Mae’r Urdd wedi torri dwy record byd Guinness.

Maen nhw wedi bod yn annog pobol ledled y wlad i uwchlwytho fideos ohonyn nhw eu hunain yn canu’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ ar ddechrau dathliadau canmlwyddiant y mudiad heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 25).

Ac fe ddaeth cadarnhad bellach fod y mudiad cenedlaethol wedi torri’r record am y nifer fwyaf o fideos o bobol yn canu’r un gân i gael eu huwchlwytho i Facebook o fewn awr.

Ac mae’r nifer fwyaf o fideos o bobol yn canu’r un gân wedi’u huwchlwytho i Twitter o fewn awr.

Dechreuodd y dathliadau gyda dros 95,000 o blant ac oedolion o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod ynghyd i ddathlu’r pen-blwydd arbennig drwy ymuno â pharti rhithiol ar Zoom.

Hwn yw’r parti mwyaf yn hanes y mudiad, ac fe gafodd ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn, Mistar Urdd a Mei Gwynedd ac ysgolion o bob cwr o Gymru.

Llwyddodd cefnogwyr yr Urdd i dorri record byd drwy uwchlwytho 1,176 o fideos ohonynt yn canu’r un gân, sef ‘Hei Mistar Urdd’ i Twitter a thros 800 o fideos i Facebook.

Uchafbwynt arall y diwrnod oedd y cannoedd o gyfarchion pen-blwydd hapus a dderbyniodd yr Urdd gan ysgolion, enwogion, dylanwadwyr a gwleidyddion, gyda sawl un yn diolch i’r Mudiad am y cyfleoedd unigryw dros y blynyddoedd.

Daeth neges arbennig gan Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

“Mae’r Urdd wedi chwarae rhan anferth yn hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant,” meddai.

“Canrif o gynnig cyfleoedd arbennig ac unigryw i blant a phobl ifanc Cymru yn y Gymraeg.

“Dwi’n dymuno’r gorau i’r Urdd ac yn gobeithio am ganrif arall o ddathlu’r coch, gwyn a gwyrdd.”

Daeth cyfarchiad yr holl ffordd o Efrog Newydd gan yr actor Matthew Rhys.

“Dw i fel miloedd ohonom ni… yn hynod ddiolchgar am y cyfleoedd di-ri a ddaeth i ni oblegid yr Urdd…” meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ddathlu’r holl ddathliadau arbennig a ddaw i’r mudiad yn y flwyddyn arbennig hon. Pen-blwydd hapus iawn i’r Urdd!”

Mae Siân Lewis, prif weithredwr yr Urdd, wedi diolch i’r genedl am eu cefnogaeth a’u hymdrechion yn ystod y dydd.

“Diolch o galon i bawb sydd wedi ymuno yn nathliadau canmlwyddiant yr Urdd heddiw, a’n helpu i gyrraedd y garreg filltir hon,” meddai.

“Does dim dwywaith bod yr Urdd wedi datblygu’n helaeth yn ystod y ganrif a fu, a’r pandemig wedi gorfodi’r Urdd i arbrofi ac arloesi gyda dulliau rhithiol newydd.

“Mae’r prif nod yn parhau, sef darparu cyfleodd gwych ac unigryw i blant a phobl ifanc i fwynhau profiadau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod i’w gofio i’r Urdd, gyda’r gefnogaeth yn profi’r galw am ddyfodol disglair i’r Mudiad.

“Bydd dathliadau’r canmlwyddiant yn parhau trwy gydol y flwyddyn gyda phob math o ddatblygiadau a digwyddiadau cyffrous ac uchelgeisiol, gan gynnwys buddsoddiad o £10m yn ein gwersylloedd ac agor gwersyll amgylcheddol newydd yr Urdd yn Sir Benfro;  cynhadledd chwaraeon cyntaf i ferched yng Nghymru; twrnamaint Rygbi 7 bob ochr gydag elfen ryngwladol, timoedd cymysg ac anabl; bydd Gŵyl Gemau Trefol Ieuenctid cyntaf Cymru ym Mae Caerdydd; a mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ynghyd â amryw o brosiectau rhyngwladol gyda’n partneriaid newydd yn Alabama, Iwerddon, Efrog Newydd, Norwy, Philadelphia a Kenya.”

 

 

Hei Mistar Urdd: “y gân fach” a ddaeth yn anthem y mudiad cenedlaethol

Alun Rhys Chivers

Y cyfansoddwr Geraint Davies heb ddisgwyl y byddai hi’n dal o gwmpas heddiw