Bydd 49 o artistiaid newydd o Gymru’n rhannu dros £63,000 fel rhan o Gronfa Lansio Gorwelion eleni.
Mae’r gronfa’n rhan o Gorwelion, sef partneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy’n buddsoddi mewn talent gerddorol wreiddiol a rhoi llwyfan iddyn nhw.
Mae Kim Hon, Hanna Lili, Gwenno Morgan, Bandicoot, Cerys Hafana, Ci Gofod, Thallo, Lloydy Lew, Malan, Mali Haf, Sybs, Skylrk, Lemfreck, a Tara Bandito ymhlith yr artistiaid fydd yn elwa yn sgil y cyllid eleni.
Dyma’r cyfanswm mwyaf o arian i gael ei roi ers i’r gronfa gael ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl.
Ers hynny, mae mwy na 250 o artistiaid o dros 60 o wahanol drefi yng Nghymru wedi elwa ar £273,000.
Cwblhau EP
Nod yr arian yw cefnogi “gwaith talent newydd o bob cwr o’r wlad” sy’n “cwmpasu holl sbectrwm y byd cerddorol yng Nghymru”.
Yn y gorffennol mae artistiaid wedi defnyddio’r arian i dreulio amser mewn stiwdio, comisiynu ffotograffiaeth a gwaith celf, hyrwyddo, prynu offer, cynhyrchu fideos, a chostau teithio.
Dywed un canwr-gyfansoddwr o Faesteg ei fod yn falch o gael cefnogaeth Gorwelion ar gyfer rhyddhau ei EP.
“Diolch i’r cyllid, gall fy EP gael ei chwblhau gan beirianwyr sain blaenllaw a chreu ‘cylchgrawn’ ar-lein lle gall gwrandawyr ddysgu mwy amdanaf i a fy ngherddoriaeth,” meddai Jack Davies, sy’n perfformio dan yr enw Ci Gofod.
“Bydd y EP yn cael ei lansio’r haf yma, a bydd yn ychwanegu ffync a neo-soul Gymraeg i grochan y sîn gerddoriaeth Gymreig.”
‘Magu gwreiddiau’
Dywed Soren Araújo y bydd Cronfa Lansio Gorwelion yn cael “effaith fawr” ar ei yrfa.
“Rydw i mor hapus o gael fy newis, allwn i ddim bod yn fwy diolchgar. Bydd Cronfa Lansio Gorwelion yn cael effaith fawr ar fy ngyrfa fel cerddor,” meddai’r cerddor, sy’n dod o Gaerdydd.
“Bydd yn fy ngalluogi i recordio EP o’r diwedd, gan gydweithio â cherddorion eraill o Gymru, i arddangos harddwch yr iaith Gymraeg a fy mamieithoedd (Portiwgaleg a Creole).
“Ymhen amser, bydd yn fy helpu i fagu gwreiddiau yn y wlad brydferth hon y mae fy nheulu a minnau’n ei galw’n gartref.”
Cafodd yr artistiaid eu dewis gan Leigh Jones (PRS), Laura Herd (Queens Hall, Helen Weatherhead (BBC 6Music), Gethin Pearson (cynhyrchydd), Esyllt (DJ Dirty Pop), Rachel KCollier (Cerddor), DJ Jaffa, Lekan (Intricate Management), Kima Otung (Cerddor), Elan Evans (Clwb Ifor Bach), Hollie (Adwaith), Ifan Davies (BBC Radio Cymru/Swnami), Natalie Jones (Focus Wales), ac Andrew Ogun (Cyngor Celfyddydau Cymru).
Y 49 artist fydd yn derbyn cyllid yw:
Alice Low, Anwar Sizbar, Aisha Kigs, Alekxsandr, Artshawty, Asha Jane, Clwb Fuzz, Cupsofte, Teddy Hunter, James and the Cold Gun, Kinnigan, Mack the Great, Mali Haf, Mantaraybryn, Mirari Moore, Niques, Panta Ray, Roman Yasin, Soren Araujo, Su Sang Song, Tara Bandito, Voya, Yazmean, XL Life (i gyd o Gaerdydd); Bandicoot, K(e)nz (Abertawe), The Bug Club (Cil-y-coed), Chasing Shadows (Sir Ddinbych), Celavi, Gwenno Morgan (Bangor), Cerys Hafana (Machynlleth), Ci Gofod (Maesteg), Hanna Lili (Abersili), Hemes (Pontypridd), Kim Hon, Malan (Caernarfon), Harry Jowett (Bro Morgannwg), L E M F R E C K (Gwent), Lloydy Lew (Torfaen), Luke RV (Castell-nedd), Rebecca Hrn (Porthcawl), Skylrk (Dyffryn Nantlle), Sybs (Casnewydd), Szwe (Caerfyrddin), Tapestri (Sir Benfro / Sir Fôn), Thalo (Pen-y-groes), Winger Records, Wobbli Boi (Sir Gaerfyrddin), Wynt (Cwm Rhondda)
‘Buddsoddi yn niwydiant cerddoriaeth Cymru’
Dywed Lisa Matthews-Jones, Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru, eu bod nhw wrth eu boddau o weld “nifer a chyfoeth y ceisiadau a ddaeth i law”.
“Mae llawer iawn o dalent cerddorol yng Nghymru ar draws pob genre ac ymhob cornel, ac mae’r Gronfa Lansio yn gyfle hollbwysig i ddyrchafu’r artistiaid hyn,” meddai.
Ychwanegodd Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect gyda Gorwelion eu bod nhw’n “ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru a BBC Cymru am gefnogi’r prosiect hwn yn ei 8fed flwyddyn, sy’n rhoi’r camau cyntaf hollbwysig i artistiaid yng Nghymru”.
“Mae’n bwysicach nag erioed i gysylltu cymuned, i gredu yn yr artistiaid a’u taith ac i roi buddsoddiad yn niwydiant cerddoriaeth Cymru, a hynny yn yr eco-system gyfan o amgylch yr artistiaid – o’r stiwdios, i gynhyrchwyr, labeli, cwmnïau hyrwyddo a mwy,” meddai.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae’r prosiectau cerddoriaeth hyn yn datblygu.”
Bydd Gorwelion yn dychwelyd i ddigwyddiadau byw gyda sioe Dod Adre yng Nghlwb Ifor Bach gyda Mack the Great, Juice Menace a Lily Beau y mis hwn, ac mae Gorwelion yn bwriadu dychwelyd i Wythnos Cymru yn Llundain ym mis Mawrth cyn teithio o amgylch lleoliadau cerddoriaeth Cymru.