Mae cynllun newydd wedi cael ei gyhoeddi er mwyn dod o hyd i sgriptiau a dramâu newydd gan ddramodwyr o Gymru.
Bydd Am Ddrama yn caniatáu i ddramodwyr anfon sgriptiau a dramâu sydd heb eu cyhoeddi yn ddienw at banel o ddarllenwyr er mwyn cael adborth.
Mae hi’n bosib y bydd cyfle i’r sgriptiau mwyaf addawol gael eu datblygu, eu comisiynu a’u cynhyrchu.
Mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd a National Theatre Wales, a gallai sgriptiau a dramodwyr llwyddiannus gael eu paru ag un o’r tri sefydliad er mwyn datblygu’r gwaith ymhellach.
Bydd y dramodwyr yn cael mynediad at banel o ddarllenwyr llawrydd a gafodd eu dewis wedi galwad agored ym mis Awst 2021.
Am y chwe mis cyntaf, bydd y darllenwyr yn cynnwys:
- Charles O’Rourke, sydd â chefndir mewn gwaith llaw, cyfieithu llenyddol ac ymgyrchu cwiar, ac sy’n ddarllenydd sgriptiau i’r Everyman Playhouse yn Lerpwl a Channel 4.
- Lowri Izzard, a dderbyniodd hyfforddiant yn RADA ac sydd newydd orffen gweithio ar ffilm gomedi i Film4 a BFI.
- Mary Davies, sydd newydd gwblhau Doethuriaeth yn Athrofa Shakespeare a’r Royal Shakespeare Company.
- Melangell Dolma, sy’n ddramodydd, actor a Chydlynydd Datblygu Creadigol gyda’r Thetr Genedlaethol.
- Yasmin Begum, sy’n ymgyrchydd, awdur, ac ymarferydd creadigol, ac yn gweithio i Wasg Honno.
- Rahim El Habachi, sy’n Gydymaith Creadigol gyda National Theatre Wales, yn ymgyrchydd dros ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDTC+, ac yn berfformiwr a gwneuthurwr theatr.
Bydd cyfle arall i ymgeisio i fod yn ddarllenydd ar ôl chwe mis.
‘Cynllun cyntaf o’i fath’
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, mai hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru.
“Rwy’n hynod falch ein bod yn cydweithio gyda National Theatre Wales a Theatr Clwyd ar arbrawf mor gyffrous,” meddai.
“Gobeithiwn y bydd yn gyfle i ni rannu’r neges yn eang ac yn genedlaethol ynghylch y cyfleoedd sydd ar gael i’n dramodwyr gyflwyno eu gwaith yn y ddwy iaith i dri o’n prif gwmnïau cynhyrchu theatr, trwy ddull ‘siop-un-stop’.
“Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn gobeithio y bydd y fenter hon yn caniatáu i ni glywed gan leisiau amrywiol a dramodwyr newydd o bob oed, waeth beth yw eu profiad blaenorol.”
‘Agor llwybr newydd a hygyrch’
Mae’r rhaglen yn “agor llwybr newydd a hygyrch at gyfoeth, amrywiaeth a thalent anhygoel” yn y maes, yn ôl Lorne Campbell o National Theatre Wales
“Mae National Theatre Wales, ynghyd â’n partneriaid, yn ymrwymo i agor sgyrsiau creadigol gydag awduron o’r llu o gyd-destunau a diwylliannau sy’n creu Cymru gynhwysol a modern,” meddai.
“Mae dramodwyr Cymru yn gaffaeliad anhygoel i elfen storïol a hunaniaeth esblygol ein cenedl.
“Mae’n holl bwysig i sicrhau bod lleisiau profiadol a newydd fel ei gilydd yn cael llwybrau tryloyw a hygyrch i’w galluogi i rannu eu syniadau a gweithio gyda’r prif gwmnïau cynhyrchu.”
‘Llwyfan i leisiau newydd’
Dywed Theatr Clwyd eu bod nhw wrth eu boddau’n bod yn rhan o’r cynllun.
“Rydyn ni, fel lleoliad, yn credu bod Am Ddrama yn gam pwysig tuag at sicrhau bod lleisiau newydd, amrywiol a thalentog yn cael eu clywed ar lwyfannau ledled Cymru,” meddai Tamara Harvey.
“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda’r Theatr Genedlaethol a National Theatre Wales ar y prosiect cyffrous hwn.”
Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys cyfle i ddarllenwyr barhau i ddatblygu sgiliau dramayddiaeth gyda Ffion Emlyn, Cynhyrchydd Drama Radio i BBC Radio Cymru, a Raphael Martin, rheolwr llenyddol a dramayddiaeth.
Mae Am Ddrama yn alwad agored am sgriptiau sy’n bodoli’n barod, sydd heb gael eu cynhyrchu o’r blaen, na chael eu cyflwyno I’r un o’r tri sefydliad o’r blaen.
Gall y sgriptiau fod ar gyfer unrhyw oedran, ond rhaid iddyn nhw fod ar gyfer perfformiadau byw, gan gynnwys sioeau cerdd.
Mae gwahoddiad i unrhyw ddramodydd 18 oed neu hŷn i gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg, neu’n ddwyieithog, sydd o leiaf 20 tudalen o hyd.
Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sgriptiau yn cychwyn ar Chwefror 16, ac yn dod i ben ar Fawrth 31.