn gadael bwlch mawr yn y mesurau diogelu at y dyfodol.

“Rydym yn parhau i ddadlau dros ddull mwy rhagofalus drwy gadw mesurau diogelu iechyd y cyhoedd o’r fath oherwydd y risg o fewnforio amrywiolion newydd o Covid-19 drwy deithio rhyngwladol.”

Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithredu mesurau i annog teithwyr sy’n cyrraedd Cymru i gymryd prawf llif unffordd, a phrawf PCR os yn bositif, i leihau’r risg o fewnforio amrywiolyn newydd.

Byddan nhw hefyd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal system wyliadwriaeth gadarn.