Fe fydd y ganolfan Gymraeg a thafarn gymunedol Saith Seren yn Wrecsam yn dathlu deng mlynedd ers ei hagor ddydd Gwener (4 Chwefror).
Fe agorodd ei drysau yn 2012, yn dilyn llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 2011. Y bwriad oedd cynnal y bwrlwm a’r diddordeb yn y Gymraeg yn lleol. Daeth yn boblogaidd fel cyrchfan i ddysgwyr, pobol leol ac ymwelwyr gyda cherddoriaeth fyw yn Gymraeg a Saesneg yn rhan o’r adloniant.
Ond daeth tro ar fyd yn 2015 pan ddaeth problemau ariannol i’r amlwg. Roedd Saith Seren yn wynebu gorfod cau ond, yn dilyn ymgyrch i’w hachub, fe lwyddodd i oroesi ar ôl i dros 200 o bobol wneud addewid i roi £10 y mis tuag at y fenter. Ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth.
‘Carreg filltir arbennig’
Bydd Saith Seren yn dathlu’r achlysur gyda gig efo Elin Fflur a’r Band nos Wener.
Mae’r gantores a chyflwynydd wedi bod yn gefnogol iawn o’r ganolfan ers y dechrau, fel yr eglura: “Yn y cychwyn cyntaf, o’n i yno ar y noson agoriadol. Dw i wrth fy modd yn mynd yno, maen nhw’n griw gweithgar ac yn gwneud gwaith arbennig. Hefyd, trwy fy ngwaith ar raglen Heno rydan ni wedi darlledu nifer o eitemau a rhaglenni cyfan o’r dafarn a phob amser yn cael croeso a digon o hwyl.
“Mae’n bwysig fod criw mor weithgar â phwyllgor y Saith Seren yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith. Mae’n garreg filltir arbennig i’r criw a gobeithio bydd y Saith Seren yn parhau am ddegawdau i ddod.”
Dywed Elin Fflur ei bod yn bwysig iawn cefnogi Saith Seren am ei bod yn “fenter holl bwysig”.
“Dw i’n gefnogol o unrhyw fenter sy’n ceisio cryfhau statws yr iaith. Mae’n anodd am eu bod mor agos i’r ffin ac felly dw i’n edmygu eu gwaith nhw a, phan fedraf, dw i’n hapus iawn i helpu mewn unrhyw ffordd.”
Y gig nos Wener fydd y tro cyntaf i Elin Fflur a’r Band berfformio gyda’i gilydd ers dwy flynedd oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws ac mae hi’n addo “digon o ganu!”
“Mi fydd yn gymysgedd o’r hen a’r newydd. Dw i heb berfformio gyda’r band ers bron i ddwy flynedd felly mae’n noson gyffrous i ni gyd.”
Dywedodd Cadeirydd Saith Seren, Chris Evans: “Mae Elin Fflur wedi bod i Saith Seren sawl gwaith dros y blynyddoedd, a wastad yn llenwi’r lle. Pan gawson ni bwyllgor i drafod pwy oedden ni am wahodd, hi oedd y dewis delfrydol. Rydan ni’n disgwyl bydd y lle’n llawn nos Wener.
“Roedden ni’n poeni ym mis Ionawr oherwydd y cyfyngiadau ond, fel oedden ni wedi gobeithio, maen nhw wedi codi mewn pryd. Mae Dydd Miwsig Cymru yn syrthio ar yr un diwrnod ac mae’n rhaid diolch iddyn nhw hefyd am gefnogi’r gig. Mi fydd yn awyrgylch arbennig iawn.”
Bydd Elin Fflur a’r Band yn perfformio yn Saith Seren nos Wener, 4 Chwefror. Mae tocynnau yn £6 ac ar werth yn Saith Seren neu drwy ffonio’r Cadeirydd Chris Evans ar 07885567512.