Mae’r farchnad dai wedi gweld y dechrau cryfaf i’r flwyddyn ers 2005, yn ôl y data diweddaraf.

Bu cynnydd o 11.2% mewn prisiau tai rhwng Ionawr 2021 ac Ionawr 2022, o gymharu â 10.4% ym mis Rhagfyr 2021, dros y Deyrnas Unedig, meddai Cymdeithas Adeiladu Nationwide.

Er hynny, dywedodd y Nationwide ei bod hi’n debygol y bydd y farchnad yn arafu eleni.

Ni fydd tai mor fforddiadwy, ac mae hynny’n debygol o arafu’r twf yn y farchnad, wrth i gyllidebau pobol gael eu gwasgu gan gynnydd mewn costau byw, meddai.

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi codi 24.4% ers dechrau’r pandemig, gyda phrisiau tai sengl Cymru wedi codi mwy na phrisiau mewn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig.

Mae sawl arolwg wedi dangos mai Cymru welodd y twf blynyddol uchaf mewn prisiau tai yn 2021 hefyd.

“Llai fforddiadwy”

Dywedodd Robert Gardner, prif economegydd Nationwide: “Bu cynnydd blynyddol o 11.2% mewn prisiau tai ym mis Ionawr, y cynnydd cyflymaf ers mis Mehefin llynedd, a’r dechrau cryfaf i flwyddyn ers 17 mlynedd.

“Cododd prisiau 0.8% o fis i fis, ar ôl ystyried effeithiau tymhorol, gan godi am y chweched mis yn olynol.”

“Er bod y rhagolygon yn parhau’n ansicr, mae hi’n debyg y bydd y farchnad dai’n arafu eleni.

“Mae’r cynnydd mewn prisiau tai wedi mynd ymhell tu hwnt i’r cynnydd mewn cyflogau ers dechrau’r pandemig, ac o ganlyniad, mae fforddiadwyedd tai wedi dod yn llai ffafriol.

“Er enghraifft, mae blaendal o 10% ar gyfer tŷ arferol i rywun sy’n prynu am y tro cyntaf yn gyfystyr â 56% o’u henillion gros blynyddol, y ganran uchaf erioed.

“Mae cwymp mewn fforddiadwyedd yn debygol o arafu gweithgarwch y farchnad a’r cynnydd mewn prisiau tai, yn enwedig gan fod cyllidebau aelwydydd dan bwysau yn sgil cynnydd sydyn mewn costau byw.”

Chwyddiant

Dywedodd Gabriella Dickens, uwch economegydd gyda Pantheon Macroeconomics y gallai prisiau tai gynyddu eto os yw aelwydydd yn barod i wario’r arian y gwnaethon nhw ei gynilo yn ystod y pandemig.

“Ond nid yw twf prisiau tai wedi gwneud yn dda mewn cyfnodau o chwyddiant uchel, yn sgil yr ergyd i incymau gwirioneddol,” meddai Gabriella Dickens.

“Yn wir, rydyn ni’n disgwyl i incymau gwario gwirioneddol aelwydydd ostwng tua 1.5% eleni wrth i chwyddiant gynyddu a threthi godi.”

Prisiau tai sengl Cymru wedi codi 24.4% ers dechrau’r pandemig

Mae prisiau tai sengl yng Nghymru wedi codi mwy na phrisiau mewn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Halifax

Prisiau tai’n parhau i godi: “Mae ein cymunedau’n dioddef,” medd Mabon ap Gwynfor

“Mae angen i gartrefi fod yn fforddiadwy eto i bobol ym mhob rhan o Gymru,” medd yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd

“Arloesi lleol” ar Ynys Môn er mwyn helpu i ddatrys yr argyfwng tai

Adnewyddu adeiladau gwag a llunio Siarter Dai Ynys Môn ymhlith y syniadau gafodd eu crybwyll mewn gweithdai gafodd eu trefnu gan Fenter Môn