Mae pryderon wedi codi y gallai mwy o doriadau i gyllid y celfyddydau ym Mhowys achosi i gyfleusterau gau.
Mewn cyfarfod yr wythnos hon, fe wnaeth cynghorwyr ystyried gostwng y cyllid ar gyfer Gwasanaethau Celfyddydol o £62,738 yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Daw hyn ar ôl i’r un swm gael ei dynnu o’r cyllid ar gyfer eleni, sy’n golygu bod £125,476 wedi ei dorri dros gyfnod o ddwy flynedd.
‘Pryderon difrifol’
Byddai pedwar lleoliad yn cael eu heffeithio gan y toriadau arfaethedig – Theatr Hafren yn Y Drenewydd, Canolfan Gelfyddydau Glannau Gwy yn Llanfair-ym-Muallt, yn ogystal ag oriel gelf a sefydliad dawns cymunedol yn y sir.
Mae’r Cynghorydd Gareth Jones yn dweud bod hyn wedi achosi pryderon i’r lleoliadau hynny.
“Ar ôl siarad gyda [Theatr] Hafren, mae ganddyn nhw bryderon difrifol ynglŷn â’u gallu i oroesi’r [toriadau],” meddai.
“Mae Hafren yn defnyddio llawer o’r arian fel cyllid sbarduno i ddenu mwy o arian er mwyn goroesi.”
‘Digonedd o gefnogaeth allan yna’
Wrth ymateb i hynny, mae’r Cynghorydd Rachel Powell, yr Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant a Hamdden, yn dadlau bod y gostyngiadau wedi cael eu cytuno tair blynedd yn ôl, ac nad ydyn nhw’n “syndod”.
“Mae cael rhyw fath o rybudd yn help llaw,” meddai.
“Rhaid i ni hefyd gofio nifer y sefydliadau celfyddydol ym Mhowys dydyn ni ddim yn eu cefnogi [143].”
Mae’n debyg bod pedwar prosiect celfyddydol wedi ymgeisio’n llwyddiannus am gyfanswm o £25,000 mewn grantiau o gronfa Adferiad Covid Powys.
Mae hi’n dweud ei bod hi’n “synnu” nad oedd mwy o sefydliadau wedi ymgeisio.
“Mae yna ffynonellau eraill o arian yn enwedig yn ystod Covid y mae sefydliadau celfyddydol wedi gallu ymgeisio amdanyn nhw,” meddai.
“Mae yna ddigonedd o gefnogaeth allan yna.”
Canolfannau yn “marw’n araf bach”
Ond nododd y Cynghorydd Gareth Jones, pe byddai canolfannau celfyddydau mwy o faint ym Mhowys yn “methu”, yna byddai “sgil-effaith” ar y grwpiau oddi tanyn nhw nad ydyn nhw’n derbyn cyllid.
“Os oes yna arian wedi bod ar gael dros y pandemig, ond bydd llawer o’r cyllid hwnnw yn dod i ben yn fuan iawn, lle byddwn ni wedyn?” meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Jackie Charlton nad yw hi’n hyderus bod y penderfyniad i dorri’r cyllid wedi cael ei werthuso’n llawn.
Gofynnodd y Cynghorydd Jeremy Pugh a oedd cynllun tymor hir ar gyfer y celfyddydau, gan gredu bod canolfannau’n “marw’n araf bach”.
Fe ymatebodd y Cynghorydd Rachel Powell i hynny gan ddweud bod “rhaid i ni weithio gyda nhw o ran iechyd y cyhoedd a sut y gall y celfyddydau a diwylliant gefnogi mentrau eraill ym maes llesiant”.
“Yn y tymor hir mae’n rhaid i ni gydweithio, achos byddai cais Dinas Diwylliant o’r newydd yn y dyfodol yn codi proffil y celfyddydau a grwpiau cymunedol ac yn dod â buddsoddiad pellach,” meddai.
Bydd y pwyllgor yn ystyried y mater ymhellach cyn i’r gyllideb ddrafft gael ei thrafod gan Gabinet Cyngor Sir Powys yn ddiweddarach y mis hwn.