Mae arddangosfa yn Pontio, Bangor, sy’n cael ei churadu ar y cyd â Storiel a Choleg Menai, yn dathlu 40 mlynedd o gwrs Sylfaen Celf Bangor.

Fel rhan o’r arddangosfa, bydd y ffilm Shepherd gan Russell Owen, sy’n gyn-fyfyriwr ar y cwrs, yn cael ei dangos heno (nos Fawrth, Chwefror 1), ynghyd â sesiwn holi ac ateb.

Ar ben hynny, bydd darnau gan gyn-fyfyrwyr eraill ar y cwrs, gan gynnwys cerflun mawr gan Angharad Pearce Jones, comisiwn gan Niki Cotton a ffilmiau gan Bethan Huws a Bedwyr Williams, yn cael eu dangos.

Dywed Russell Owen, sy’n dod o Landudno yn wreiddiol, mai’r cwrs hwn wnaeth ei ysbrydoli a hybu ei ddiddordeb mewn gwneud ffilmiau.

“Mae hi wedi bod yn ugain mlynedd ers yr oeddwn i ar y cwrs a’r cwrs hwnnw wnaeth fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn ffilm,” meddai wrth golwg360.

“Ges i bob cefnogaeth ganddyn nhw.

“Mae hi wedi cymryd cryn dipyn o amser i mi wneud ffilm fy hun, er mod i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant teledu ac ati, a’r prosiect hwn oedd y peth cyntaf i mi erioed ei ysgrifennu.

“Felly mae’n beth arbennig iawn eu bod nhw’n dangos y ffilm fel rhan o’u dathliadau.”

Ffilm seicolegol

Mae’r ffilm seicolegol Shepherd yn dilyn Eric Black, bugail sy’n gaeth ar ynys fawr sy’n llawn cyfrinachau peryglus.

Yn y ffilm, mae ei alar a’i wallgofrwydd yn dod wyneb yn wyneb â grym goruwchnaturiol.

O fewn dim, mae Eric yn brwydro i gynnal ei iechyd meddwl yn ogystal ag achub ei fywyd.

Dywed Russell Owen mai trychineb Goleudy Smalls oddi ar Sir Benfro oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm.

“Yn wreiddiol, roedd y ffilm wedi’i seilio ar stori Goleudy Smalls lle’r oedd dau ddyn mewn goleudy oddi ar arfordir Cymru yn yr 1800au,” eglura.

“Bu farw un o’r dynion, tra bod y llall wedi mynd yn wallgof ac, o ganlyniad, fe newidion nhw’r gyfraith i ddweud bod angen i dri dyn fod yn gyfrifol am oleudai.

“Yr un stori wnaeth ysbrydoli’r ffilm The Lighthouse (Robert Eggers) yn 2019, er ’mod i wedi ysgrifennu fy un i dipyn cyn hynny.

“Ond penderfynais newid fy mhrif gymeriad i fod yn fugail a’r cymeriad arall i fod yn gi defaid oherwydd ’mod i am i’r ffilm fod fwy am yr ynys yn hytrach na’r goleudy.

“Mae’r ynys yn gymeriad yn y ffilm i bob pwrpas ac rwy’n ceisio cyfleu tensiwn ac awyrgylch drwy gydol y ffilm.”