Mae adroddiad sy’n rhannol seiliedig ar dystiolaeth o ardal Abertawe wedi dod i’r casgliad bod yna “fethiannau helaeth” yn y ffordd mae’r heddlu a’r awdurdodau’n mynd i’r afael â gangiau sy’n ecsbloetio plant yn rhywiol.
Dywed yr adroddiad fod yr heddlu a’r awdurdodau’n tanbrisio maint y broblem rhag iddyn nhw gael sylw negyddol, a bod rhai dioddefwyr wedi cael eu treisio a’u camdrin yn rhywiol – un ohonyn nhw gan 23 o ddynion gyda dryll – ac wedi cael eu beio gan yr awdurdodau, gyda rhai hefyd yn derbyn cofnod troseddol am droseddau a gafodd eu cyflawni wrth iddyn nhw gael eu hecsbloetio.
Dywed adroddiad Ymchwiliad Annibynnol i Gamdriniaeth Rywiol Plant (IICSA) fod yna “ragdybiaeth ffaeledig” fod y sefyllfa’n gwella, er bod tystiolaeth yn awgrymu i’r gwrthwyneb, ac mae’n dod i’r casgliad fod yr heddlu a’r awdurdodau’n tanbrisio maint y sefyllfa er mwyn ceisio osgoi sefyllfa arall debyg i Rochdale neu Rotherham.
“Dydy ecsbloetio plant yn rhywiol gan rwydweithiau ddim yn ffenomen sy’n anarferol nac wedi’i gyfyngu i nifer fach o lefydd lle mae achosion troseddol yn cael cryn sylw,” meddai’r Athro Alexis Jay, cadeirydd yr ymchwiliad.
“Daethon ni o hyd i fethiannau helaeth gan awdurdodau lleol a heddluoedd yn y modd yr aethon nhw i’r afael â chamdriniaeth rywiol.
“Mae’n debyg fod yna ragdybiaeth ffaeledig fod ecsbloetio plant yn rhywiol yn gostwng, fodd bynnag fe ddaeth yn broblem sydd yn cael ei chuddio hyd yn oed yn fwy ac yn cael ei thanbrisio’n gynyddol.”
Yr adroddiad
Mae’r deunawfed adroddiad o’i fath yn cynnwys tystiolaeth o ddwy ardal lle mae’r broblem ar ei gwaethaf, sef Abertawe a Tower Hamlets yn Llundain, yn ogystal â Bryste, Durham, St Helens a Swydd Warwick.
Yn ôl yr ymchwiliad, doedd ganddyn nhw ddim “darlun dibynadwy” o’r sefyllfa yn yr ardaloedd hyn, gyda’r dystiolaeth yn aml “yn ddryslyd”.
Doedd dim data o gwbl yn ardaloedd Abertawe a Tower Hamlets, er bod yr ymchwiliad yn ymwybodol o’r broblem yno, ac fe wnaeth yr ymchwiliad ymateb “yn wael” i hyn, meddai’r ysgrifennydd John O’Brien.
“Mae’r diffyg cofnodi data’n gywir yn golygu, ar lefel sylfaenol, na allai’r un o’r awdurdodau… edrych i fyw eich llygaid a dweud, ‘Rydym yn deall graddfa a natur camdriniaeth yn ein hardal, ac rydym yn rhoi ar waith y mecanweithiau cywir i erlyn y rhai sy’n gyfrifol ac yn rhoi’r gefnogaeth gywir i’r rheiny sy’n ddioddefwyr’,” meddai.
“Roedd hi’n glir o’r dystiolaeth nad oedd gan yr un o’r heddluoedd nac awdurdodau lleol yn ardaloedd yr astudiaeth achos yn yr ymchwiliad hwn ddealltwriaeth fanwl o rwydweithiau’n ecsbloetio plant yn rhywiol yn eu hardal,” meddai’r adroddiad.
Abertawe
Yn Abertawe, cafodd plentyn ei ddisgrifio ar bapur fel unigolyn oedd â “phartneriaid rhywiol er pan oedd yn 11 oed” – er bod hynny’n anghyfreithlon i blant o dan 13 oed.
Roedd dioddefwyr, oedd â hanes o niweidio’u hunain ac o redeg i ffwrdd o’u teuluoedd, yn disgrifio dro ar ôl tro sut roedd eu honiadau yn cael eu hanwybyddu gan yr heddlu.
Mewn rhai achosion, cafodd plant gofnodion troseddol.
Mewn un achos, cafodd merch oedd wedi cael ei chamdrin am gyfnod ar ôl troi’n 12 oed gofnod troseddol am sawl trosedd gan gynnwys bod ag arf yn ei meddiant ar ôl dal cyllell wrth redeg ar ôl rhywun oedd wedi ymosod arni.
Casgliadau
Yn ôl yr ymchwiliad, mae angen “newid diwylliant” ac mae angen i bob sefydliad “weld y dioddefwr ac nid y drosedd” fel nad yw plant yn cael eu “troi i ffwrdd rhag adrodd am ecsbloetio rhywiol”.
Dywed yr adroddiad fod angen i arweinwyr uwch awdurdodau lleol a’r heddlu ddangos arweiniad er mwyn “dileu agweddau ac ymddygiad sy’n awgrymu bod plant sy’n dioddef ecsbloetio rhywiol rywsut yn gyfrifol”.
Ymhlith ei argymhellion mae’r angen i heddluoedd ac awdurdodau lleol gasglu data penodol ynghylch pob achos maen nhw’n ymwybodol ohonyn nhw neu lle maen nhw’n amau bod plant yn cael eu hecsbloetio gan gynnwys gangiau a rhwydweithiau cyfundrefnol.
Mae disgwyl i’r adroddiad terfynol gyrraedd San Steffan yn ddiweddarach eleni.