Mae undebau gweithwyr yng Nghymru wedi lansio ymchwiliad i achosion o aflonyddu rhywiol sy’n digwydd yn y gweithle.
Cafodd arolwg ei lansio gan TUC Cymru heddiw (dydd Mawrth, 1 Chwefror) er mwyn casglu gwybodaeth gan weithwyr sydd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Daw’r ymchwiliad ar ôl i undebau weld cynnydd yn yr adroddiadau am ymddygiad amhriodol yn ystod y pandemig.
Roedd rhai gweithwyr wedi datgelu bod cydweithwyr wedi gwneud sylwadau anaddas, gan gynnwys sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae’n debyg bod diogelwch unigolion wedi ei beryglu oherwydd bod llai o weithwyr yn bresennol mewn gweithleoedd.
‘Gwella diogelwch a lles meddyliol’
Bwriad TUC Cymru yw defnyddio canfyddiadau’r ymchwiliad er mwyn creu adnoddau newydd ar gyfer gweithwyr ac ymgyrchu i ddod ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle i ben.
Yn ôl Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, mae llawer o gyflogwyr yn anwybyddu neu’n diystyru difrifoldeb ymddygiad o’r fath.
“Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn gwbl annerbyniol,” meddai.
“Ond rydyn ni’n gwybod bod rhai cyflogwyr yn anwybyddu ymddygiad gwael neu’n gadael iddo barhau heb ei herio.
“Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn cael ei ddisgrifio fel ‘ychydig o hwyl’? Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed ‘dim ond jôc oedd hi, doedden nhw ddim yn ei feddwl o go iawn’?
“Mae’r mudiad undebau llafur yn gwbl hanfodol i gael gwared ar yr ymddygiad hwn.
“Bydd canlyniadau ein harolwg newydd ar aflonyddu rhywiol yn ein helpu i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gynrychiolwyr i roi stop ar dramgwyddwyr o’r fath a gwella diogelwch a lles meddyliol pobl yn y gwaith.”
‘Mae gan bawb yr hawl i weithio mewn amgylchedd diogel’
Cafodd ymgyrch ‘Dim Ardal Lwyd’ ei lansio gan elusen Cymorth i Fenywod Cymru y llynedd i dynnu sylw at amgylcheddau gwenwynig mewn gweithleoedd.
Nododd rheolwr cyfathrebu ac ymgyrchoedd yr elusen, Charlotte Archibald, bod 4 o bob 5 o weithwyr benywaidd a ymatebodd i’r ymgyrch wedi goroesi aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
“Rydyn ni’n falch o gefnogi gwaith TUC Cymru i herio aflonyddu rhywiol yn y gweithle,” meddai.
“Mae gan bawb yr hawl i weithio mewn amgylchedd diogel lle maen nhw’n cael eu parchu, ond i lawer o fenywod, nid felly y mae mewn gwirionedd.
“Bydd gan lawer gormod o fenywod eu stori eu hunain am aflonyddu rhywiol, o ba mor ddiraddiol, dilornus a pheryglus oedd y profiadau roedden nhw wedi’u cael.
“Pan fydd pobl yn y gweithle yn dibrisio neu’n gwrthod credu profiadau o’r fath, mae’n cyfrannu at ddiwylliant ehangach sy’n normaleiddio trais a cham-drin yn erbyn menywod.
“Bydd y gwaith y mae TUC Cymru yn ei wneud i gael darlun clir o raddfa ac effaith aflonyddu rhywiol, ac i roi’r adnoddau i Gynrychiolwyr ddarparu’r cymorth a’r arweiniad angenrheidiol, yn ased enfawr o ran gwneud gweithleoedd yn fwy diogel i bawb.”
Mae’r arolwg gan TUC Cymru ar gael ar-lein yn Gymraeg a Saesneg, ac maen nhw’n croesawu ymatebion gan bawb sy’n gweithio yng Nghymru, nid yn unig aelodau undebau.